Hanes Dyffryn Tywi

top
Caerfyrddin

Mae Caerfyrddin yn dref ag iddi lawer o hanes. Tref ydyw wedi datblygu o amgylch hen gaer Rufeinig oedd yn cael ei galw'n Moridunum.

Mae'r enw hwnnw wedi tarddu o Moridunon, enw o'r Gelteg Frythoneg, a'i ystyr yw Caer y môr.

Adeiladwyd y gaer yn 73 O.C fel rhan o rwydwaith ledled Cymru ac roedd wedi ei lleoli yn ardal Heol y Brenin a Heol Spilman. Ymhen ychydig datblygodd ardal fasnachu tua'r dwyrain.

Erbyn 130 O.C roedd y fyddin Rufeinig wedi gadael y safle a datblygodd y dref gyda phatrwm pendant o strydoedd. O'u hamgylch roedd mur amddiffynnol. Erbyn yr ail ganrif roedd hon wedi tyfu'n dref sylweddol, un o'r unig ddwy yng Nghymru.

Amffitheatr RhufeinigYr unig olion Rhufeinig sydd i'w gweld yn y dref heddiw yw'r amffitheatr ym mhen draw Heol-y-Prior. Hefyd mae rhai o strydoedd modern y dref yn dilyn yr un ffurf reolaidd â'r dref Rufeinig.

Heddiw mae nifer o eitemau Rhufeinig, sydd wedi eu darganfod mewn amrywiol fannau yn y dref, i'w gweld yn Amgueddfa Caerfyrddin. Cafodd nifer o'r gwrthrychau hyn eu canfod yn y rhan hon o'r dref yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf. Maen nhw'n cynnwys darnau arian, crochenwaith, gwaith carreg a gemwaith. Cafwyd hyd i'r eitem fwyaf diddorol, sef cadwyn yn sownd mewn coeden, 15 troedfedd uwchben y ddaear.

Cyfnod y Normaniaid

Yn 1093 daeth y Normaniaid i Gaerfyrddin. Pan ddaethant yma, cymuned grefyddol Gymraeg oedd yn rheoli'r dref Rufeinig oedd bellach yn adfail. Yn ystod y cyfnod hwn datblygodd y cysylltiad rhwng Caerfyrddin a'r dewin Myrddin. Yn y 12fed ganrif galwodd Sieffre o Fynwy y dref yn Caer Merlinus.

Myrddin a'r hen dderwen

Y lôn lle safai'r hen dderwenErs hynny mae traddodiad Myrddin wedi ei wreiddio'n ddwfn yng Nghaerfyrddin. Yn ôl traddodiad ganwyd Myrddin yn y dref yn niwedd y bumed ganrif. Hyd yn ddiweddar roedd derwen Myrddin i'w gweld yn Heol Y Prior, ar ochr y brif ffordd sy'n arwain drwy'r dref. Mae'n debyg fod y dderwen wedi sefyll yn y fan honno ers 1659.

Yn ôl proffwydoliaeth Myrddin byddai tref Caerfyrddin yn boddi pe byddai'r dderwen hon yn syrthio: "Llan-llwch a fu, Caerfyrddin a sudd, Abergwili a saif". Dyma pam y cafodd y goeden ei hatgyfnerthu â choncrid a darnau o ddur ar ôl iddi wywo yn y 19eg ganrif.

Ond yn ystod y 1970au symudwyd i goeden er mwyn gwella'r ffordd a heddiw mae darn o'r dderwen i'w gweld yn Neuadd Ddinesig San Pedr. Yn rhyfedd iawn cafwyd y llifogydd gwaethaf ers cyn cof yng Nghaerfyrddin ym 1987, ychydig flynyddoedd wedi i'r dderwen gael ei symud o'i safle gwreiddiol.

Yn yr Oesoedd Canol datblygodd Caerfyrddin yn ddwy dref sef Hen Gaerfyrddin a Chaerfyrddin Newydd. Roedd yr 'Hen Gaerfyrddin' yn cael ei gweinyddu o'r Priordy. Erbyn dechrau'r 12fed ganrif roedd y gymuned grefyddol Gymraeg oedd yn rheoli Moridunum wedi ei throi'n Briordy Awgwstaidd. Roedd y 'Gaerfyrddin newydd' ar y llaw arall yn cael ei gweinyddu o'r castell.

Datblygodd Caerfyrddin Newydd yn gyflym. Erbyn diwedd y 13eg ganrif roedd muriau a phyrth y dref wedi ei gwblhau a'r castell wedi ei ail-lunio. Er na thyfodd yr 'Hen Gaerfyrddin' i'r un graddau bu'r Fynachlog a'r Priordy yn bwysig ym mywyd diwylliannol Cymru. Daeth nifer o feirdd amlwg i ysgrifennu ac adrodd yma gan gynnwys Tudur Aled a gafodd ei gladdu yn y Fynachlog. Diddymwyd y Fynachlog a'r Priordy yn ystod y Diwygiad Protestannaidd ac wedi hynny unwyd y ddwy dref dan siarter newydd gan Harri VIII.

