Hanes Tre'r Sosban

top
Golygfa o Lanelli o bentref Penclawdd

Llanelli yw tref fwyaf Sir Gaerfyrddin a de orllewin Cymru, wedi'i lleoli ar aber Afon Lliedi rhyw ddeuddeng milltir i'r gorllewin o Abertawe ac rhyw ugain milltir i'r de o Gaerfyrddin. Tre'r Tinopolis, Cwrw Felinfoel, y Sospan a'r Sgarlets, mae Llanelli'n enwog am ei thraddodiad rygbi balch a'i hanes diwydiannol.

Tinopolis

Tŷ Llanelli
Tŷ Llanelli

Mae Llanelli wedi'i hamgylchynu gan nifer o drefi a phentrefi bach a adweinir fel Llanelli Wledig. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu hystyried yn rhan o dref Llanelli.

Tyfodd Llanelli yn gyflym yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif gyda'r diwydiant glo, ac ar ôl hynny fel man cynhyrchu plât tun. Roedd y dref yn lle cynhyrchu tun arwyddocaol ar lefel rhanbarthol a chafodd ei henwi'n "Tinopolis." Er i'r diwydiannau ddechrau cau yn yr 1970au, fe wnaeth y dref ddioddef o ddirywiad economaidd parhaus. Er hynny, gwelir buddsoddiad mawr ym meysydd adloniant a thwristiaeth. Mae'r cwmni teledu, Tinopolis, a leolwyd yn y dre yn cadw'r hen enw.

Llanelli a Chymraeg

Saunders Lewis
Saunders Lewis

Mae Llanelli yn hanesyddol yn ardal Cymreig iawn. Sefydlwyd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf gan awdurdod lleol yn Llanelli yn 1947, sef Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli.

Yn y 1950au bu Trefor ac Eileen Beasley yn ceisio dwyn perswad Gyngor Gwledig Llanelli ddarparu papur treth Cymraeg trwy wrthod talu'r dreth hyd y caent un. Ymateb y cyngor oedd eu herlyn gan anfon y bwmbeili i mewn a gwerthu eu celfi er mwyn cael arian y dreth. Roedd cyfeillion yn prynu'r celfi er mwyn eu rhoi yn ôl iddynt. Bu rhaid aros tan ganol y 1960au cyn cael statws cyfartal i'r Gymraeg pan wnaeth y cynghorau dderbyn bod rhaid iddynt ddarparu rhai dogfennau yn Gymraeg. Defnyddiodd Saunders Lewis achos y Beasleys fel enghraifft o agwedd ddilornus y llywodraeth tuag at yr iaith Gymraeg yn ei ddarlith radio enwog, 'Tynged yr Iaith.'

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ym 1895, 1903, 1930, 1962 a 2000.

Y Sgarlets

Parc y Sgarlets
Parc y Sgarlets

Mae'r Sgarlets (Sgarlets Llanelli cyn 2008) yn dîm rhanbarth rygbi'r undeb yng Nghymru, ac yn chwarae yn y Gynghrair Celtaidd, Cwpan Heineken a'r Cwpan Eingl-Gymreig.

Yn swyddogol mae'r Sgarlets yn cynrycholi Gorllewin a Gogledd Cymru gyda rhan fwyaf o'r gemau yn cael eu chwarae ym Mharc y Sgarlets Llanelli, ag ambell gêm yn Wrecsam. Yn aml gellir clywed caneuon fel "Calon Lân" a "Sospan Fach" yn y stadiwm. Llywydd y clwb llwyddiannus am flynyddoedd oedd y cyn-chwaraewr rygbi a'r darlledwr poblogaidd, y diweddar Ray Gravell.

Mae 'Sospan Fach' yn alaw werin gyda'i tharddiad yn Llanelli. Credir bod y sospan yn cael ei defnyddio oherwydd bod Llanelli wedi cynhyrchu sospanau yn y gorffennol yn ei dyddiau fel cynhyrchydd tun. Mae'r sospan yn dal yn bwysig yn yr ardal hyd heddiw gyda sospannau yn addurno Parc y Sgarlets a chylchgrawn y clwb rygbi yw'r 'Sosban'.

