Cartrefi'r Celtiaid

top
Bryn Lligwy

Ewch yn ôl mewn amser i Oes yr Haearn pan oedd Celtiaid Cymru yn byw mewn bryngaearau a thai crwn. Yma cewch hanes olion Celtaidd Castell Bryn Gwyn a Din Lligwy.

Castell Bryn Gwyn

Castell Bryn Gwyn
Castell Bryn Gwyn

Mae Castell Bryn Gwyn wedi ei amddiffyn gan ffos uchel ac, yn anarferol, mae wedi ei leoli ar dir gwastad. Wedi cloddio yno yn 1959 a 1960 darganfuwyd fod y rhagfur a'r ffos, sydd bellach wedi ei lenwi, yn debyg o ran ffurf i amddiffynfeydd bryngaerau.

Dangoswyd hefyd bod gan Gastell Bryn Gwyn hanes hir a chymhleth o gael ei ddefnyddio.

Mae darnau o fflint a chrochenwaith o'r oes Neolithig a ganfuwyd yn y ffos yn awgrymu bod tir wedi ei amgáu yma mor bell yn ôl â thua 2000CC.

Ail-adeiladwyd yr amddiffynfeydd yn ddiweddarach yn ystod Oes yr Haearn.

Mae'r ffos sy'n ei amgylchynu wedi goroesi'n dda - o glai a graean 10m o led a 2m o uchder yn amgylchynu ardal wastad sy'n 17m mewn diamedr; mae cloddiau cerrig yn ei atgyfnerthu erbyn hyn.

Roedd y safle wedi ei amgylchynu yn wreiddiol gan ffos ddofn ond nid yw hon i'w gweld bellach. Mae rhywfaint o ddifrod wedi ei wneud i'r safle yn sgîl adeiladu'r ffermdy gerllaw. Rheolir y safle gan Cadw.

Din Lligwy

Din Lligwy
Din Lligwy

Mae hwn yn safle diddorol tu hwnt ac yn werth ei weld. Mae'r clwstwr enwog o dai carreg wedi eu hamgáu oddi mewn i fur carreg yn nwyrain Ynys Môn.

Mae'n gyfuniad diddorol o gytiau crwn a phetryal ac mae rhai archeolegwyr yn awgrymu ei fod yn nodweddiadol o fila o Oes yr Haearn.

Mae waliau cerrig y tai a'r amddiffynfeydd yn cynnwys slabiau o galchfaen sy'n sefyll i fyny ar eu hochrau. Byddai rhai o'r adeiladau yma wedi bod yn llefydd byw ac eraill yn weithdai.

Mae darganfyddiadau ar y safle yn cynnwys gwaith metel, crochenwaith a gwydr sy'n arwydd fod pobl wedi byw yma hyd at gyfnod y Rhufeiniaid.

Mae'r safle ar glogwyn isel ac mae'n werth mynd pe bai ond i weld yr olygfa. Mae mynediad i'r safle drwy adeilad petryal ar yr ochr ddwyreiniol - ysgubor oedd hefyd yn borth.

Mae nifer o nodweddion trawiadol yn perthyn i Din Lligwy. Mewn un cornel mae gweddillion tŷ mawr trawiadol, cylch o galchfeini wedi'i adeiladu'n gelfydd gyda grisiau yn arwain at y fynedfa. Hwn oedd y prif gartref ac mae'r darganfyddiadau yma yn cynnwys ingot arian, crochenwaith a phethau gwydr.

Mae haneswyr yn awgrymu bod yr adeilad crwn arall yn y gornel de-ddwyreiniol wedi bod yn gartref hefyd, tra fod y ddau adeilad petryal mwyaf, yn y gornel ogledd-ddwyreiniol ac yn erbyn y wal ddeheuol, yn weithdai gyda rhesi o ffwrneisi i weithio haearn a thomenni slag.

Mae'r safle, fel mae'n sefyll heddiw, yn ganlyniad, fwy na thebyg, i gyfnod hirfaith o ddatblygiad, ac efallai bod y wal sy'n ei amgáu hyd yn oed, wedi ei adeiladu mewn dwy ran gan fod newidiadau amlwg yn y steil adeiladu. Mae'r safle'n cael ei gynnal gan Cadw.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.