Hanes Dyffryn Conwy

top
Pier Llandudno

Parhad o daith hanesyddol drwy Ddyffryn Conwy gan Gareth Pritchard.

Pa bont i groesi'r afon?

Yna, fe awn i lawr yr afon i gyffordd Llandudno. Dyfodiad y rheilffordd fu'n bennaf gyfrifol am ei datblygiad. Adeg yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd ffatri i gynhyrchu rhannau awyrennau rhyfel yma. Yn ddiweddarach, trowyd y lle yn ffatri peiriannau golchi Hotpoint. Ond erbyn hyn, mae'r cyfan wedi diflannu. Diffeithwch yw'r safle bellach.

I lawr wrth yr afon mae rhywbeth o bwys wedi digwydd. Pan adeiladwyd y twnnel newydd o dan Afon Conwy, symudwyd y pridd yn uwch i fyny'r afon a chreu gwarchodfa natur, sy'n datblygu i fod yn fan o bwys.

Fe groeswn y bont i Gonwy, ac mae gennym ddewis o dair - Pont grog a adeiladwyd gan Thomas Telford yn 1836, Pont y Rheilffordd a godwyd gan Robert Stephenson yn 1846, a'r bont a godwyd ym 1958.

Yng Nghonwy, wrth gwrs, mae'n amhosibl i chwi beidio â gweld y castell a godwyd gan Edward 1af a muriau'r hen dref sy'n dal i sefyll yn gadarn. Adeg y Pasg, 1401, llwyddodd cefnogwyr Owain Glyndwr i feddiannu'r castell, ond byr fu eu harhosiad.

Mae Plas Mawr a godwyd gan deulu'r Wynniaid, ac sydd yng ngofal CADW yn werth ymweld ag ef. Gwyliwch hefyd am ysbryd y ferch ifanc! Honnir bod Tŷ Aberconwy, a fu ar un amser yn dafarn, yn dyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Maelgwn Gwynedd

Ar draws Afon Conwy mae Deganwy, a draw ar fryniau'r Fardre, roedd safle Castell Maelgwn Gwynedd. Tipyn o gymeriad oedd hwn. Dywedir iddo gynnal eisteddfod rhwng y beirdd a'r telynorion, a bu'n rhaid i bob cystadleuydd, yn gyntaf, nofio ar draws yr afon. Wrth gwrs, doedd hi ddim yn bosib chwarae yr un delyn wedyn! Cafodd ddiwedd go erchyll ar ôl dianc i Eglwys Llanrhos rhag y fad felen. Aeth ei gywreinrwydd yn drech nag ef. Daeth ei ddiwedd wedi iddo sbecian drwy dwll y clo!

Llandudno yng nghysgod y GogarthYmlaen i Landudno, brenhines y trefi gwyliau! Mae'n amser cyffrous ar y Gogarth Fawr, oherwydd fe brofwyd bod cloddio am gopr yn dyddio'n ôl i'r Oes Efydd ac mae'n werth ymweld â'r mwynfeydd. Gallwch deithio i fyny ar dram neu ar y car codi.

Ar draws y bae, mae'r Gogarth Fach a Chreigiau Rhiwledyn. Honnir mai mewn ogof yma, yn anghyfreithlon, yr argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf tua 1486 - 'Y Drych Cristnogawl'.

Teithiwn i'r gorllewin i Lanfairfechan, ble mae Traeth Lafan sy'n edrych dros y Fenai i Ynys Môn. Yn Aber gerllaw, roedd llys Llywelyn Fawr, a chludwyd corff Siwan oddi yno i Benmon i'w gladdu. Yn ystod y blynyddoedd diweddar cafodd nifer o bobl fywoliaeth yn Ysbyty Bryn y neuadd, fu'n arbenigo ar drin pobl ag anhwylder meddwl. Codwyd yr ysbyty ar safle hen blasty a ehangwyd gan John Platt.

Y chwareli ithfaen fu'n gyfrifol am ddatblygiad Penmaenmawr, er mae olion bod pobl yn byw yma yn Oes y Cerrig wedi eu darganfod ar y Graig Lwyd uwchben y dref. Bu bri hefyd ar y dref fel lle gwyliau glan y môr. Un fu'n rhannol gyfrifol am hyn oedd y gwleidydd William Gladstone, oedd wrth ei fodd yn ymweld, hyd yn oed pan oedd yn brif weinidog!

Mochdre a Cholwyn

Mae Mochdre ar gyrion gorllewinol Bae Colwyn. Dywedir i'r lle gael ei enwi ar ôl i Gwydion ddod â'i foch yma o Ddyfed. Yn amser Rhyfel y Degwm, tua 1887, bu un o'r brwydrau mwyaf ffyrnig yn Fferm y Mynydd. Roedd rhyw 150 o blismyn yn mynd â'r ffermwyr i'r ddalfa, ond ymosodwyd arnynt hwythau gan ddynion lleol a bu'n dipyn o sgarmes.

Uwchben Llandrillo-yn-rhos, ar Fryn Euryn fe gododd Ednyfed Fychan blasty yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg. Ef oedd distain Gwynedd, a phrif weinidog Llywelyn Fawr.

Pier Bae Colwyn 1902Hen air Cymraeg am gi ifanc yw 'Colwyn'. Roedd gorsaf reilffordd yma yn 1849, ac fe godwyd pier cyntaf yn 1899, gydag Adelina Patti, y gantores enwog, yn yr agoriad swyddogol.

Penderfynwyd codi tram i redeg o Fae Colwyn i Landudno ac fe agorwyd hwnnw yn 1907. Yn anffodus bu'n rhaid ei gau rhyw hanner canrif yn ddiweddarach.


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.