Hanes a Diwydiant

Amgueddfa Parc Howard

Mae yna nifer o elfennau hanesyddol diddorol yn y dref. Yn gyntaf, Tŷ Llanelli, sydd yn un o adeiladau mwyaf hanesyddol Llanelli ac yn enghraifft dda o dŷ tref Sioraidd sy'n agosau at ei benblwydd yn 300 oed. Roedd yr adeilad yn ran o Ystad teulu cyfoethog y Stepneys yn yr 18g. Priododd Margaret Vaughan Syr Thomas Stepney o Sir Benfro yn yr 1690gau ac yn yr 18g etifeddodd hi Dŷ Llanelli. Ym mis Chwefror 2011 cyhoeddwyd y byddai'r penseiri Austin-Smith:Lord sydd wedi gwasanaethu'r dref ers dyddiau Thomas Stepney ei hun, yn gweithio ar brosiect sylweddol gwerth £6 miliwn i adnewyddu'r adeilad.

Fe wnaeth Tom a Walter Davies o Lanelli ddyfeisio'r 'Olwyn Stepney', rhagflaenydd olwyn sbar ein ceir ni heddiw. Gallwch weld yr olwyn mewn arddangosfa yn Amgueddfa Parc Howard yn y dre.

Mae hen blasdy godigog Parc Howard yng Ngogledd y dref bellach yn Amgueddfa sy'n cadw casgliad o grochenwaith enwog Llanelli. Adeiladwyd yr adeilad crand hwn gan y teulu o fragwyr enwog, y teulu Buckley yn 1885. Roedd gan y Buckleys draddodiad hir o fragu cwrw yn y dref. Mae'r parc ysblennydd gyda 27 o erwau bellach yn agored i'r cyhoedd. Fe wnaeth Syr Stafford a'r Arglwyddes Howard roi'r plasdy a'r tir i'r dref yn 1912.

Crochenwaith Llanelli

r Antiques Roadshow yn asesu crochenwaith Llanelli
Yr Antiques Roadshow yn asesu crochenwaith Llanelli

Mae crochenwaith Llanelli yn adnabyddus iawn ledled y byd. Yn 1839 creodd William Chambers, (un o deulu Stepney), gwmni 'South Wales Pottery.' Daeth William Bryant, cyn reolwr Crochendy Morgannwg yn reolwr ar y cwmni a chyn hir roedd y crochenwaith yn cael ei werthu yn Ewrop, yr U.D. ac Awstralia.

Yn 1855 fe wnaeth William Chambers adael Llanelli a daeth William arall, William Holland i reoli'r cwmni yn 1858. Dyma oes aur y cwmni medd llawer. Cafodd y crochenwaith ei arddangos yn yr Arddangosfa Ryngwladol yn Llundain ym mis Mai 1862 oedd yn fraint mawr. Parhaodd y cwmni i gynhyrchu tan 1875 pan wnaeth anawsterau ariannol arwain at gau'r busnes.

Ond yn 1877 cafwyd adfywiad byr gyda chefnogaeth aelod arall o'r teulu Stepney, Richard Dewsberry. Gyda dylanwad y Symudiad Crefft a Chelf, cyflwynodd y cwmni ddyluniadau newydd yn cynnwys y ceiliog enwog, creadigaeth yr artist o Fryste, Samuel Shufflebotham. Ond yn 1921 caewyd drysau'r cwmni am byth yn dilyn cynnen y Rhyfel Byd Cyntaf a marwolaeth Samuel.

Terfysg 1911

Milwyr yn gwersylla adeg Terfysgoedd Llanelli
Milwyr yn gwersylla adeg Terfysgoedd Llanelli

Ar y 17 o Awst 1911, cafwyd y streic rheilffordd cenedlaethol gyntaf yn Llanelli. Y rhesymau oedd achosion gwaith sal, cyflogau isel, wythnos waith o 70 awr a rheolaeth llym. 1911 oedd 'blwyddyn anghydfod' Prydain ac roedd yna deimlad o anghyfiawnder ymysg gweithwyr y wlad.

Pan fethodd yr undeb a'r rheolwyr ddod i gytundeb, penderfynodd weithwyr rheilffordd Llanelli i streicio. Ymunodd gweithwyr y gweithfeydd tun yn y frwydr a chyn hir roedd piced o 1,500 o ddynion yn creu rhwystr ar y rheilffordd. O ganlyniad nid oedd y trenau'n medru teithio trwy'r dref.

Am 10am ar Ddydd Gwener, 18 o Awst, cafodd y Fishguard Express oedd yn cludo teithwyr a nwyddau i'r prif borthladd ei rhwystro yng ngorsaf Llanelli. Fe wnaeth y streicwyr dynnu ei thanwydd a'i stopio rhag symud.

Erbyn diwedd y dydd roedd yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Winston Churchill, wedi gorchymyn i dros 700 o filwyr i heidio i'r dref. Ac wrth gwrs roedd yna ymladd ffyrnig rhyngddyn nhw a'r gweithwyr. Darllenwyd y Ddeddf Derfysg (y tro diwetha iddi gael ei darllen ym Mhrydain) ond doedd dim yn tycio. O dan orchymyn, dechreuodd y milwyr danio'i gyniau.

