Hanes Nant Conwy

top
Pont Waterloo, Betws y Coed

Parhad o daith o amgylch Nant Conwy gydag Eryl Owain.

Mae Betws-y-coed yn ddi-os yn un o bentrefi enwocaf Cymru, ac yn hynod boblogaidd fel cyrchfan ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Datblygodd o bobtu'r ffordd fawr, yr A5 sy'n cysylltu Llundain a Dulyn. Thomas Telford gynlluniodd y ffordd bresennol yng nghyffiniau'r pentref ac ef a adeiladodd bont Waterloo, y gwelir ar ei bwa o hyd y broliant: "This Arch was constructed in the year the battle of Waterloo was fought" ynghyd â'r dyddiad 1815.

Roedd twristiaid eisoes yn tyrru i'r pentref, wedi eu denu gan olygfeydd lleol megis y Ffos Noddyn (Fairy Glen) a'r Rhaeadr Ewynnol a gamgyfieithwyd i'r Saesneg fel Swallow Falls. Er cyfeirio ato fel pentref, roedd gan y Betws Gyngor Dosbarth Trefol o 1898 tan 1974, y lleiaf o ran poblogaeth trwy Gymru a Lloegr, ond oherwydd fod y cyngor yn derbyn taliadau'r ymwelwyr i Raeadr Ewynnol gallai godi'r dreth isaf hefyd!

Tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Betws-y-coed yn ganolfan i gylch pwysig o arlunwyr, yr enwocaf ohonynt, David Cox, yn un o dirlunwyr gorau ei oes. Torrodd dir newydd drwy gynnwys pobl gyffredin yn eu luniau ac mae ei Gynhebrwng Cymreig yn un o baentiadau mwyaf dylanwadol y cyfnod - a gwnaeth fynwent eglwys Sant Mihangel yn adnabyddus trwy Brydain.

Eglwys Betws-y-coedHon yw'r 'hen eglwys' sy'n cuddio mewn llecyn tawel y tu hwnt i'r Amgueddfa Gerbydau a'r Amgueddfa Reilffordd; mae'n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ac oddi mewn mae cerfddelw i Gruffydd ap Dafydd Goch, wyr i Dafydd brawd Llywelyn ein Llyw Olaf.

Ofn yr afanc

Ar gyrion Betws-y-coed, lle'r ymuna afon Lledr ag afon Conwy, mae llyn mawr, tywyll a llonydd, llyn yr Afanc. Roedd yr afanc anferth a arferai lochesu yno yn achosi braw i'r ardal gyfan felly penderfynwyd cael gwared arno trwy gael merch ifanc hynod o brydferth i'w ddenu allan o'r llyn. Syrthiodd yr afanc i gysgu'n fodlon braf a'i ben ar ei harffed. Rhwymwyd ef mewn cadwynau a chael y ddau ychen cryfaf yn y wlad i'w lusgo drwy Ddolwyddelan a thrwy fwlch yn y mynydd i gyfeiriad Nant Gwynant - sy'n dwyn yr enw Bwlch Rhiw'r Ychen o hyd.

Bu'n gymaint o ymdrech nes i lygad un ychen syrthio o'i ben a dyna pam y gelwir llyn bychan gerllaw yn Bwll Llygad yr Ych! Rhyddhawyd yr afanc yn Llyn Cwmffynnon ger Penygwryd ac yno y mae o hyd, yn ddigon bodlon ei fyd, mae'n rhaid, gan nad oes sôn ei fod yn dychryn neb bellach!

Dyffryn LledrRhaeadr ar afon Llugwy yw'r Rhaeadr Ewynnol. Yn ôl hen chwedl, caethiwyd enaid Syr John Wynn o Wydir yn y rhaeadr gan ryw 'ddewin y gwrachod' trwy ysgrifennu ei enw ar ddarn o groen y tu mewn i botel wydr a arferai ddal gwin y cymun ym mynachlog Glan Llugwy (na fu'r fath le). Y ddedfryd a roddwyd arno oedd y cai symud tua'r lan, hyd gronyn o haidd bob can mlynedd - felly mae ganddo ffordd bell i fynd o hyd!

Arferai telynorion fod yn bwysig yn y fro felly does ryfedd bod chwedlau amdanynt hwythau hefyd. Uwchben afon Llugwy y saif Pencraig Inco, cartref y telynor medrus William Owen tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Bu'n rhaid iddo ffoi o'r ardal oherwydd ei ddaliadau gweriniaethol. Ymhen hir a hwyr dychwelodd i'r hen ardal fel clerwr bler ond erbyn hynny roedd ei wraig wedi anobeithio a threfnu i briodi rhywun arall. Gwahoddwyd William i ganu'r delyn yn y neithior cyn y briodas ond pan glywodd ei wraig nodau ei hoff alaw, gwyddai i sicrwydd pwy ydoedd. Cafwyd wared o'r darpar ŵr yn ddiymdroi a chroesawyd William yn ôl i'w hen gartref.

Eryl Owain


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.