Hanes Porthmadog a'r Cylch: Rhan 3

top
Portmeirion

Ar y ffordd i gyfeiriad y Rhyd a Maentwrog gwelir arwydd i'r Wern, hen blasdy hynafol a fu unwaith ym mherchnogaeth Teulu Gwydir, Llanrwst, a chartref y pregethwr a'r emynydd Richard Jones (1772 - 1833). Bu bardd arall, Thomas Richards (1883 - 1958), awdur y ddau englyn enwog, "Y Ci Defaid" ac "Ysgyfarnog", yn byw ac yn ffermio yma am ran helaeth o'i oes.

Yn hen eglwys y Llan y mae ffenestr ddwyreiniol yn dyddio o'r 13eg ganrif, rhan o sgrin a thrawst cerfiedig, bedyddfaen o'r 15fed ganrif, a hen gist a wnaethpwyd o foncyff derw. Daethai'r achos hawliau claddu yn y fynwent hon yn 1888 a chryn amlygrwydd i dwrnai ifanc o Borthmadog, David Lloyd George, a bu ei lwyddiant gyda'r achos hwnnw yn hwb mawr i gychwyn ei yrfa wleidyddol ryfeddol. Wrth ddrws yr eglwys mae bedd Mary Jones, morwyn Fferm Penrhyn Isaf, Minffordd, a laddwyd gan yr Hwntw Mawr.

Yn ymyl pentref tawel Rhyd, mae Gorsaf Tan y Bwlch ar Reilffordd Ffestiniog, ac mae'n werth tramwyo'r hen ffordd o Dan y Bwlch i Groesor, sef yr hen ffordd o Feddgelert i Ffestiniog, yn ogystal â llwybrau hyfryd eraill o gwmpas y Rhyd.

Matternhorn Cymru

Pentref ar odre'r Cnicht, y mynydd a alwyd yn Matternhorn Cymru (ar sail ei siap - nid ei uchder!) yw Croesor, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i gerddwyr sydd yn dod yno i ddringo'r Cnicht a'r ddau Foelwyn. Pentref chwarelyddol ar un adeg, ac mae olion chwareli'r Parc a Chroesor, Fron Boeth a Phant Mawr i'w gweld o hyd heb amharu dim ar y prydferthwch ysgythrog naturiol.

Yr oedd rheolwr Chwareli Parc a Chroesor, Moses Kellow (1862 - 1943) yn arloeswr ym myd chwarelyddiaeth yng Ngogledd Cymru. Symudodd y teulu o Gernyw pan oedd yn dair oed a bu fyw weddill ei oes yng Nghroesor gan ddod yn Gymro Cymraeg ac yn aelod gwerthfawr o'i gymdeithas. Llwyddodd i drydaneiddio'r chwarel mor gynnar â 1901, ymhell o flaen unrhyw chwarel arall, pan ddyfeisiodd system gynhyrchu trydan trwy adeiladu cronfa ddwr yng Nghwm Foel, 1460 troedfedd uwchben lefel y mor yng Nghwm Croesor.

Eithr cysylltir Croesor yn bennaf a'r llyfrbryf a'r hynafiaethydd Bob Owen (1885 - 1962) oedd yn berchen ar lyfrgell ryfeddol o lyfrau prin yn ei gartref yn Ael y Bryn. Clerc yn Chwareli'r Parc a Chroesor oedd wrth ei alwedigaeth, ond yr oedd galw mawr arno i ddarlithio ym mhob rhan o'r wlad ac i fod yn athro dosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr. Yr oedd yn awdurdod ar hanes y Crynwyr ac ar achau hen deuluoedd Cymru a Chymry America. Galwyd y gymdeithas i gasglwyr llyfrau yn Gymdeithas Bob Owen.

Cysylltwyd Penrhyndeudraeth am ran helaeth o'r ugeinfed ganrif a'r ffatri gynhyrchu powdwr gwn, Cooke's Explosives, a fu ar un adeg yn cyflogi cannoedd o weithwyr, yn wŷr a gwragedd, gan gyrraedd penllanw yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Syr Clough Williams-Ellis © Ymddiriedolaeth PortmeirionYm mhentref Minffordd, a gysylltir â'r chwarel ithfaen ("Gwaith Sets" ar lafar), rydym yn troi i Bortmeirion, gweledigaeth unigryw Clough Williams-Ellis. Daethai'r safle ar y penrhyn ar lannau'r Ddwyryd i'w feddiant yn 1925 a chan ddefnyddio pentref Portofino yn yr Eidal fel patrwm creodd bentref gwyliau unigryw a ddennodd enwogion o fyd llên ac adloniant dros y blynyddoedd.

Fe ddewiswyd Portmeirion yn y chwedegau fel set i'r gyfres deledu The Prisoner, ac fe grewyd rhyw fath o gwlt o gwmpas y gyfres hon ac mae dilynwyr y gyfres yn cyfarfod o hyd yno.

Bellach mae Portmeirion yn cael ei reoli gan Robin Llewelyn, ŵyr y pensaer (Clough Williams-Ellis), ac enillydd y Fedal Ryddiaith mewn dwy Eisteddfod Genedlaethol gyda'i nofelau arloesol Seren Wen ar Gefndir Gwyn (1992) ac O'r Harbwr Gwag i'r Cefnfor Gwyn (1994). Yr hyn sydd yn taro dyn yn syth yw Cymreigrwydd y lle, a bod y staff yn ddieithriaid yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg. Mae'r llwybrau o gwmpas Portmeirion, yn arbennig y rhai yn Y Gwyllt, yn nefoedd i gerddwyr hamddenol sydd yn hoffi oedi i fwynhau'r golygfeydd ac i syllu ar y coed a'r blodau amrywiol.

Yn ddiweddar addaswyd Castell Deudraeth gerllaw, plasty o Oes Fictoria a chartref A.S. Rhyddfrydol Meirionnydd yn y cyfnod, David Williams, yn westy a thŷ bwyta llwyddiannus.

Does ryfedd i'r athronydd a'r mathemategydd, Bertrand Russell, ddewis byw ei flynyddoedd olaf ym Mhlas Penrhyn gerllaw, ac enw Penrhyndeudraeth oedd ar y telegramau a anfonodd i arweinyddion Rwsia ac UDA o'r swyddfa bost leol i bwyso arnynt i ymatal rhag cychwyn Trydedd Ryfel Byd adeg argyfwng Cuba yn 1963.

Mae un o'r tai hynaf yn yr ardal i'w weld ym Minffordd, sef hen dafarn Y Rhos, lle byddai teithwyr mwy mentrus na'i gilydd a fyddai eisiau croesi'r Traeth Mawr, cyn adeiladu'r Cob, yn aros i'r llanw fynd allan ac yn cyflogi rhywun i'w harwain drosodd. Mae Bob Owen yn Diwydiannau Coll (1941) yn dweud fod coeden onnen yn tyfu ar fin y Traeth ger y Rhos a llun o farch gwyn arni a'r arysgrif "Guide for the Sands". Dywed hefyd fod tystiolaeth fod cychod yn croesi drosodd o Ros i Benmorfa yn nyddiau Gerallt Gymro a Dafydd ap Gwilym.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.