Hanes Nant Conwy

top
Capel Curig

Darganfyddwch hanes Nant Conwy yn nalgylch papur bro Yr Odyn gydag Eryl Owain, gan gynnwys chwedl yr afanc, stori môr leidr Ysbyty Ifan a chyfieithu'r beibl.

Yn ôl arferiad Eryri o alw pen uchaf dyffryn yn nant, cawn Nant Conwy, sef yr ardal o Lanrwst i Lyn Conwy a phentrefi Betws-y-coed, Capel Garmon, Penmachno ac Ysbyty Ifan, a dyffrynnoedd Lledr a Llugwy a phentrefi Dolwyddelan a Chapel Curig.

Ar gyrion pentref Capel Garmon, ar dir fferm Ty'n-y-coed y ceir y dystiolaeth gynharaf yn y fro o bresenoldeb dynol ar ffurf cromlech sy'n dyddio nôl dros bedair mil o flynyddoedd. Ar dir Carreg Coediog gerllaw, y darganfuwyd cwn tân haearn o gyfnod Crist sydd bellach ymhlith trysorau'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Adeiladodd y Rhufeiniaid gaer sylweddol ger Capel Curig, caer a elwir yn Bryn Gefeiliau neu Gaer Llugwy gan na wyddys ei henw iawn, yn agos at lwybr Sarn Helen rhwng Caerhun a Thomen-y-mur.

Erbyn heddiw cysylltir Capel Curig a cherddwyr gwahanol a daeth yn ganolfan bwysig i fynydda. Yma yr ymgartrefodd Charles Evans, y Cymro a ddaeth o fewn dim i fod y cyntaf i gyrraedd copa Everest nôl yn 1953, a brodor o'r pentref oedd y naturiaethwr hynod Evan Roberts, chwarelwr a ddatblygodd i fod yn awdurdod ar blanhigion Eryri.

Llywelyn Fawr, mae'n bur debyg, a adeiladodd gastell Dolwyddelan ar ei safle presennol rhywbryd tua 1210 ond cafodd ei eni, mae'n debyg, yn yr hen gastell ar lecyn islaw'r ffordd fawr. Yn Nhan-y-castell gerllaw y ganed un o bregethwyr mwyaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, John Jones, Tal-y-sarn. Roedd yn daid i'r heddychwr mawr, George M. Ll. Davies, brodor o Lerpwl, a gladdwyd ym mynwent y plwyf yn 1949. Yn yr un fynwent claddwyd J. Lloyd Jones, bardd cadeiriol awdl Y Gaeaf yn Eisteddfod Genedlaethol 1922.

Treuliodd ddeugain mlynedd yn Athro Prifysgol yn Nulyn cyn dychwelyd i'w fro enedigol ar gyfer ei ymddeoliad ond bum mis yn unig wedi dychwelyd bu farw, yn Chwefror 1956.

El Bandito a'r môr leidr

Mae gan bentrefi Pentrefoelas ac Ysbyty Ifan hefyd gysylltiadau â'r Oesoedd Canol. Hen gastell tomen a beili, y 'foel las', a roes ei enw i'r naill a tardda enw'r llall o'r 'ysbyty', rhyw fath o fan aros i bererinion, a sefydlwyd gan Urdd Sant Ioan tua diwedd y ddeuddegfed ganrif. Mewn cyfnod diweddarach, manteisiwyd ar yr hawliau seintwar a ganiateid i'r Urdd gan griw o herwyr a daeth Ysbyty Ifan yn loches i ysbeilwyr a lladron.

Etifeddwyd cryn fesur o ysbryd annibynnol yr herwyr gan drigolion presennol y fro a'u rhyfyg a'u hantur gan Orig Williams, brodor o'r pentref a fu'n Cario'r Ddraig i'r sgwâr reslo ym mhedwar ban byd. Yn eglwys Ysbyty mae cofeb i anturiaethwr arall, Tomos Prys o ffermdy Plas Iolyn ar y bryniau ger Pentrefoelas, bardd a môr-leidr a fu farw yn 1634 a mab i'r 'Doctor Coch' enwog, Elis Prys, a gynorthwyodd Thomas Cromwell i gau mynachlogydd gogledd Cymru gan elwa, mae'n siwr, yn sgil hynny.

Eglwys Sant Tadclud © Bwrdd Croeso CymruRhwng y ddau bentref mae Gwernhywel Ganol, cartref Sarah Jones a anfarwolwyd yn nofel Saunders Lewis, Merch Gwern Hywel. Ym mlynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif bu farw dau fardd rhagorol o Ysbyty Ifan, Huw Selwyn Owen a D. O. Jones, cyfoeswyr, y naill yn saer a'r llall yn ffarmwr a luniasant englynion cywrain a thelynegion caboledig. Roedd William Jones o Nebo, awdur y gyfrol Tannau'r Cawn, genhedlaeth yn hŷn ond roedd yntau yn perthyn i'r un traddodiad, ac mae ei delyneg i'w bentref genedigol ar gof a chadw pobl y cylch o hyd.

Yn Eglwys Sant Tudclud ym mhentref Penmachno mae pum carreg fedd hynafol, gydag un yn dyddio yn ôl i oddeutu 500 O.C. ac yn dwyn y dystiolaeth gynharaf o fodolaeth Gwynedd ar ffurf arysgrif Lladin yn coffau rhyw 'Cantiori, dinesydd o Wynedd'. Mae ffenestr liw yno er cof am un o fawrion y genedl, yr Esgob William Morgan, a anwyd yn y Tŷ Mawr yn y Wybrnant yn 1545, cwm ar gyrion y plwyf sy'n ddigon anghysbell o hyd. Mae ei hen gartref bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr.

Newidiwyd natur y plwyf wedi agor chwareli llechi tua dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a thyfodd pentref newydd, Cwm Penmachno, yn sgil hynny. Prin ganrif y parhaodd y chwareli yn eu hanterth; bu dirywiad cyson o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf ymlaen nes cau'r ddwy olaf, Rhiw-bach yn 1953 a Rhiwfachno yn 1962.

Achosodd hynny ddiboblogi sydyn a chwalu cymdeithas a bu'n ysgogiad i Gwilym R. Tilsley, a fu'n Weinidog gyda'r Wesleaid yn yr ardal, lunio ei awdl enwog, Cwm Carnedd. Bu'r tenor anghymharol, Richie Thomas, yn gweithio yn y ffatri wlân leol am dros ddeugain mlynedd gan wrthod sawl cynnig i symud i borfeydd brasach y tu hwnt i'w fro.


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.