Hanes Bro Ffestiniog

top
Blaenau Ffestiniog

Dyma hanes hen gwmwd Ardudwy Uwch Artro a Meirionnydd - bro Ffestiniog. Vivian Parry Williams sy'n ein harwain o amgylch dalgylch papur Llafar Bro.

Saif y dalgylch yma yn hen gwmwd canoloesol Ardudwy Uwch Artro a Meirionnydd, wedi sefydlu'r sir honno yn dilyn Stadud Rhuddlan yn 1284. Tua wyth milltir yw hyd y siwrnai rhwng y ddau begwn pellaf o'i gilydd o'r dalgylch, Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd.

Gan mai Blaenau Ffestiniog yw 'prifddinas' dalgylch Llafar Bro, addas fyddai cychwyn y daith yn y Blaenau. (Sylwer mai wrth yr enw hwnnw y cyfeirir at y dref gan ei thrigolion, a'r cymdogion agos hefyd.) I'w gymharu â gweddill y dalgylch, lle ifanc yw'r Blaenau, ac wedi dod i oed yn dilyn datblygiad y diwydiant llechi yno. Roedd Llan Ffestiniog gyfagos wedi hen sefydlu'i hun fel cymuned ymhell cyn i'r un enaid ymsefydlu wrth draed y mynyddoedd yng nghwr ogleddol y plwyf.

Yn ôl traddodiad, un o Arfon, Methusalem Jones, a ddarganfuodd y llechfaen yn y fro hon yn yr 1760au. Cwmnïau Seisnig fu'n gyfrifol am ddatblygu'r diwydiant, ac o hynny ymlaen tyfodd y dref i fod yn un o brif ganolfannau llechi y byd. Cloddiwyd y graig ym mhob cwr o'r dref, a gwelir tystiolaeth o hynny yn y miliynau o dunelli o wastraff y garreg las sy'n sefyll fel cadwyn o amgylch y Blaenau o'r Manod i Danygrisiau.

Achosodd y cynnydd yn y galw am gynnyrch y chwareli dwf aruthrol ym mhoblogaeth y plwyf, gyda chanlyniad i 'Stiniog fod yr ail blwyf mwyaf yng Ngogledd Cymru, ar ôl Wrecsam, yn 1901, gydag 11,434 yn trigo yma.

Roedd y lle yn fwrlwm o weithgaredd, gyda masnach yn ei anterth, a nifer fawr o siopau a busnesau'n ffynnu. Tua'r adeg hynny, roedd Blaenau Ffestiniog yn arloesi mewn sawl cyfeiriad; un ohonynt oedd mewn cynhyrchu trydan. Dyma un o'r trefi cyntaf yng Nghymru i gael ei strydoedd wedi'u goleuo gyda thrydan, diolch i gwmni Yale, a'i gorsaf drydan yn Nôl Wen, a gyflenwai rai o'r chwareli hefyd.

Stryd Fawr y BlaenauRoedd yma dair gorsaf reilffordd; Rheilffordd Ffestiniog; y London & North Western a'r Great Western. Yr olaf a enwir oedd yr unig un o orsafoedd adran Caer a gawsai ei goleuo â thrydan ar y pryd. Bu sawl datblygiad i'r cyfeiriad trydanol yn y fro, wrth i Orsaf Drydan Storfa Bwmpio Tanygrisiau gael ei hagor yn 1963. Hon oedd yr unig un o'i math ym Mhrydain ar y pryd, a'r fwyaf yn Ewrop.

Daeth tro ar fyd pan fu gostyngiad yn y galw am lechi, a chwarel ar ôl chwarel yn cau, ac erbyn hyn oddeutu pum mil a hanner sy'n byw yma.

Does dim yn cythruddo 'Stiniogwyr yn fwy na gweld adroddiadau yn y wasg neu'r cyfryngau sydd yn llunio darlun o'r Blaenau fel lle hagr, hyll, a'i bod yn bwrw glaw yma trwy'r amser! Mae'r ddelwedd honno wedi ei defnyddio hyd syrffed bellach, ac mae'n hen bryd i'r euog rai ddod draw yma i weld drostyn nhw eu hunain, y cymoedd a'r llecynnau hyfryd sy'n rhan annatod o'r ardal.

Ymlaen i Gymoedd Llan Ffestiniog

Ond rhaid brysio 'mlaen i sôn ychydig am gymunedau eraill ardal Llafar Bro. Caiff adroddiad gan yr Arglwydd Lyttleton am ddyffryn Ffestiniog, a gynhwysid ar daflenni masnach a thwristiaeth y fro dros y blynyddoedd, ei ail-adrodd yn aml. Dyma ddywedodd hwnnw: "Gyda gwraig serchog, cyfaill cywir, a chasgliad da o lyfrau, gallai un dreulio oes yn y dyffryn hwn a meddwl mai diwrnod ydoedd."

Beth am gymryd golwg ar Lan 'Stiniog, a throedio o'r oes bresennol i'r gorffennol pell, trwy arwain yr anghyfarwydd dros lwybrau'r pentre' a'i chymoedd. Gan ddechrau yn sgwâr hynafol y Llan, ac anelu tua chyfeiriad y de, fe drown i'r chwith i gyfeiriad Cwm Cynfal.

Wedi teithio'r llwybr serth i lawr at yr afon o'r un enw a'r cwm, cyrhaeddwn raeadr Cynfal, ac ychydig uwch i fyny'r afon y graig ryfedd honno a saif yng nghanol rhuthr y dŵr - Pulpud Huw Llwyd, a enwyd ar ôl y gŵr rhyfedd hwnnw o Gynfal Fawr gerllaw, sy'n mhlwyf Maentwrog. Dywedir iddo ddringo i ben y graig hon i ymarfer siarad y 'gelfyddyd ddu' ac i siarad a'r gŵr drwg.

Bryn SaethOnd rhaid symud o ochr Maentwrog o Gwm Cynfal, gan ddilyn y cwm at Raeadr y Cwm, golygfa i syfrdanu unrhyw un. Trown ein traed oddi yma tua Llyn y Morwynion, llecyn arall â chysylltiadau â chwedlau'r Mabinogion. Mae'r fro yn frith o gyffyrddiadau a chymeriadau a digwyddiadau'r chwedlau byd-enwog rheiny. Ceir prawf o hynny yn rhai o'r enwau amgylchynol - Llech Ronw, Bryn Goronwy, Cynfal, Bryn Cyfergyd, Bryn Saeth.

O Gwm Cynfal fe groeswn drosodd i gwm bendigedig arall, Cwm Teigl, a'r golygfeydd yr un mor rhamantaidd i'r llygaid. Un o nodweddion hynotaf y cwm hwn yw Bryn Castell, bryngaer o Oes yr Haearn, a cheir cyfeiriad at y 'llys ar mynydd' hwn eto yn y Mabinogi. Rhaid cymryd amser i oedi yma, i werthfawrogi'r golygfeydd ysblennydd o gadwyn mynyddoedd y Moelwynion o'n blaenau, a draw tua Phenrhyn Llyn.

Wedi cyrraedd yn ôl yn y Llan mae'n hanfodol cymryd golwg arall i lawr dyffryn Ffestiniog tua aber yr afon Ddwyryd, a Moel y Gest ym Mhorthmadog, a chytuno'n llwyr â Lord Lyttleton, Wyndham a'r cannoedd o filoedd o ymwelwyr o'r un anian a fu yma, ei bod yn anodd dewis gwell lle na hwn i dreulio awr, neu oes!


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.