Hanes Bangor a'r Felinheli

top
Stryd Fawr Bangor yn 1905

Mae tarddiad dinas Bangor yn mynd yn ôl i'r chweched ganrif, pan sefydlwyd mynachlog yno. Dyma olrhain hanes twf y ddinas a dalgylch papur bro y Goriad.

Mae dechreuad dinas Bangor yn mynd yn ôl i'r chweched ganrif. Yn y ganrif honno sefydlodd Deiniol, un o'r seintiau Celtaidd, fynachlog ar godiad tir isel uwchlaw llawr dyffryn cul afon Adda, a lifai i'r môr ym mhen dwyreiniol Culfor Menai.

'Bangor' oedd yr enw ar y gwrych plethedig o wiail a amgylchynai'r fynachlog, a magodd y gair ail ystyr o'r tir cysegredig y tu mewn i'r gwrych. Daeth eglwys Deiniol yn Gadeirlan ac o'i hamgylch gyda threigl y blynyddoedd y datblygodd dinas Bangor.

Araf iawn oedd y twf am ganrifoedd, ac yn 1610, yn ôl map John Speed, oddeutu naw deg o dai yn unig oedd yn y dref, a'r rheiny'n un stryd gyda godre'r mynydd i'r de o ddyffryn Adda, gydag estyniad bychan yn arwain o'r groes o flaen y Gadeirlan i lawr at yr afon.

Daeth dechrau cyfnod o fywyd newydd yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Adeiladwyd porthladd wrth geg afon Cegin i allforio llechi o chwarel y Penrhyn, ac yn sgîl darparu gwell cyfleusterau teithio llwyddodd Bangor i fanteisio'n llawnach ar ei lleoliad ar arfordir gogledd orllewin Cymru ger man croesi Culfor Menai.

Pont MenaiCwblhawyd y ffordd fawr o Borthaethwy i Gaergybi yn 1823 ac wedi codi pont grog Telford, ychydig yn ddiweddarach, sicrhawyd llwybr uniongyrchol i gerbydau o Lundain trwy Fangor i Gaergybi, y man hwylio i Iwerddon.

A phan agorwyd y rheilffordd o Gaer i Gaergybi yn 1849 ychwanegwyd at bwysigrwydd Bangor fel canolfan cyfathrebu. Daeth y newidiadau hyn â ffyniant, a hwb sylweddol pellach oedd sefydlu Coleg y Brifysgol, yn enwedig wedi iddo symud yn 1911 i adeiladau newydd ar y bryn ym Mangor Uchaf.

Cynyddodd y boblogaeth o 1770 ym 1801 i 9564 ym 1851, ac yna i 11236 yn 1911; ac ar ddechrau'r ugeinfed ganrif roedd y ddinas yn ymestyn o'r hen gnewyllyn o amgylch y Gadeirlan i'r ddau gyfeiriad ar hyd dyffryn Adda ac i'r llechweddau o boptu.

Mae Bangor heddiw yn ganolfan o bwys yng ngogledd orllewin Cymru, yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau masnachol, gweinyddol a chymdeithasol i'w thrigolion ac i'r wlad o'i chwmpas. Mae'n denu pobl o gylch eang yng Ngwynedd a Môn i siopa, ac fel mewn sawl tref arall mae'r rhan fwyaf o'r archfarchnadoedd a'r siopau mawr eraill yn awr ar y cyrion.

Ar y cyrion hefyd i'r dwyrain mae ystad ddiwydiannol, gydag un o'i hunedau yn cynhyrchu rhannau i felinau gwynt ac i'r gorllewin ar dir hen ystad y Faenol mae parc busnes yn cynnwys Canolfan Llyfrau o gryn faint. Lleolir ffatri fwyaf y ddinas, yn cynhyrchu offer telegyfathrebu, ar y llaw arall ynghanol ardal breswyl.

Ond y ddau gyflogwr pwysicaf yw'r Brifysgol ac Ysbyty Gwynedd. Saif y Gadeirlan fel erioed ynghanol y ddinas. Cafodd hanes helbulus, ei difrodi a'i hanrheithio droeon. Rhwng 1868 a 1880 ail-gynlluniwyd y côr, y gangell, y pen dwyreiniol a'r breichiau gan Syr Gilbert Scott a'i fab gan anelu eu hail-greu fel yr oeddynt yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Giatiau Cadeirlan BangorYn 1965, yn ogystal â gwaith adnewyddu oddi mewn i'r adeilad ychwanegwyd at uchder y tŵr, ac yn ddiweddarach dechreuwyd atgyweirio y muriau allanol. Yma y claddwyd y tywysog Owain Gwynedd (1100-1170 ) ac yn ôl un cofnod, ei dad hefyd, Gruffydd ap Cynan; mae carreg goffa i'r ddau yma.

Ar furiau Capel Mair mae cofebau i Edmwnd Prys (1544-1623) a Goronwy Owen (1723-69) a fynychai'r Foreol Weddi pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Friars ym Mangor. Mae pulpud marmor yn coffau Morris Williams neu Nicander (1809-74) - clerigwr ac un o arloeswyr Mudiad Rhydychen yn yr Esgobaeth. Pethau eraill o ddiddordeb yng nghorff yr eglwys yw cerflun mewn derw o Grist (Crist Mostyn) sy'n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, y groes o wydr lliw ar y mur ger y pulpud a roddwyd yn anrheg gan Almaenwr a fu'n garcharor rhyfel yn yr ardal, y darlun Plentyn Belize- Aberfan, brodwaith sy'n cyfeirio at alwedigaethau trigolion yr Esgobaeth a murlun yn portreadu Crist yn Emaus gyda'r ddau ddisgybl a'r rheiny mewn gwisg fodern.

Gerllaw'r Gadeirlan mae'r hen Ganondy, yn awr cartref Oriel ac Amgueddfa Hynafiaethau Cymreig, a Neuadd y Dref, a godwyd yn nyddiau cynnar y Tuduriaid yn nhŷ'r Esgob; fe'i prynwyd gan Gorfforaeth Bangor yn 1903. Wrth grwydro trwy'r ddinas ni ellir llai na sylwi cymaint o gapeli a gafodd ddefnydd newydd - ond bu digwyddiad go anghyffredin - adeiladwyd capel newydd sbon, Berea Newydd.


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.