Glannau Dinbych a Fflint

top
Y BBC yn Sioe Frenhinol Amaethyddol y Rhyl 1956

Mae'r fro hon yn cynnwys lleoedd mor amrywiol â Threffynnon, sy'n gyrchfan pererinion Cristnogol; Y Rhyl a arferai fod yn brifddinas tripiau Ysgol Sul; Llanelwy sy'n ddinas; Prestatyn a phentrefi gwledig fel Brynffordd, Bagillt, a Babell.

Cael 'thrill' yn y Rhyl

Asynnod y Rhyl (llun:Cyngor Sir Dinbych)

Yn ystod yr haf, ar ben grisiau sy'n arwain at y traeth yn Y Rhyl, y mae dyn mewn cap llongwr a jersi nefiblw yn annog pobol i, "Give yourself a thrill - have a boat ride in Rhyl."

Tref i ymwelwyr - o ogledd Lloegr yn bennaf - ydi'r un sy'n disgrifio ei hun fel Blodyn Gogledd Cymru ac y mae'r traddodiad o ddod i'r Rhyl i fwyta candifflos, mynd ar ferigorownds a marchogaeth asynnod yn un sy'n ymestyn yn ôl ddegau o flynyddoedd - yn wir mi fu Buffalo Bill yno unwaith ond nid ar wyliau nac ar gefn asyn ond i berfformio gyda'i sioe Wild West.

Cyn 1700, fodd bynnag, doedd yna ddim ond corstir lle mae'r Rhyl heddiw a mân ffermydd ar Forfa Rhuddlan.

Lle mae'r rhesi o dai ar y ffordd i Brestatyn heddiw yr oedd hen goedwig yn dyddio'n ôl saith mil o flynyddoedd gydag olion ceirw a buail ac offer pobl Oes y Cerrig wedi eu darganfod yno.

Yna gwelwyd gwerth y lle fel cyrchfan gwyliau a thyfodd y boblogaeth o gwta 800 yn 1841 i wyth mil yn 1900. Yn 1910 yr oedd yna ddau gant o gytiau newid ar y traeth. Erbyn heddiw mae'r boblogaeth dros 25,000.

Llanw a Thrai

Bill Jones yn y Rhyl yn 1962
Bill Jones yn y Rhyl yn 1962

Nid llanw a thrai y môr yn unig a brofodd trigolion Y Rhyl. Gwelwyd codi, llosgi, codi eto a dymchwel Pafiliwn Mawr yno, ac mi fu yno bier hefyd.

Yn y 1920au byddai Ronald Tree yn hedfan pobl mewn awyren dros y dref am bum swllt y tro. Yn dipyn o ferchetwr, arhosai yn y Westminster Hotel ac yr oedd sawl merch o'r Rhyl yn cyfrif ei bendithion pan glywyd ar ôl iddo adael yn sydyn i'r heddlu yn Lloegr ei arestio am fwrdwr!

Oddi ar yr arfordir yma y suddodd y llong danfor arloesol y Resurgam ar ei mordaith gyntaf o Lerpwl. Mae hi wedi ei hachub erbyn hyn o wely'r môr.

Pres Ta Tun?

Ffynnon Gwenffrewi
Ffynnon Gwenffrewi

Y chwedl yw i'r dref nesaf i'r dwyrain, Prestatyn, gael ei henw ar sail y ffaith fod yr hen Rufeiniaid, wrth gloddio am fwyn, yn gofyn i'w gilydd, "Be gefais ti, pres ta tun?"

Ond mewn gwirionedd yr un enw ydi Prestatyn a Preston (Priestholm) yn Lloegr ac yn golygu fferm neu dyddyn yr offeiriad.

Y mae i Dreffynnon ei chysylltiadau crefyddol hefyd wedi ei henwi ar sail ffynnon sydd yno wedi ei chysegru i'r Santes Gwenffrewi. Yn wir bu Llanwenfrewi yn enw ar y lle ar un adeg.

Ymhlith ymwelwyr y gorffennol yr oedd y nofelydd Daniel Defoe, awdur Robinson Crusoe, yn 1724 a Dr Johnson a ryfeddai fod dynion a merched yn ymdrochi gyda'i gilydd yn y ffynnon.

"Y mae'r baddon yn anweddus o agored ac yr oedd gwraig yn ymdrochi tra'r oedem ni yn edrych arni," meddai.

Ond er cystal cysylltiadau Treffynnon; yn Llanelwy, ddeng milltir i'r gorllewin, y mae'r gadeirlan gyda chofeb fawreddog i William Morgan, a chyfieithwyr eraill y Beibl, y tu allan iddi. Yno y gorwedd ei gorff hefyd.

Buddugoliaeth Offa

Castell Rhuddlan
Castell Rhuddlan

Bu Felicia Hemans, bardd ac awdur y geiriau "The boy stood on the burning deck" yn byw yma pan yn blentyn ac wedi iddi briodi. Ar bont a adnabyddir fel Pont Hemans y byddai'n cyfansoddi.

Anodd credu hynny heddiw ond yr oedd Rhuddlan, gerllaw, yn borthladd ar un adeg gyda'r môr sy'n stopio yn Y Rhyl heddiw yn cyrraedd yno. Rhudd a glan ydi'r elfennau gyda'r rhudd yn cyfeirio at gochni'r pridd.

Castell Cymreig oedd yr un gwreiddiol yma ond olion un o greadigaethau Edward brenin Lloegr i gadw'r Cymry mewn trefn sydd i'w gweld heddiw.

Ond cyn hynny dyma leoliad buddugoliaeth Offa, Brenin Mercia, dros Garadog.

Cynlluniwyd tŵr eglwys Rhuddlan fel ei fod yn hawdd ei adnabod oddi ar fwrdd llongau yn hwylio heibio ar y môr.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.