Hanes Dyffryn Ogwen

top
Dyffryn Ogwen

Dewch ar daith hanesyddol lawr i chwareli a thros fynyddoedd Dyffryn Ogwen gyda Derfel Roberts, a chanfod pam mai Llais Ogwan yw enw papur bro y cylch.

Saif y dyffryn godidog hwn oddeutu pum milltir i'r de-ddwyrain o ddinas Bangor ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri.

'Prifddinas' y dyffryn yw treflan Bethesda sy'n gorwedd dan gysgod Y Fronllwyd ar un llaw a'r Elan a Charneddau Llywelyn a Dafydd ar y llaw arall.

Yn llifo trwy'r Dyffryn mae afonydd Caseg a Ffrydlas sy'n ymuno ag afon Ogwen ym Methesda cyn llifo i'r môr yn Aberogwen ger Bangor.

Chwarel

Prif ddiwydiant yr ardal ers cenedlaethau yw'r chwarel lechi - Chwarel Lechi'r Penrhyn - Chwarel Cae Braich y Cafn i roi iddi ei phriod enw. Ac er bod y diwylliant hwnnw wedi crebachu'n enbyd ers pedwardegau'r ganrif ddiwethaf, mae'n dal i gyflogi oddeutu 250 o ddynion yma yn Nyffryn Ogwen o hyd.

Y chwarel hon sydd wedi ffurfio cymeriad yr ardal a'i phobl. Mae yna berthynas gymhleth o falchder ac o gasineb wedi datblygu at y chwarel dros y blynyddoedd. Ar un llaw, balchder yn y gwŷr a gynhyrchwyd gan y diwylliant - dynion celyd, gwydn, di-ildio mewn ymrafael a dynion a roddai bwys ar werthoedd megis diwylliant cerddorol a llenyddol, addysg a chrefydd. Ond ar y llaw arall, casineb at y caledi, yr aberth a'r afiechyd oedd ynghlwm â chynhyrchu'r llechfaen.

Castell y PenrhynEffeithiodd Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, 1900-03, yn ddwfn ar hanes y dyffryn ac ar feddylfryd ei phobl. Yn ystod y streic honno y daeth y termau 'bradwyr' a 'phunt y gynffon' i'r amlwg yng nghyd-destun diwylliant. Dyma un o fannau cychwyn undebaeth lafur ac yn y flwyddyn 2001 daeth undebwyr mwyaf amlwg gwledydd Prydain ynghyd i gapel Jerusalem, Bethesda i gofio arwriaeth y tadau arloesol hynny ac i godi cofeb i'r rhai a wrthwynebodd haerllugrwydd yr Arglwydd Penrhyn a'i debyg yn ystod y Cload Allan neu'r Lock-out. Mae chwerwder y cyfnod hwnnw wedi parhau ymhlith rhai teuluoedd yn Nyffryn Ogwen hyd heddiw.

Mae digon o dystiolaeth ar gael yn llenyddiaeth a cherddoriaeth ein gwlad yng ngwaith R. Williams Parry, T. Rowland Hughes, W. J. Gruffydd a Charadog Prichard, i enwi dim ond rhai, i brofi pa mor ddwfn y treiglodd dylanwad y chwarel i mewn i isymwybod y genedl Gymreig. Ni ellir gorbwysleisio mai diwylliant Cymraeg ei iaith oedd y diwylliant hwnnw.

Wrth edrych yn ôl ar rai o enwogion y dyffryn fe welir bod sawl un a ddylanwadodd ar lên a diwylliant Cymru wedi bod â chysylltiad agos â Dyffryn Ogwen.

Dyna J.O. Williams a Jennie Thomas - awduron Llyfr Mawr y Plant; J.T Job, emynydd a bardd, Ifor Bowen Griffith, darlledwr ac addysgwr; J.J. Williams, cyfansoddwr Cerddi Huw Puw ymhlith pethau eraill. Ernest Roberts, hanesydd lleol ac ysgrifennydd llys yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd.

Syr Idris Foster, yr ysgolhaig Celtaidd ym Mhrifysgol Rhydychen; Caradog Pritchard, awdur Un Nos Ola' Leuad a enwyd eisoes ac R Williams Parry, Bardd yr Haf a fu'n byw yma ac a gladdwyd ym mynwent Coetmor. Yma y bu Ioan Bowen Rees, arbenigwr ar lywodraeth leol ac awdur llyfrau Cymraeg ar fynydda'n byw ac yn Nyffryn Ogwen y treuliodd Dafydd Orwig, cynghorydd y Sir, addysgwr a golygydd Yr Atlas Cymraeg, ran helaethaf ei oes.

Un o Sling ger Tregarth yw'r actor a'r diddanwr enwog John Ogwen, ac o'r dyffryn, yn y pumdegau, y daeth Hogia Llandygai, grŵp a barhaodd i ddiddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru tan y nawdegau.

Yn y fro hon hefyd y mae gwreiddiau grŵp enwog yr wythdegau, Maffia Mr Huws, y grŵp Celt, John Doyle a fu'n rhan o'r ddeuawd poblogaidd Iwcs a Doyle heb anghofio Gruff Rhys, un o aelodau'r Super Furry Animals, hefyd.

Rhoes pwys ar eisteddfod a chyfarfodydd llenyddol a mawr fyddai'r cystadlu ar y pynciau pan gynhelid yr eisteddfod flynyddol yn y chwarel. Codwyd nifer o gapeli ymneilltuol yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond ysywaeth caewyd y mwyafrif ohonynt erbyn hyn, gan ddymchwel rhai a throi eraill yn fflatiau i gartrefu teuluoedd newydd.

Pam Ogwan nid Ogwen?

Wrth edrych o gwmpas y fro mae'r mynyddoedd yn gymaint rhan o'n bywydau fel mai prin sylwi arnynt wnaiff y trigolion. Nid yw'r Carneddau a Thryfan a'r ddwy Glyder a Chwm Idwal mor enwog â'r Wyddfa a'i chriw efallai, ond mae heddwch a harddwch y mynydd-diroedd hyn yn denu miloedd o gerddwyr, dringwyr a gwyddonwyr bob blwyddyn.

Dyffryn OgwenDaw llawer yma i astudio effeithiau rhewlif ar y tirwedd ac mae nifer o blanhigion Alpaidd prin i'w canfod ar y llethrau yn ôl y rhai sy'n ymddiddori mewn pethau o'r fath.

"Pam galw'r papur bro yn Llais Ogwan?," meddech chi. Nid oherwydd tuedd pobl y rhan hon o Wynedd i droi'r 'e' yn 'a' fel bod 'ie' yn mynd yn 'ia' ac 'adre' yn 'adra', fel y tybia rhai pobl, ond oherwydd bod Syr Ifor Williams, yr ysgolhaig mawr a'r awdurdod ar enwau lleoedd o Dregarth yn y dyffryn hwn, wedi egluro mai 'Ogfanw' oedd y ffurf wreiddiol ar yr enw a bod hwnnw wedi newid yn nhreigl y blynyddoedd i Ogwan, ac yna'n Ogwen, dan ddylanwad y gred gyfeiliornus mai camddweud yr enw oedd pobl yr ardal. Felly, Dyffryn Ogwan sy'n fanwl gywir er bod yr enw Ogwen wedi hen gadeirio yn yr iaith erbyn hyn.


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.