Lladdwyd dau ddyn yn syth. John John, neu 'Jac', seren rygbi leol a Leonard Worstell a oedd wedi gadael ysbyty leol am y penwythnos ac yn dioddef o T.B. Doedd gan Leonard Wortstell ddim rhan yn y terfysgoedd, roedd e ond wedi dod allan i weld beth oedd achos yr holl gyflafan. Ciliodd y milwyr gyda'r dorf yn gweiddi "Llofruddwyr!" ar eu holau. Hyd heddiw, mae yna chwerwder yn y dre am farwolaethau'r ddau ddyn.

Huw Edwards wrth reilffordd Llanelli
Huw Edwards wrth reilffordd Llanelli

Cofio'r gyflafan

Yn druenus roedd y streic wedi setlo erbyn hyn gyda'r rheolwyr a'r llywodraeth yn cytuno i delerau'r dynion. Ond roedd marwolaethau'r ddau ddyn lleol wedi cynnau'r fatshen. Roedd yna derfysg yn Stryd y Farchnad gyda'r dyrfeydd yn dwyn nwyddau o'r siopau a chertiau'r rheilffordd. Mewn un achos gwelwyd cart oedd yn cario deunydd ffrwydrol yn ffrwydro gan ladd un dyn a niweidio nifer mwy. Erbyn y bore roedd pedwar person wedi marw o'i herwydd.

Rhai dyddiau'n ddiweddarach daethpwyd o hyd i ddyn oedd wedi gadael y fyddin, filltiroedd o Lanelli. Ei enw oedd Harold Spiers ac roedd wedi dianc o'r fyddin wedi iddo wrthod tanio ar y terfysgwyr. O ganlyniad cafodd ei arestio cyn llwyddo dianc. Mae'r stori leol yn honni taw Spiers oedd 'Dai Bach y Sowldiwr' yn 'Sosban Fach'.

Yn Awst 2011 gyda Lloegr yng nghanol terfysgoedd enbyd ei hun, darlledodd y BBC raglen arbennig gyda'r darlledwr o Lanelli, Huw Edwards, yn ei chyflwyno, yn edrych ar hanes ac effaith Terfysgoedd Llanelli ar y dref.

Pentrefi a diwydiant colledig

Llun o Globe Cottages yn Machynys 1956
Llun o Globe Cottages yn Machynys 1956 (llun David Hopkins)

Mae stori drist i ddau bentref yn Ne Llanelli sef Machynys a Bwlch-y-Gwynt. Roedd y ddau bentref yn gartref i 100 o gartrefi. Adeiladwyd y tai teras i weithwyr y gweithiau tun a dur ond wrth i ddiwydiant y dref ddiflannu, penderfynodd y Cyngor lleol symud y trigolion o'u cartrefi yn y 1960gau a'r 1970gau i ddymchwel y tai i greu cwlff gors 18 twll. Fe gyflwynodd David Hopkins a fagwyd ym mhentref Machynys gasgliad o luniau o'r ddau bentref a chafodd eu hardaddgos yn y dref yn 2006.

Ond pam ddiflanodd diwydiant gref o Lanelli? Erbyn diwedd y 19g Llanelli oedd canolfan Tun y byd yn cynhyrchu 50% o gynnyrch y byd! Roedd y dref yn ffynnu ac yn ei hanterth. Ond yn raddol bach dirywio wnaeth ei diwydiant nes iddi ddiflannu'n gyfan gwbl o'r dref.

Penclawdd a Phembre

Stondin Cocls Penclawdd
Stondin Cocls Penclawdd

Mae Penclawdd yn bentref ar benrhyn Gŵyr, de-orllewin Cymru. Fe'i lleolir ger arfordir gogleddol Gŵyr, rhwng Crofty i'r gorllewin a Tre-gŵyr i'r dwyrain, tua 3 milltir i'r de-orllewin o dref Gorseinon.

Saif y pentref ar lan aber afon Llwchwr, yn wynebu ar Lanelli dros y bae. Mae'n enwog am y cocos a gesglir oddi ar y traeth yno. Dywed hanes fod y cocos yn cael eu casglu'n yr ardal ers dyddiau'r Rhufeiniaid. Tan ddiwedd yr 19g roedd Penclawdd yn borthladd llwyddiannus. Roedd yr ardal yn adnabyddus am gloddio glo ac am ei gweithiau tun, copr ac efydd. Roedd yna amser pan oedd Penclawdd yn dre sylweddol gydag efail, ugain groser, pedair siop sglodion, unarddeg tafarn, sinema a gorsaf rheilffordd brysur! Mae'r rheilffordd yn dal i'w gweld hyd heddiw. Ganwyd y cyfansoddwr enwog, Karl Francis ym Mhenclawdd yn 1944.