Mae cynllun y strydoedd heddiw yn awgrymu'n gryf sut y datblygodd y dref dros y canrifoedd. Oherwydd datblygiad masnach yng Nghaerfyrddin fe dyfodd y dref y tu hwnt i'r muriau a'r pyrth canoloesol.

Heol Spilman - rhan hynaf tref Caerfyrddin

Rhan hynaf Caerfyrddin yw'r rhan ddwyreiniol lle mae Heol Spilman. Yma mae olion y gaer Rufeinig. Mae'r stryd wedi ei henwi ar ôl teulu Spilman, teulu cyfoethog oedd yn byw yn dref yn ystod y Canol Oesoedd. Yn y cyfnod hwnnw roedd llawer yn byw yn ardal Heol Ioan a Heol Spilman. Ond er hyn dim ond ym 1415 wedi i Owain Glyndwr ymosod ar y dref yr ymestynwyd muriau'r dref i amddiffyn yr ardal hon ac fe adeiladwyd porth yma.

Yna ym 1768 chwalwyd porth Heol Spilman oherwydd y cynnydd mewn trafnidiaeth. Yn ddiweddarach yn 1804 cafodd Heol Spilman ei droi'n ffordd osgoi cyntaf Caerfyrddin. Adeiladwyd ffordd newydd i gysylltu'r hen bont saith bwa gyda Heol Spilman. Canlyniad hyn oedd bod wagenni, coetys a cherti yn gallu osgoi strydoedd cul yr hen dref am y tro cyntaf.

Yn y 19eg ganrif roedd 11 tafarn yn Heol Spilman. Erbyn heddiw mae nifer o'r rhain wedi diflannu ond gellir gweld o hyd nifer o dai urddasol o gyfnod y Brenin Siôr

Gwesty Llwyn Iorwg CaerfyrddinYng nghanol y stryd heddiw saif gwesty'r Ivy Bush. Yn wreiddiol safai tafarn yr Ivy Bush yn Heol Ioan ond symudodd i'r safle presennol ym 1803. Ers talwm roedd yr Ivy Bush yn enwog fel arhosfan i'r goets fawr. Byddai'n cymryd dau ddiwrnod cyfan i deithio o Gaerfyrddin i Lundain ar y goets. Pan adeiladwyd y rheilffordd yng Nghaerfyrddin yn y 1850au daeth cyfnod y goets fawr i ben gan nad oedd ei angen mwyach.

Llyfr Du Caerfyrddin

Yn arwain o Heol Spilman mae Heol y Priordy a gafodd ei enwi ar ôl yr hen Briordy oedd yma ers talwm. Yn y priordy hwn yr ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin. Mae'n debyg mai dyma'r llawysgrif hynaf o farddoniaeth Gymraeg. Mae nifer o awgrymiadau wedi eu gwneud ynglŷn ag awdur ac amseriad y llawysgrif hon, gydag amryw o'r farn ei bod wedi ei hysgrifennu gan bobol wahanol.

Ond heddiw y farn gyffredin yw bod y Llyfr yn waith un person a'i fod wedi ei ysgrifennu ar gyfnodau gwahanol yn ei fywyd. Mae'n bosib fod yr awdur yn aelod o'r Priordy hwn. Yn y Llyfr ceir cerddi'n ymwneud â chwedl Myrddin yn ogystal â cherddi crefyddol, awdlau moliant a marwnad a chanu englynol.

Eglwys San PedrHeddiw yng nghanol Heol-y-Priordy mae Eglwys Sant Pedr. Wrth ochr yr allor yn yr eglwys hon mae dwy garreg wedi eu cerfio ar ffurf gŵr a gwraig. Yma mae Rhys ap Thomas a'i wraig wedi eu claddu. Cafodd eu cyrff eu cludo yma o'r Priordy gan mai yno y cawsant eu claddu'n wreiddiol.

Roedd Syr Rhys yn un o brif gynorthwywyr Harri'r VII yn ei frwydr am goron Lloegr. Roedd yn perthyn i deulu Dinefwr. Tra roedd yn Llydaw unwaith addawodd Syr Rhys y byddai'n helpu Harri Tudur ym mrwydr Bosworth. Cadwodd at ei addewid a chafodd ei wneud yn farchog am ei wasanaeth yn y frwydr. Yn ôl traddodiad ef roddodd y goron ar ben Harri wedi'r frwydr.


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.