Cloddio am enwau

top
Carreg yr Enwau

O Garreg y Dyn Drwg i Rhiw Hwb y Wrach, mae yna hanes cyfoethog i enwau llefydd yn Nolgellau. Dyma Rhys Gwynn, warden ym Mharc Cenedlaethol Eryri, i ddatgelu mwy o gyfrinachau enwau'r fro.

Mae wardeniaid y Parc, y Cyngor Cefn Gwlad ac eraill wedi bod yn trïo diogelu enwau llefydd yma ar y Gader. Maen nhw'n colli cael eu defnyddio weithiau, yn enwedig gan y cenedlaethau i ddod, ac felly rydym yn bwrw ymlaen i gofnodi cymaint o enwau â phosib, a chreu map cynhwysfawr o'r ardal.

Mae yna 'bach o bopeth - enwau'r creigiau, y ffriddoedd, y caeau, y ffermydd a hyd yn oed y daearau llwynogod. Mae gan bopeth enw!

Ddaru ni ddarganfod un enw diddorol ar dir teulu Coed Croes - Ffridd Eurych, sef yr hen air Gymraeg am of aur. Mae'r ffridd reit uchel i fyny ger Tir Stent, hen dir comin, mewn ardal lle nad oedd yna gloddio am aur. Felly pam y gair eurych?

Mae yna hefyd Rhiw Hwb y Wrach a hefyd Llwybr Pilyn Pwn, sef y gwir enw am Lwybr Tu Nant ar ochr y Gader. Ystyr pilyn yw 'pilion'; y sachau oedd yn mynd dros gefnau'r ceffylau i gario pwysau. Y pwn yw'r pwysau yn y sachau. Hwnnw oedd yr hen lwybr i gario pethau i'w werthu o Lanfihangel-y-pennant a Chastell y Bere, dros y Gader i Ddolgellau. Mae gan yr enw felly ddarn pwysig o hanes ynghlwm wrtho.

Mae yna hefyd Garreg yr Enwau, neu Garreg y Gŵr Drwg (uchod). Mae yna stori yr arferai pobl ifanc yr ardal hel wrth y garreg ar ddydd Sul i ganu a dawnsio, cyn cyfnod y diwygiad wrth gwrs. Ond un Sul y Pasg, daeth y diafol i lawr ar gefn asyn, ac mae ôl ei garn i'w weld hyd heddiw ar y graig. Felly sgrialodd pawb ac ni ddaeth neb yn ôl tan i'r bugeiliaid dod draw i naddu eu henwau ar y garreg; arferiad sy'n mynd yn ôl i'r 17eg ganrif.

'Da ni hefyd yn hel enwau daearau llwynogod. Mae'n hen arferiad i enwi'r daearau wrth hela llwynogod ar y Gader gan fod y llwynogod wedi byw ynddynt ers canrifoedd. Fel arfer, caiff y daearau eu henwi ar ôl eu lleoliad, fel y Ddaear Fawr, Daear Fflat a sawl un arall.

A beth am y Gader ei hun? Mae yna sawl peth yn gysylltiedig ag Idris, fel Llyn y Tri Graienyn. Wrth yrru yn ôl i Ddolgellau o Fachynlleth, ar ben y bwlch lle mae'r maes parcio nawr, mi roedd yna lyn. Mae ei ôl i'w weld o hyd yn y tir cors yno. Y tri graienyn oedd y dair carreg ddaru Idris eu tynnu allan o'i esgid a'u lluchio dros yr ardal. Mae un yn dalp anferth o graig ar ben y bwlch, un yn Rhydymain a'r llall yn Nhrawsfynydd. Mae yna garreg fach wrth ochr yr un mawr, ac mae'n debyg mai gwraig Idris dynnodd hwnna allan o'i hesgid hi!

Mae yna hefyd Fwrdd Idris, sef talp o graig ar y Cyfrwy, sy'n ddringfa boblogaidd heddiw. Felly mae ganddo'i fwrdd a'i gadair, a dw'n i'm beth arall!

Rhys Gwynn


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.