Saif Penbre ar lan Bae Caerfyrddin, ychydig i'r gorllewin o dref Porth Tywyn (Tywyn Bach), rhwng aber Afon Llwchwr ac aber Afon Gwendraeth.

Ceir nifer o fryngeiri o Oes yr Haearn gerllaw, a chafwyd hyd i grochenwaith Rhufeinig yn y pentref. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Illtud, a cheir twll enfawr o'i flaen lle'r arferid carcharu meddwyn lleol. Yn y cyfnod Normanaidd, roedd Pen-bre yn gartref i Arnold le Boteler, un o gyndadau'r Arlywydd George W. Bush a'r Arlywydd James Abram Garfield Arlywyddion o'r Unol Daleithiau. Yn ystod y ddau Ryfel Byd, adeiladwyd maes awyr yma - a ddefnyddir heddiw i rasio ceir. Mae'r traeth yn rhan o Barc Gwledig Pen-bre, sydd hefyd yn cynnwys Twyni Pen-bre. Bu llawer o fwyngloddio ar Fynydd Penbre.

Daw'r "Bre" yn yr enw Pen-bre o'r hen air Celtaidd am garth. Ystyr cyfoes "Pen-bre" felly yw "pen y garth". Mae Penbre yn ardal o brydferthwch naturiol ac yn adnabyddus am amrywiaeth ei bywyd gwyllt.

Cwrw Felinfoel

Can cwrw Felinfoel cynnar
Can cwrw Felinfoel cynnar

Mae pentref Felinfoel ar gyrion y dre yn enwog am fragu cwrw. Nid yn unig Cwrw Felinfoel ond Cwrw 'Double Dragon' hefyd. Yn 1936, Cwrw Felinfoel oedd y cyntaf yn Ewrop, a'r ail yn y byd, i gael ei werthu mewn caniau.

Roedd Bragdy Felinfoel yn cyflenwi lluoedd arfog Prydeinig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y caniau'n arbed lle a phwysau ar gyfer allforion amser rhyfel. Doedd dim angen eu hail-lenwi chwaith. Mae holl ganiau cwrw'r DU yn tarddu o ganiau Felin Foel.

Dywed yr haneswyr fod y dafarn leol ar ddechrau'r 19g yn bragu ei chwrw ei hun, ond yn ystod misoedd y gaeaf yn unig. Roedd cryfder ac 'oes' y cwrw yn bwysig a chan fod cwrw'r Felinfoel mor boblogaidd dechreuwyd bragu ar gyfer cyflenwi tafarnau eraill. I gyfarfod â'r galw cynyddol yma adeiladwyd bragdy ym 1878 sy'n dal ar ei draed heddiw. Roedd y sefydlydd David John yn berchen gweithfeydd tunplat a haearn yng nghylch Llanelli, pan brynodd dafarn Y King's Head yn y Felinfoel dros y ffordd i'w gartref yn nghanol yr 1830.

Roedd hon yn bwysicach na thafarn arferol gan ei bod yn dafarn y goits fawr gyda efail y gôf i bedoli'r ceffylau. Yn anffodus y drws nesaf i'r dafarn oedd toll-borth (tyrpeg) a oedd yn culhau y ffordd ac yn rhwystro trafnidiaeth.

Roedd y toll borth fel cadach coch i darw, gan fod dilynwyr Beca yn rhuthro o gwmpas Sir Gaerfyrddin yn terfysgu. Roeddent yn gwrthwynebu'r doll ar wageni ac anifeiliad gan ymosod a malurio'r giatiau. Oherwydd y teimlad cryfion yn erbyn yr awdurdodau penderfynodd David John newid enw'r dafarn gan ddileu pen y brenin - 'King's Head' a'i galw Yr Undeb, the 'Union Inn'.

Gwerthwyd cynnyrch y Felinfoel i dafarnau eraill, ac ar ôl cynnydd yn y galw adeiladwyd bragdy mawr newydd yn 1878 gyferbyn â'i gartref 'Pantglas'. Codwyd yr adeilad mawreddog o gerrig ynghanol ei berllan ac ar fin y ffordd fawr.

