Porthladd Aberdyfi

top
Aberdyfi

David Roberts yn bwrw golwg ar hanes porthladd Aberdyfi ger Tywyn a oedd yn ganolfan adeiladu llongau brysur ar un adeg.

Mae yna hanes diddorol iawn i'r 18fed ganrif yn Aberdyfi. Dyma gyfnod tŵf y porthladd ac roedd yn lle prysur dros ben, gyda chychod yn mynd oddi yno i bob rhan o'r byd.

Ond i gychwyn, roedd yn lle distaw iawn. Mi aeth cwch o'r Spanish Armada, y Bear of Amsterdam, yn sownd yn aber y Ddyfi am wythnosau unwaith. Doedd neb i'w helpu gan mai dim ond un tŷ oedd yma ar y pryd.

Ond wrth gyrraedd diwedd y 17eg ganrif, roedd mwy o ddiwydiant yma, gyda chychod yn allforio pethau fel plwm, rhisgl coed derw ac, ymhellach ymlaen yn y 18fed ganrif, llechi oedd yn cael eu cario i lawr o Aberllefeni, Corris, Abergynolwyn a Bryn Eglwys. Aberdyfi oedd y porthladd agosaf, ac wrth gwrs roeddent angen cychod, ac felly ar un adeg roedd 'na saith iard yn adeiladu cychod gydag enwau hyfryd fel Dewi Las, the Mountain Maid, Kohinoor, Ardant, Dyfi Bell a'r Maglona, un o'r rhai mwyaf prydferth.

Roeddent yn mynd â llechi allan, ac yn dod â phenfras yn ôl o Newfoundland neu halen o Fôr y Canoldir. Roeddent yn adeiladu schooners, sloops neu brigatines ran fwyaf.

Ond yn 1867 daeth y rheilffordd, ac felly roedd llai o angen am y cychod mawr ac aeth y porthladd ar i lawr.

Roedd hefyd trafferthion yng nghefn gwlad. Dwi'n cofio mam wastad yn dweud bod newyn mawr wedi bod yn yr ardal rhywbryd. Pan roedd hi'n glanhau'r tŷ^ unwaith, mi ddaru hi ddarganfod darnau o geirch ar dop y beams yn y gegin.

Dwi wedi darganfod mewn un hen erthygl bod newyn wedi bod yma tua 1649 a'u bod wedi gofyn i ragor o longau ceirch ddod i borthladd Aberdyfi i fwydo'r bobl. Roedd yna ryw hanes fod ffermwr Trefriw Mawr, ein fferm ni erbyn heddiw, wedi symud y ceirch i gyd o'r 'sgubor a'i guddio yn rafters y tŷ, rhag i bobl yr ardal dorri i mewn a'i ddwyn. Mae sachen o'r stwff yn dal gen i. Bydd rhaid i mi wneud prawf DNA arno!"


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.