Hanes Pwllheli

top
Penlan Fawr ym Mhwllheli

Mae cysylltiad Pwllheli a'r môr yn ymestyn yn ôl ganrifoedd fel ein hatgoffwyd gan yr hanesydd lleol, Ioan Mai Evans o Lithfaen.

Mae i'r dref gefndir hanesyddol unigryw o ddyddiau hen dywysogion Cymru. Nid yn unig am ei helfeydd o bysgod ond fel tref farchnad y canodd Morus Dwyfach un o gynfeirdd Llyn iddi bron i bum can mlynedd yn ôl.

Hardd d'ogylch hyrddiad eyrddiad eigiawn
hafnau lle daw llongau'n llawn,
a dwyn gwin da iawn ei gael
i'th drefi perffaith drafael
per gordio per gywirdeb
Pwllheli marsiandi Sieb.
(Sieb yn cyfeirio at Cheapside yn Llundain.)

Rhaid bod y dref yn gyrchfan go arbennig o feddwl fod bardd o fri fel Ieuan Tew o Gydweli wedi ymsefydlu yno a chanu Cywydd Moliant sydd yn dangos sut le oedd yno bum can mlynedd yn ôl.

Cwmpas tref ail i nefoedd
cymorth am ymborth im oedd,
lle y ednir oll y dynion,
o bob man heidian i hon,
lle mae cyfedd bonheddig'
lle da, nid oes llid na dig,
lle rhad gwin, lle rhoed y ged,
lle nefol llawen yfed.

Yn rhan o'r hanes hefyd y mae allforio cynnyrch ffermydd a mewnforio coedydd o bellafoedd byd a ddefnyddiwyd i adeiladu llongau yn y dref ei hun - bron i 450 o longau mewn 120 o flynyddoedd o tua 1759.

Llongau

Dros ddau gan mlynedd yn ôl, tair o longau a adeiladwyd yno, y Draper a ddaliwyd gan y Ffrancwyr, y Dove a werthwyd i Wicklow, a'r Expedition a ddrylliwyd wedi deng mlynedd ar hugain o forio.

Ynglyn â'r gwaith o adeiladu llongau ceir llawer o sôn am iard goed William Jones, Pwllheli, gan mai yno yr adeiladwyd y llongau mwyaf fel y William Carey (659 tunnell) a William Pugh (593 tunnell).

Mae un o dafarnau'r dref, Penlan, yn dyddio'n ôl i ddyddiau prysur yr adeiladu llongau a miri smyglo'r brandi a'r gwinoedd a'r halen.

A hen bennill a adroddem ni pan yn blant oedd:
Pwllheli, pwllhalen, pwll nesa'i bwll uffern,
a'r pwll hwnnw oedd Porth Neigwl, a nodwyd ar sawl map fel Hell's Mouth. Sawl cyfrol sydd yng nghadw o fewn muriau Penlan - enw sy'n awgrymu mai at y fan yma yng nghanol y dref y bu'r môr ar un amser.

Flynyddoedd yn ôl a minnau yn gorfod lojio yn nhref Pwllheli er mwyn mynychu'r Ysgol Sir, cyn dyddiau'r bysiau - cof da am y llongau sgota yn dod i'r harbwr fel armada, a ninnau'n cario bocsus yn llawn o bysgod i siop Miss Clark, a chael sgodyn i swper.

Ioan Mai Evans


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.