Cymdeithas Thomas Pennant

top
Cymdeithas Thomas Pennant

Dod ar draws bedd yr arlunydd, Moses Griffith, mewn cyflwr difrifol ar daith o gwmpas Sir y Fflint a ysgogodd rhai o drigolion y sir i sefydlu cymdeithas i gofio am y naturiaethwr, Thomas Pennant.

Arbed Hanes

Norman Closs Parry, Paul Brighton a'r Dr Paul Evans oedd y tri a benderfynodd bod angen adfer bedd yr arlunydd o Ben Llŷn a oedd yn gydymaith ac yn ddarluniwr i Thomas Pennant ar ei deithiau.

Fe gasglon nhw £3,000 i ailosod y bedd a threfnwyd darlith gan y diweddar Bedwyr Lewis Jones.

"O geiniog i geiniog aeth swllt yn bunt," meddai Norman Closs-Parry wrth adrodd yr hanes ac fe ddaeth Cymdeithas Thomas Pennant i fodolaeth.

Yna, yn 1996, dyddiad 200 mlwyddiant cyhoeddi un o lyfrau lleol enwocaf Pennant, The History of the Parishes o Whiteford and Holywell, cyhoeddodd y gymdeithas 5 o deithiau cerdded a sefydlu darlith flynyddol yn enw Thomas Pennant. Cynhelir y ddarlith bob blwyddyn yn yr Hydref.

Cyhoeddwyd yr erthygl yma'n wreiddiol ar wefan BBC Lleol.

Gwlad Pennant

Amcanion y gymdeithas ydy hyrwyddo coffadwriaeth deilwng i Thomas Pennant a chodi arian i brosiectau a fydd yn dod â'r ardal i amlygrwydd fel 'Gwlad Pennant'.

Fe wnaethon nhw ddathlu 200 mlwyddiant ei fywyd mewn gwasanaeth arbennig yn 1998.

Mae'r gymdeithas hefyd wedi ymuno â Chyfeillion Llŷn i roi cofeb ar fur hen gartref Moses Griffith yn Nhrygarn, Sarn Mellteyrn. Nod arall y gymdeithas ydy codi cofeb i Thomas Pennant ym mhentref Chwitffordd.

Rhoddodd llywydd y gymdeithas, Dr Goronwy Wynne, ddarlith ddifyr am fywyd Thomas Pennant yn Eisteddfod Sir y Fflint a'r Cyffiniau.

Os hoffech chi gysylltu â'r gymdeithas, ewch i wefan Cymdeithas Thomas Pennant.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.