Hanes Ardal yr Wyddfa

top
Nant Peris

Arwel Jones o Benisarwaun sy'n parhau i'n harwain o amgylch bro papur Eco'r Wyddfa.

Un o brif warchodfeydd y dyffryn oedd Castell Padarn neu Dolbadarn erbyn hyn. Cred rhai haneswyr fod rhyw ffurf o warchodfa yn bodoli ar y bryncyn uwchlaw Llyn Peris mor bell yn ôl â dwy ganrif Cyn Crist. Rhan o gaer ehangach yw'r tŵr unig sydd wedi goroesi.

Mae'n debyg i'r gaer gael ei hadeiladu rhywdro rhwng yr wythfed a'r ddeuddegfed ganrif.

Yma y carcharwyd Owain Goch, brawd Llywelyn ap Gruffydd (Y Llyw Olaf) o 1255 hyd 1277 am iddo feiddio gwrthryfela yn erbyn ei frawd a chefnogi'r Sacsoniaid. Daeth y gaer yn lloches i herwyr yn ddiweddarach. Yn y bymthegfed ganrif yn dilyn 'tenantiaeth' hetwr o'r enw Ap Rhys gorchmynnwyd i Gastell Dolbadarn gael ei ddinistrio.

Bu'n rhaid disgwyl hyd deyrnasiad Mari yn 1721 cyn cyflawni'r anfadwaith. Yn nechrau'r ddeunawfed ganrif hefyd daeth y fangre yn gyrchfan artistiaid a pheintwyr. Yn wir, mae cannoedd o luniau o bob math o'r hen furddun ar gael erbyn hyn.

Chwarel lechi fwya'r byd

Mae Dyffryn Peris yn adnabyddus drwy'r byd fel ardal chwarelyddol. Dyma leoliad chwarel lechi fwya'r byd ar un adeg - Chwarel Dinorwig. Nid oes sicrwydd pa bryd y dechreuwyd cloddio am lechfaen ar lechweddau Elidir. Hen dyddynwyr y ddeunawfed ganrif welodd ddefnyddioldeb y lechen.

Cawsant y rhyddid i gloddio eu "pwll llechi" yn union fel y caent ryddid i gloddio am fawn. Bu'n rhaid disgwyl hyd 1788 cyn i'r chwarel weithredu fel busnes cyfalafol ar raddfa eang pryd y dygwyd ymaith y cloddfeydd oddi ar y tyddynwyr. Bu gwrthwynebu ffyrnig, ond Mr. Assheton Smith Y Faenol a'i giwed a orfu yn y diwedd. Erbyn 1900, cyflogwyd 3,000 o weithwyr yn y chwarel.

Bythynnod chwarelwyr yn Amgueddfa Lechi Llanberis

Roedd T Assheton Smith yn cael ei gydnabod yn ŵr digon gonest a chefnogol i'r gweithiwr. Bu farw yn 1858 a phan ddaeth ei fab hynaf George W. Duff Assheton Smith i'w oed ym Mai 1869, dechreuwyd ar gyfnodau o anghydfod a arweiniodd at y Cload Allan enwog, y streiciau, a helbulon sefydlu'r Undeb.

Os bu i Chwarel Dinorwig fod yn gyfrwng i gynnal teuluoedd yn y dyffryn am ddwy ganrif, bu'n gyfrwng hefyd i'w dadrithio trwy afiechydon y llwch, damweiniau dirifedi a marwolaethau cynamserol.

Diwydiant ansicr iawn fu'r diwydiant llechi erioed ac erbyn 1963 dim ond 700 o weithwyr a gyflogwyd yno. Yn 1969 daeth ei thranc gan adael craith las ar ochr yr Elidir. Ond diolch am weledigaeth sawl un, sefydlwyd amgueddfa yn y Gilfach Ddu a ddatblygodd i fod yn un o'r amgueddfeydd gorau yng Nghymru

Llwyddwyd yn wir i gadw i'r oesau a ddêl y caledi a'r glendid a fu. Ceir manylion am gyfnod y Chwarel yn nwy gyfrol ragorol y diweddar Emyr Jones Canrif y Chwarelwr a Bargen Dinorwig 1980.

Cloddfeydd copr

Bu cryn gloddio am gopr yn yr ardal yn ogystal. Cyn y Chwarel lechi, dyma brif gyflogwr yr ardal. Yn 1768 dechreuwyd gweithio Mynydd Parys ym Môn a bu llwyddiant y gwaith hwnnw yn symbyliad i gychwyn cloddio a thurio am gopr yn Nyffryn Peris. Yr oedd ansawdd copr Clogwyn Coch a Nant Peris o ansawdd rhagorol a daeth rhai cannoedd o bobl leol ynghyd a rhai eraill mor bell i ffwrdd a Chernyw a Swydd Efrog i weithio yno.

Ond profodd y fenter hon hefyd yn galed ac erbyn 180 daeth y mwyngloddio i ben. Rhaid cofio fod amaethu tiroedd uchel wedi bod yn gyfrwng ychwanegol i gadw dau ben llinyn ynghyd i laweroedd o drigolion y fro yn y cyfnod hwn. Mae sawl teulu wedi parhau hyd heddiw i amaethu a bugeilio'r ucheldiroedd.


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.