Hanes Dyffryn Dysynni

top
Tywyn

Parhad o daith hanesyddol o amgylch bro Dysynni.

Wrth deithio'n ôl trwy Abergynolwyn unwaith eto i gyfeiriad Tywyn efallai y byddwn yn herio'r trên bach gan fod y rheilffordd a'r ffordd fel pe'n cydredeg â'i gilydd nes cyrraedd ardal Dolgoch. Mae'n werth gadael y car am ennyd yma a cherdded y llwybr coediog nes cyrraedd y rhaeadr enwog. Dyma gyrchfan arall hynod o boblogaidd lle mae digon o gyfle i gerdded, hamddena a gwylio'r barcud coch.

Mae'r B4405 yn ein harwain ymlaen i bentref Bryncrug gan fynd heibio i fynedfa culffordd arall i bentref bychan a thawel Abertrinant lle nad oes ond dyrnaid o dai.

Ar gyrion Bryncrug mae plasty bychan Dolau Gwyn. Gwelwyd datblygiad ym mhentref bywiog Bryncrug yn gymharol ddiweddar pan adeiladwyd dwy neu dair o stadau tai bychan, chwaethus yno yn ogystal â dwy ffatri. Yng nghanol y pentref mae cae pêl-droed gwastad lle mae clwb pêl droed unedig Tywyn a Bryncrug yn chwarae eu gemau yng nghynghrair cylch Aberystwyth.

Y ganolfan gymunedol yw neuadd yr Ysgol Gynradd a dyma fan cyfarfod Clwb Ffermwyr Ieuainc llwyddiannus a brwdfrydig Bro Dysynni.

''Efo Deio i Dywyn'

Ar bont y pentref ym Mryncrug rydym yn ailymuno â'r A493 unwaith eto gan ei dilyn i unig dref y fro, sef tref Tywyn.

Tywyn oedd cyrchfan Deio ar un adeg, wrth gwrs, a Thywyn yw cyrchfan miloedd o ymwelwyr sy'n heidio yno i'w carafannau, ac i lan y môr, yn yr haf. Ger y ffordd union o Fryncrug i Dywyn y safai plasty Ynysmaengwyn y cyfeirir ato yn y gân ond fe'i difrodwyd yn llwyr yn 1964 a bellach safle i wersyllwyr a charafanwyr sydd yno.

Yn Nhywyn, yn naturiol, y lleolir prif wasanaethau'r ardal megis yr ysbyty leol, y ganolfan iechyd, swyddfa ranbarthol Cyngor Gwynedd a'r prif fanciau a siopau. Yma hefyd mae Ysgol Uwchradd y dalgylch.

Adeilad mwyaf hanesyddol a diddorol tref Tywyn yw Eglwys Sant Cadfan a sefydlwyd tua'r flwyddyn 516 OC. Ynddi mae maen ac arno arysgrif o'r wythfed ganrif y dywedir iddo fod yr enghraifft gynharaf o Hen Gymraeg. Yno hefyd mae cerflun carreg o farchog sy'n "wylo" gan fod dagrau i'w gweld, weithiau, yn treiglo i lawr ei ruddiau.

Prif gyflogwr y dref y dyddiau hyn yw Cwmni Halo a leolir ar stâd ddiwydiannol fechan ar gwr y dref. Mae'r gwaith yn enwog am gynhyrchu hufen iâ blas mêl, am fariau maethlon i gerddwyr a dringwyr ac am greu bar siocled unigryw ar gyfer clwb pêl droed "Cochion Manceinion". Torrwyd cysylltiad hir y dref â'r fyddin pan gaewyd Gwersyll y Morfa yn 1999.

Rheilffordd y Cambria Mae'r A493 i bentref deniadol Aberdyfi o Dywyn yn dilyn yr arfordir a rheilffordd y Cambria. Dywedir i Lywelyn Fawr gynnal llys yn Aberdyfi yn 1216. Tyfodd yn borthladd allforio llechi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pryd yr oedd cryn fri ar adeiladu llongau yno. Adeiladwyd y llong olaf tua 1880.

Ar droad yr ugeinfed ganrif daeth Aberdyfi yn gyrchfan wyliau ffasiynol a bellach fel pentref gwyliau a chanolfan hwylio y caiff ei adnabod. Mae'r cwrs golff enwog sy'n ymestyn dros ei dwyni hefyd yn atyniad o bwys.

Clychau Cantre'r Gwaelod

Ni ellir gadael Aberdyfi heb gyfeirio at ei "glychau". Mae'r hanes am glywed clychau Cantre'r Gwaelod "yn canu dan y dŵr" yn adnabyddus iawn. Parodd hyn i alaw gyfarwydd "Clychau Aberdyfi" gael ei chyfansoddi. Ymddangosodd yr alaw mewn llyfr Saesneg cyn ei chyhoeddi mewn casgliad o alawon Cymreig yn 1840. Lluniodd Ceiriog eiriau ar yr alaw yn ddiweddarach a daeth "Bugail Aberdyfi" yn unawd enwog.

Mawndiroedd canol oesol Tywyn - hen safle Cantre'r Gwaelod?Gydag Aberdyfi o'n hôl rhaid dilyn yr A493 ymlaen tua phentrefi Cwrt a Phennal. Cynhaliodd Owain Glyndŵr gynulliad pwysig ym Mhennal yn 1406 a chyfeirir at y ddogfen a'r llythyr a anfonwyd at Frenin Ffrainc ar y pryd fel Polisi Pennal.

Un o Bennal oedd Lleucu Llwyd, hithau, y canodd Llywelyn Goch ap Meurig Hen un o farwnadau gorau'r Gymraeg iddi. Yr enw cyntaf sy'n dod i'r meddwl wrth sôn am Bennal yn y cyfnod modern yw un Richard Rees, y baswr adnabyddus, a swynodd gymaint ar gynulleidfaoedd ein gwlad.

Rydym ar gyrion deheuol dalgylch y papur bro erbyn hyn felly yn ôl â ni am bentre'r Cwrt eto, gan droi i'r dde yno y tro hwn a dilyn y ffordd gul ac unig drwy Gwm Maethlon.

O'r maes parcio yng nghanol y cwm mae llwybr yn arwain at Lyn Barfog sy'n gysylltiedig â hen chwedl am fuwch chwedlonol a arweiniodd weddill y fuches i ddyfnderoedd y llyn. Gerllaw mae "Carn March Arthur" sy'n nodi'r fan lle llamodd y Brenin Arthur dros yr afon gan adael argraff o garn ei geffyl yn y garreg.

Ychydig ymhellach mae capel bychan Maethlon. Yma y bu'r enwog George M Ll Davies yn weinidog, yr unig gapel Cymraeg iddo erioed fod yn weinidog arno, mae'n debyg. Ar y mur tu ôl i'r pulpud gwelir darlun a gyflwynwyd ganddo i'r eglwys.

Wrth ymuno â'r A493 i'r gogledd o Aberdyfi dacw Dywyn yn ôl yn y golwg unwaith eto ac yno y daw ein taith, fel un Deio, i'w diwedd. Gobeithio i chwi ei mwynhau.

Carol Hughes


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.