In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Castell Caerffili

16 Chwefror 2009

Gilbert de Clare, Iarll Caerloyw a Hertford, ac arglwydd Morgannwg - un o arglwyddi Eingl-Normanaidd mwyaf y deyrnas, a adeiladodd gastell Caerffili, yn cychwyn yn 1268.

Ar y pryd, roedd Llywelyn ap Gruffudd yn rheoli'r rhan fwyaf o ogledd a chanolbarth Cymru, ac roedd ei bwerau ar eu hanterth yn dilyn arwyddo Cytundeb Trefaldwyn yn 1267, lle cafodd Llywelyn ei gydnabod fel Tywysog Cymru gan Harri III, Brenin Lloegr. Hawliodd Llywelyn arglwyddiaeth ar Senghennydd, ond gwelai Gilbert hynny'n fygythiad iddo, a mynnai gryfhau ei afael ar Flaenau Morgannwg.

Ymateb Llywelyn i waith Gilbert yn cychwyn castell Caerffili oedd ymosod arno yn 1270 ac eto'r flwyddyn ganlynol. Ymyrrodd Harri III yn y cweryl, gan geisio cadw'r heddwch, ond llwyddodd Gilbert i ailgychwyn y gwaith a'i orffen.

Mae maint y castell yn frawychus o fawr hyd yn oed heddiw. Mae'n gorchuddio ardal o 30 acer, ac mae'n un o'r cestyll mwyaf yn Ewrop - ail yn unig ym Mhrydain i gastell Windsor, ac yn fwy nag unrhyw un o gestyll Edward I yng ngogledd Cymru. Caiff ei ystyried yn un o'r enghreifftiau cynharaf ac un o'r gorau o gastell consentrig ym Mhrydain.

Ychydig flynyddoedd yn unig y bu'r castell yn amddiffyniad yn erbyn Llywelyn, gan iddo gael ei ladd yn 1282. Llwyddodd Edward I yn ei ail ryfel yn erbyn y Cymry i ddiddymu bygythiad y Tywysogion Cymreig i bob pwrpas, ac o ganlyniad doedd dim galw ar gastell Caerffili fel bastiwn yn erbyn y Cymry.

Methodd gwrthryfelwyr 1294 a 1316 i wneud fawr o argraff ar gastell Caerffili. Bu'r castell dan warchae yn ystod gaeaf 1326-27 oherwydd y rhyfel rhwng Edward II a'r farwniaid, ac eto yn 1329. Hyd y gwyddys, ni wnaeth dilynwyr Owain Glyndŵr unrhyw ymgais i ymosod ar Gaerffili.

O dipyn i beth, dirywiodd cyflwr y castell er i beth gwaith atgyweirio gael ei wneud ar rannau ohono, yn arbennig porthdy'r Dwyrain gafodd ei ddefnyddio fel carchar. Wedi Rhyfel Cartref 1642-1648, gorchmynnodd Oliver Cromwell i'r castell gael ei ddinistrio, ac mae'r tŵr de-ddwyreiniol gogwyddol yn un o ganlyniadau'r difrod a achoswyd.

Mae'r tŵr dros 20 medr (80 troedfedd) o uchder, ac yn gwyro dros 3 medr (12 troedfedd), sef 10 gradd o'r perpendicwlar. Hynny yw, mae'n gwyro mwy na thŵr enwog yn Pisa, yr Eidal, nad yw'n gwyro ond 5 gradd.

Mae Caerffili'n ddyledus am ei gyflwr heddiw yn bennaf oll i'r 4ydd Ardalydd Bute (1881-1947), perchnogion y castell hyd 1950, a fu'n gwario'n helaeth i adfer y neuadd fawr a'r muriau. Parhawyd y gwaith adfer pan ddaeth y castell i feddiant y Llywodraeth, ac wedyn i Cadw; y dasg fwyaf oedd ail-greu'r llynnoedd helaeth o amgylch yr adeiladau mawreddog hyn. Dyma un o gestyll mawr Ewrop.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.