Dyffryn Aman

top
John Cale gyda Garnant yn gefndir (llun:Bevis Bowden)

Mae Dyffryn Aman yn gorwedd yn nwyrain Sir Gaerfyrddin, i'r gorllewin o Gwm Tawe ac yn rhan ogleddol maes glo De Cymru. Bro John Cale, Sian Phillips, Ryan Davies a'r 'pyramidiau glo'.

Diwydiant cynnar

Arwydd Rhydaman
Arwydd Rhydaman

Yr hen enw ar y dyffryn oedd Dyffryn Amanw. Dyma'r dyffryn lle bu Arthur yn hela'r Twrch Trwyth. Ar ôl bod ar drywydd y twrch yn nyffryn Llwchwr, yn ôl yr hanes "oddiyno yr aeth hyd yn nyffryn Amanw". Mae dylanwad stori'r Twrch yn dal yn amlwg yn yr ardal gyda Chlwb Rygbi y dyffryn wedi'i enwi ar ei ôl.

Dyffryn diwydiannol yw Dyffryn Aman a ddatblygodd o amgylch y diwydiannau glo, haearn a thun a ffynnodd yma yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Cyn hynny dibynnai economi'r ardal ar amaeth, ond roedd y tir yn ddiffaith o'i gymharu â thiroedd ffrwythlon Dyffryn Tywi.

Yna mewn cyfnod cymharol fyr trodd y gymuned wledig yn gymuned ddiwydiannol a thyfodd y pentrefi bychain yn gyflym wrth i weithwyr y diwydiannau newydd ymsefydlu yma.

Disgrifiodd Aneirin Talfan Davies yr ardal hon fel 'gwlad y pyramidiau'. Y tipiau glo oedd i'w gweld ymhob cyfeiriad oedd y pyramidiau hyn wrth gwrs.

Ffwrneisi a Rheilffyrdd

Afon Aman
Afon Aman

Dechreuodd cloddio masnachol yn yr ardal yn y 1750au. Yn 1750 agorodd Edward Martin o Gwm Twrch nifer o lofeydd yn yr ardal . Y cofnod cynharaf sydd o lofa yn Nyffryn Aman yw ym 1757 pan adeiladwyd glofa ym Mrynlloi ger Glanaman.

Ym 1836 datblygodd y ffwrnais yn yr ardal ac o ganlyniad agorwyd nifer o weithfeydd haearn yma. Roedd gweithfeydd Aman yn Garnant yn dyddio o'r cyfnod hwn. Roedd y gweithfeydd hynny yn defnyddio haearn o Frynaman, calch o'r Mynydd Du a glo o'r dyffryn. Yn ddiweddarach dechreuwyd tynnu haearn o ardaloedd Cwmllynfell a Chwm Twrch.

Ym 1840 ymestynnwyd y rheilffordd oedd yn mynd o Lanelli i Rydaman fel ei fod yn ymestyn i Frynaman. Canlyniad hyn fu datblygiad y maes glo yn rhan uchaf Dyffryn Aman. Gorffennwyd y gwaith ym 1860 pan osodwyd lein o Ystalyfera i Frynaman. Roedd y rheilffordd newydd felly yn cysylltu Dyffryn Aman â Llanelli ac Abertawe.

Yn ddiweddarach datblygodd y gweithfeydd tunplat yn yr ardal ac ym 1872 agorwyd ffatri tunplat ym Mrynaman. Yn niwedd y 1870au a dechrau'r 1880au agorwyd nifer o weithfeydd tunplat yn ardal Cwm Twrch.

O'r pyllau i'r ffatrïoedd

Giat Betws (llun:Stuart Ladd)
Giat Betws (llun:Stuart Ladd)

Yn yr un cyfnod bu tŵf sydyn yn y boblogaeth. Penderfynodd nifer o'r trigolion lleol adael eu ffermydd bychain a mynd i weithio i'r diwydiannau newydd hyn. Daeth ffermwyr o Orllewin Cymru i weithio yma hefyd. Roedd hyn yn newid mawr mewn ardal a oedd cyn hynny wedi dibynnu ar amaeth.

Erbyn heddiw mae pob un o'r pyllau wedi diflannu'n llwyr. Y pwll olaf i'w gau o'r chwe glofa yn y cwm oedd Glofa Gelliceidrim yng Nglanaman. Roedd gan y lofa hon dip glo anferth a oedd yn ymestyn tua hanner ffordd ar hyd y cwm. Fe'i caewyd ym 1957.

Wedi dirywiad y diwydiant glo dechreuodd ffatrïoedd sefydlu yn yr ardal er mwyn darparu gwaith yn lle'r glofeydd a'r hen ddiwydiant alcam. Erbyn heddiw mae yma nifer o stadau diwydiannol a pharciau busnes.

Ym mhen uchaf y dyffryn ar drothwy Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae pentref Brynaman. Mae'r pentref hwn wedi ei rannu'n ddau sef Brynaman Uchaf a Brynaman Isaf.

