Hanes Dyffryn Dysynni

top
Ffordd y Felin, Llwyngwril

Castell y Bere, gorsaf "Tomos y Tanc" a threfi glan môr Tywyn ac Aberdyfi: Carol Hughes o Lanegryn sy'n ein harwain o amgylch atyniadau ardal papur bro Dail Dysynni.

Mae Bro Dysynni yn cyfateb yn fras i ran orllewinol eithaf Dosbarth y Ddwy Afon, Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd, sef yr ardal honno sydd â'i llechweddau cleiog yn gwlychu eu traed ym mae Ceredigion rhwng aberoedd y Fawddach a'r Ddyfi.

Ardal ydyw, y mae'r rhan fwyaf o deithwyr yn dewis myned o'r tu arall heibio iddi, megis, wrth yrru'n brysur ar yr A487 rhwng Dolgellau a Machynlleth, ond eu colled hwy yw hynny. Pe byddent yn troi i'r dde ar ffordd osgoi Dolgellau wrth yrru tua'r de, neu'n troi i'r chwith ar Bont ar Ddyfi wrth yrru tua'r gogledd, ac yn dilyn yr A493, yna fe fydden nhw yn canfod bro hudol y Ddysynni ac ardal hanesyddol ein papur bro.

Cader Idris

Yn gwarchod yr ardal i'r Dwyrain mae Cader Idris ac yno, ar ei llethrau garw, mae tarddiad yr afon Dysynni. Wrth lwybro'i ffordd yn ddioglyd o Lyn Myngul, neu Lyn Talyllyn, islaw am oddeutu wyth milltir tua'r gorllewin, mae'n rhannu'r ardal yn ddwy cyn cyrraedd y môr ychydig i'r gogledd o dref Tywyn ger chwarel wenithfaen Tonfannau.

Dyma'r afon a fenthycodd ei henw i'r papur bro yn 1979 a'r broydd o'i deutu yw calon, a chanol, dalgylch Dail Dysynni. Mae'n cynnwys cymdogaethau Arthog, Friog, Rowen (neu Fairbourne), Llwyngwril, Llangelynnin, Rhoslefain, Tonfannau, Llanegryn, Llanfihangel y Pennant, Abergynolwyn, Abertrinant, Bryncrug, Tywyn, Aberdyfi, Cwrt, Phennal a Chwm Maethlon.

Gadewch i ni ymweld â'r cymunedau hynny yn yr un drefn gan ddechrau ar y ffin ogleddol yng nghymuned Arthog. Wrth deithio ar yr A493 o Ddolgellau, yma, ger chwarel Arthog, mae rhiniog ogleddol ardal ein papur bro. Chwarel lechi oedd hon yn wreiddiol ond gan fod ansawdd y llechen yn wael, mae'n debyg, defnyddir ei chynnyrch bellach i greu cerrig palmantau a deunydd llanw a sylfaen ar gyfer ffyrdd.

'Ac un i fab y Friog'

Yn uchel uwchlaw'r chwarel mae llynnoedd hyfryd Cregennan fu'n gefndir deniadol i sawl hysbyseb hudolus o eiddo gwneuthurwyr ceir. Caewyd yr hen reilffordd oedd yn dilyn y Fawddach o gyffordd y Bermo, a thrwy Arthog i Ddolgellau, ers blynyddoedd lawer ond gellir troedio a beicio ei llwybr o hyd gan fwynhau golygfeydd godidog o'r aber ac ardal Bontddu.

Ychydig i lawr yr A493 mae pentref y Friog. Mae'n debyg mai yma y trigai y "Dodo Deina" honno a anfarwolwyd mewn hen hwiangerdd y cofiaf ei dysgu'n blentyn:

Dodo Deina ddiog
Yn pobi pastai driog
Un i mi, ac un i ti
Ac un i fab y Friog.

Gerllaw, ar dir a warchodir rhag y môr, mae pentref Fairbourne, neu'r Rowen fel y'i gelwid ar un amser mae'n debyg. Oddi yma mae rheilffordd fechan yn arwain i lannau'r Fawddach lle gallwch gymryd cwch a hwylio'r fordaith fer i dref y Bermo.

O'r Friog mae'r A493 yn dringo gydag ymyl clogwyn serth uwchlaw'r rheilffordd tua phentref Llwyngwril. Cysylltir fferm Llwyn-du, sydd ar gyrion dwyreiniol y pentref, a hanes y Crynwyr ac yno, rhwng y briffordd a'r môr, y mae Mynwent y Crynwyr. Uwchlaw'r pentref, ar graig uchel, mae Castell y Gaer lle gwelir olion hen gaer gyn-hanesyddol.

Brenin y sipsiwn

Islaw'r ffordd ar y dde wrth adael Llwyngwril, mae hen eglwys fechan, syml Llangelynnin yn swatio ar y clogwyn. O dan eich traed wrth wynebu mynedfa'r eglwys mae bedd Abraham Wood, brenin y sipsiwn, a fu farw yn 1799 yn gant oed.

Eglwys Llangelynnin

Tu fewn i'r eglwys gwelir hen elor feirch ddwbl yn crogi ar y mur ac yno hefyd y canfuwyd hen furlun gyda dyfyniadau o'r Deg Gorchymyn ac o Lyfr y Salmau. Mae'r olygfa o Benrhyn Llyn ac Ynys Enlli o'r fynwent yn odidog.

Ond rhaid gadael Llangelynnin, a throi tua Rhoslefain. Yn ôl hen stori bu byddinoedd yr hen Gymry mewn brwydrau gwaedlyd ar y rhosydd gerllaw'r pentref a'r llefain a ddilynodd roes ei enw i'r lle. Ar draeth cyfagos Felin Fraenen gwelir Ogof Glyndwr ac yno hefyd mae'r Garreg Halen lle deuai llongau bychain i gyfnewid halen am nwyddau fferm yn yr hen amser.

Filltir neu ddwy i lawr yr arfordir, wedi gadael yr A493, mae Tonfannau a fu'n enwog am ei wersyll milwrol adeg yr Ail Ryfel Byd. Er bod y gwersyll bellach wedi ei chwalu, fwy neu lai, a'r defaid eto'n pori ei laswellt, torrir ar yr heddwch ar wyliau'r banc gan sŵn beiciau modur yn rasio o gylch ei drac.

Uwchlaw mae Bronclydwr, cartref Hugh Owen (1639-1700), pregethwr Piwritanaidd ac Apostol Meirionnydd. Gerllaw, mae chwarel wenithfaen Tonfannau ond tawelu wnaeth tinc yr ebillion yno erbyn hyn, gwaetha'r modd.


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.