Daeth y bragdy yn ganolbwynt y gymdeithas gan gyflogi tua hanner cant o bobl. Dywedodd pentrefwr yn ddiweddarach; 'Mi roedd bron pob teulu â chwt mochyn yng ngwaelod eu gardd ac ar y diwrnod y cyflogwyd bwtsiar i ladd y mochyn rhaid oedd cludo caniau o ddwr berwedig o'r bragdy i lanhau a chrafu'r mochyn. Roedd rhai o bobl y yr ardal yn mofyn dwr poeth i wneud eu golchiad wythnosol, ac eraill yn mynd i'r bragdy i fenthyg ystol neu hogi arfau yn cael eu esgus i fynd i mewn am beint'.

Deuai ffermwyr y cylch i mewn ar ddiwrnod bragu er mwyn cael y stwnsh soeglyd i'w gasglu i borthu eu anifeiliad. Roedd y iard a'r heolydd y tu allan yn llawn troliau'r ffermwyr yn aros eu tro am y soeg. Gelwyd y heol gul byth wedyn yn 'Heol y Ffermwyr'.

Codwyd Bradgy'r Felinfoel o bopty'r Afon Lliedi a'r afon hyd heddiw yn dal i lifo drwy'r lle. Bedyddwyd cannoedd o bobl yn yr un afon gan Y Parch. Benjamin Humphreys yn nghyfnod berw Diwygiad 1904-05.

Cofrestrwyd y bragdy fel cwmni preifat yn 1906 gan farchnata dan enw 'Trebuan Spring'. Daeth y dwr yma yn syth mewn peipen o ffynnon uwchben y pentref.

Roedd y teulu yn gyfranogion mewn cwmniau mwyngloddio ac yn 1908 bu bron i'r diddordeb yma danselio sylfeini'r bragdy. Wrth gloddio ffynnon y bragdy er ceisio cyflenwad arall o ddwr, tarawodd y dynion ar weithien ddwy drodfedd o lô rhyw ddeuddeg llath o'r wyneb. Ar ôl hir bendroni penderfynodd teulu John i beidio a dilyn y wythien lô rhag peryglu adeiladau'r bragdy.

Yn ddiweddar rhoddwyd cwrw Felinfoel yn oriel '100 Objects of the History of the World' y BBC sy'n dynodi ei bwysigrwydd fel goddrych hanesyddol.

Placiau Glas

Plac Glas
Plac Glas i gofio Dorothy Squires

Wrth fynd o gwmpas ardal Llanelli, allwch chi ddim osgoi'r nifer sylweddol o blaciau glas a phaneli yn cofnodi pobl, lleoedd a digwyddiadau o bwys yn hanes y cylch.

Y gymdeithas tu ôl i hyn oll yw Treftadaeth Gymuned Llanelli. Fe'i lansiwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2004 a'i nod yw atgyfnerthu gwaith haneswyr lleol trwy gadw a hyrwyddo etifeddiaeth gyfoethog y gymuned. Mae'n anhygoel meddwl bod y gymdeithas hon yn ei hanes byr, wedi llwyddo i godi paneli deongliadol yn Heol yr Hen Gastell, pentref Felin-foel, safle hen ysgol ramadeg y dref a safle'r enwog grochenwaith Llanelly.

Mae dros 20 o blaciau glas wedi cael eu codi yn cofio adeiladau enwog fel sinema William Haggar, yr arloeswr ffilm cynnar a Chapel Adulam, enwogion fel yr actores Rachel Roberts, y gantores Dorothy Squires a'r artist John Innes a digwyddiadau fel terfysgoedd Beca a streic y rheilffyrdd 1911.

Adnewyddu'r dref

Dadansoddiad artist o Lanelli ar ei newydd wedd
Dadansoddiad artist o Lanelli ar ei newydd wedd

Erbyn dechrau'r 21g roedd yna boeni mawr am gyflwr y dref ac mae yna fuddsoddiad o £60 miliwn ar waith i ddiywgio pryd a gwedd ac adnoddau'r dref. Erbyn Hydref 2012, gobeithir y bydd y sinema newydd, y Ffwrnes, (sydd wedi cymryd enw 'Ffwrnais', pentref ger Llanelli), a Sinema multiplex yn agored i'r cyhoedd.

Mae yna gynlluniau hefyd i wella canol y dref. Mae'r Llyfrgell yn cael ei hadnewyddu ac mae'r Cyngor yn datlbygu cwarter diwylliannol yn y dref. Mae canolfan menter newydd yn cael ei chreu hefyd. Mae'r arfordir yn cael ei datblygu mewn partneriaeth gyda'r Cyngor lleol a'r Cynulliad i greu mwy o gyfleusterau hamdden, masnach a byw yn cynnwys plaza a datblygiad Dociau'r Gogledd. Y gobaith yw fydd Llanelli yn adennill ei thir fel tref fodern Gymreig sy'n ffynnu.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.