Yn is i lawr y dyffryn mae pentrefi Garnant, Glanaman a Gwauncaegurwen. Ger Gwauncaegurwen sefydlwyd pentref newydd gan berchnogion y lofa ar gyfer y gweithwyr sef Tai'r-gwaith. Ond roedd y pentref hwn yn eithriad. Tai yr oedd yr unigolion wedi eu hadeiladu eu hunain oedd y mwyafrif o'r tai yn Nyffryn Aman.

Prif ganolfan y dyffryn yw Rhydaman. Yn ystod y 18fed ganrif mae'n debyg bod Rhydaman yn fan gorffwys i deithwyr y goets fawr wedi iddyn nhw groesi'r afon Aman ar y ffordd o Abertawe i Landeilo.

Yn y cyfnod hwnnw roedd y ffordd yn rhedeg wrth droed mynydd Betws, gan fynd o Bontarddulais drwy Garnswllt i Betws. Roedd teithwyr y goets yn croesi'r afon yma mewn lle o'r enw Cross Inn. Ym mis Rhagfyr 1880 newidiwyd enw Cross Inn i Rydaman.

Enwogion o fri

Ryan Davies
Ryan Davies

Fel pob ardal mae gan Ddyffryn Aman ei henwogion. Un o'r rhain yw'r perfformiwr Ryan Davies. Cafodd Thomas Ryan Davies ei eni yng Nglanaman ar Ionawr 22, 1937. Mae'n cael ei gofio fel perfformiwr, actor, cyfansoddwr ac aelod o'r ddeuawd boblogaidd Ryan a Ronnie.

Yng Ngwaun-Cae-Gurwen y magwyd Gareth Edwards, un o chwaraewyr rygbi gorau Cymru erioed. Yma hefyd magwyd yr actores enwog, Sian Phillips.

Brodor arall o'r dyffryn hwn oedd Jim Griffiths (1890-1975). Ef oedd Aelod Seneddol cyntaf Llanelli, Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru ac un o wleidyddion enwocaf Dyffryn Aman. Cyn -wleidydd arall o'r ardal, ond llai poblogaidd, yw Neil Hamilton, gŵr o Rydaman.

Dyffryn Aman yw ardal enedigol y darlledwr Roy Noble hefyd. Cafodd ef ei fagu ym Mrynaman ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, Rhydaman.

Bro y Beirdd

John Cale
John Cale

Mae Dyffryn Aman wedi cynhyrchu nifer o feirdd hefyd. Un o'r rhain yw'r prifardd Bryan Martin Davies. Enillodd ef y goron ym 1970 ac 1971 a chyhoeddodd bum cyfrol o gerddi. Cafodd ef ei eni a'i fagu ym Mrynaman er y treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn gweithio fel athro yn ardal Wrecsam.

Mae'r ddwy ardal, sy'n gwbl wahanol, yn ganolog i'w farddoniaeth. Ar un llaw ceir pentref diwydiannol gyda chymuned dosbarth gweithiol glòs Gymraeg ei hiaith ac ar y llaw arall ardal drefol gyda phoblogaeth gymysg lle mae'r Gymraeg yn colli ei thir. Ond cerdd am Frynaman a enillodd y goron iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman ym 1970 gyda'r dilyniant 'Darluniau ar gynfas'.

Bardd arall o'r ardal oedd Watcyn Wyn. Cafodd ei eni a'i fagu ym Mrynaman. Pan oedd yn wyth oed dechreuodd weithio dan ddaear yn y pyllau glo. Ond ym 1874 aeth i astudio i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin er mwyn paratoi at y weinidogaeth. Ond yn annisgwyl ni aeth i'r weinidogaeth a daeth yn enwog fel prifathro Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman.

Mae wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau barddoniaeth, cyfieithiad o emynau Sankey a Moody a dwy nofel a ysgrifennodd ar y cyd gydag Elwyn Thomas. Ei emyn enwocaf yw'r un sy'n dechrau â'r geiriau "Rwy'n gweld o bell....". Enillodd y Goron ym 1881 a'r Gadair ym 1885.

Yn olaf rhaid crybwyll Nantlais, gwr a fu am flynyddoedd yn weinidog capel Bethany, Rhydaman. Bu hefyd yn olygydd 'Yr Efengylydd', 'Y Lladmerydd' a 'Trysorfa'r Plant' a chyhoeddodd ddwy gyfrol o delynegion. Mae wedi ysgrifennu nifer o emynau adnabyddus.

Ffigwr adnabyddus iawn o'r ardal hefyd yw'r Cerddor John Cale. Magwyd Cale yng Ngarnant. Enillodd enwogrwydd fel aelod blaenllaw o'r band, 'The Velvet Underground' yn y 60gau yn Efrog Newydd. Yn gerddor clasurol, ef oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r 'drôn' i gerddoriaeth fodern. Mae'n parhau i gyfansoddi a rhyddhau albymau. Yn 2009, cynrychiolodd Cymru yn Biennale Fenis gyda'r gwaith yn gyfuniad o sain a lluniau symudol. Ffilmiodd dau o'r golygfeydd ffilm yng nghapel a chartref ei febyd yng Ngarnant.


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.