Prynu a Gwerthu'r Cob

top
Y Cob, Porthamdog

Ar Fedi 17 1811 agorwyd cob William Alexander Maddocks ym Mhorthmadog.

Am flynyddoedd bu'n rhaid talu toll i'w deulu am groesi nes iddo ddod yn eiddo i gwmni lleol, Ymddiriedolaeth Rebecca.

Un o sefydlwyr yr ymddiriedolaeth, y cyn gynghorydd sir a chynghorydd tref Maldwyn Lewis, sy'n adrodd, yn ei eiriau ei hun, hanes ei brynu, a'i werthu, a'r gwleidyddiaeth y tu ôl i'r fenter:

Yn 1976 cafwyd y syniad o herio hawl yr ystâd i godi tollau ar geir a lorïau. Dadleuem fod gan Maddocks hawl o dan ddeddf 1809 i gasglu tollau ar goets fawr a cheffyl a throl ond nid oes sôn am gerbydau ein hoes ni.

"Erbyn 1970 perchenogion Ystâd Tremadog oedd ewythr y Dywysoges Diana sef yr Arglwydd Fermoy, a'i chwiorydd Mary Gheogheon a Frances Shand Kydd, mam Diana.

Penderfynodd yr Ystad werthu'r Cob a'u heiddo yn yr ardal.

Awgrymodd Mrs Valerie Wyn Williams i'w ffrind, Mary Gheoghean, y buasai yn syniad da i Fermoy gwrdd â mi am sgwrs. Cytunodd yntau ar yr amod nad oedd neb arall yn bresennol ond ni ein dau.

Rhoddodd Dafydd Wigley fenthyg ei swyddfa yn Nhŷ'r Cyffredin i ni i gynnal cyfarfod. Gan fod Fermoy yn hoff o wisgi cawsom botel gan Dafydd inni ei rhannu.

Aeth y trafodaethau ymlaen hyd oriau mân y bore. Er ei dras roedd Fermoy yn ŵr digon clên.

Cafodd Fermoy ar ddeall y buasai rhaid ymladd yn Nhŷ'r Arglwyddi maes o law i brofi eu hawl i godi'r toll ar bob cerbyd oedd yn croesi'r Cob. Gallai hynny gostio cannoedd o filoedd. Dyna paham eu bod yn foddlon gwerthu'r eiddo am £500,000. Ar ddiwedd y sgwrs dywedodd y buasent y fodlon ar £250,000 pe bai pobol leol yn ei brynu.

Maldwyn Lewis"Cefais sgwrs bellach gyda Fermoy a sôn wrtho y buasai un neu ddau ohonom, er bod gennym deulu ieuanc, godi ail forgais ar ein cartrefi i godi arian i brynu ... gostyngodd y pris i £120,000.

Gelwais i weld fy nghyfaill Bryan Rees Jones a chytunodd ef ar unwaith i ymuno gyda mi yn y pryniant. Cawsom sgwrs fer gyda dau o gynghorwyr Plaid Cymru yn lleol sef Emlyn Jones a Dafydd Wyn Jones. Ar y dechrau roeddent yn meddwl fod Bryan a minnau yn tynnu eu coes. Ar ôl inni eu hargyhoeddi ein bod o ddifrif cytunasant y gallai fod o fudd i bobl y fro ac yn sgŵp gwleidyddol inni fel Plaid.

Cytunodd yr Arglwydd Fermoy i gwrdd â Bryan a fi unwaith eto. Soniasom ein bod yn bwriadu, ar ôl prynu, creu elusen fel bod pob elw yn cael ei rannu i fudiadau a chymdeithasau lleol. 'Roeddent yn hoffi'r syniad. Cytunasant yn y diwedd i werthu'r Cob, y Cob Crwn bychan a'r hawl i godi tollau i ni ein dau am £45,000 i'w dalu dros bum mlynedd heb unrhyw log yn daladwy am y tair blynedd gyntaf.

Ar ôl arwyddo'r trosglwyddiad gofynnodd eu cyfreithwyr inni yn chwareus beth fuasem yn ei wneud pe baent hwy yn ein herio nad oedd gennym hawl i godi tollau dim ond ar y cerbydau a enwir yn Neddf 1809. A oeddem yn meddwl y gallem ennill yr achos trwy bledio, fel hwythau, y ffaith fod yr Y stad wedi casglu tollau ar gerbydau modern ers yr adeiladwyd y cerbydau mecanyddol cyntaf ddechrau'r ganrif? Gan ein bod wedi cwblhau'r pryniant tynnwyd eu sylw fod yna ddadl gryfach na honno ymysg y papurau y gallem ei defnyddio.

Cyn ffarwelio crybwyllasant fod grŵp lleol wedi cynnig mwy na ni ond nad oedd ganddynt hwy gymaint o ddylanwad gwleidyddol a bod yr Ystad hefyd yn hoffi'r syniad o greu elusen.

Gydag ein tafod yn ein boch enwasom yr elusen yn Rebecca ar ôl y dewrion gynt ar eu ceffylau ac yn gwisgo ffrogiau merched a losgodd y tollbyrth oedd yn gymaint o faich i dlodion eu dydd.

Ar ôl clirio'r ddyled cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn 1983 i ofyn i'r cyhoedd a oeddynt eisiau dileu'r tollborth ai peidio. Penderfynwyd trwy fwyafrif sylweddol i barhau a rhannu'r elw blynyddol i gymdeithasau'r ardal. Roedd y doll o bum ceiniog wedi ei osod yn y ddeddf - chewch chi ddim ei newid heb fynd i Dŷ yr Arglwyddi.

Ers 1978 rhannodd Rebecca gyfanswm o bron chwarter miliwn i Ganolfannau Cymdeithasol, Papur Bro'r Wylan, clybiau chwaraeon, ysgolion, grwpiau meithrin a llu o glybiau a chymdeithasau o bob math yn ardal Cynghorau Tref Penrhyndeudraeth a Phorthmadog.

Ar Fawrth 1af 2003 ar ôl trafodaethau maith gwerthwyd y morglawdd a'r Cob Crwn a swyddfa'r tollborth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am £220,000. Er mwyn hwyluso trafnidiaeth penderfynasant ddileu'r doll am 3 o'r gloch y dydd hwnnw.

Erbyn hyn mae ganddon ni ryw £300, 000 ac rydym yn buddsoddi'r incwm ohono ar gyfer achosion da. Y gobaith yw y bydd yr arian yn parhau i wneud gwaith da am flynyddoedd.

Maldwyn Lewis


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.