Hanes Y Felinheli

top
Felinheli yn 1900

O Aberpwll i ledled y byd, dyma ychydig am hanes y Felinheli gan Len Williams o'r pentref.

Mae 'na sawl enw wedi bod ar y pentref dros y blynyddoedd. Dechreuodd fel Aberpwll - wedyn y Felinheli, sy'n gysylltiedig efo'r felin a oedd wrth geg afon Heulyn sy'n mynd i'r môr ger y pentref.

Wedyn, yn sgîl y chwarel lechi, newidiwyd yr enw gan Lord Assheton-Smith i Port Dinorwig gan mai porthladd i chwarel Dinorwig oedd o. Ar ôl i'r chwarel gau yng nghanol y 1870au, newidiwyd yr enw yn ôl i'r Felinheli gan y cyngor plwy.

Roedd y Felinheli yn borthladd prysur iawn yn y 19eg ganrif. Dwi'n cofio darllen bod dros 400 o longau wedi gadael y porthladd yn ystod un flwyddyn brysur, yn mynd â nwyddau ledled y byd - Awstralia, America, Ffrainc, yr Alban.

Mi ddaru'r pentref newid ar ôl i'r porthladd gau gan ei fod yn rhoi gwaith i gymaint o bobl. Mi ddaeth yna rai diwydiannau gwahanol i mewn, fel Roberts and Sons, y cwmni cig sy'n dal i fodoli yn ochrau Caernarfon, ond doedd o ddim yr un fath.

Mae'r Felinheli ychydig yn wahanol i bentrefi eraill gan fod ganddo Neuadd Goffa a Chloc Coffa - y ddau yn dyddio o 1926 gan fod un garfan eisiau cloc ac un arall eisiau neuadd i gofio'r rhyfel, felly cafwyd y ddau!

Mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes y pentref ac rwyf wedi cyhoeddi tri llyfr o hen luniau o'r ardal. Mae'r rhan fwyaf wedi eu gwerthu erbyn hyn ond mae 'na wastad gopïau ar gael yn y llyfrgell neu yn archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon.

Dechreuodd fy niddordeb pan wnes i roi'r gair allan fy mod yn chwilio am hen luniau o'r ardal ar gyfer arddangosfa ac mi ges i dros 600 - mae'n syndod o ble daethant i gyd! Daeth un ddynes gyda llun mewn ffrâm dan ei braich - tystysgrif o eisteddfod Caernarfon yn 1935 oedd o, pan enillodd y Girl Guides lleol y wobr gyntaf am ddawns werin! Pethau fel 'na sy'n troi i fyny, pethau gwerthfawr iawn i'r gymuned.

Mae cael arddangosfeydd o'r lluniau yma yn rhoi pleser i bobl, yn enwedig hen bobl - mae'n rhoi hwb iddynt.

Len Williams


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.