Crefft y Cyryglwyr

top
Cwrwgl, gyda diolch i Martin Fowler am gael defnyddio'r llun

Mae hanes y cwryglau yn mynd â ni yn ôl filoedd o flynyddoedd hyd at gyfnod gwareiddiadau cyntaf y byd. Y cwrwgl yw un o'r dulliau cyntaf o deithio ar ddŵr.

Byddai'r cwrwgl wedi tarddu yng nghyfnod cynnar y ddynolryw, pan fyddai'r helwyr yn gorfod croesi dŵr i chwilio am fwyd. O'r angen yma fe gafodd cwch ei greu allan o ddefnyddiau naturiol oedd ar gael yn lleol, a chan ddefnyddio'r offer mwyaf elfennol.

Mae angen gorchudd o ddefnydd naturiol gwrth-ddŵr ar ffrâm bren y cwrwgl, ac roedd crwyn anifeiliaid yn ddewis amlwg. Mae'n rhaid i'r ffrâm fod yn ddigon cryf i ddal pwysau person ond eto'n ddigon ysgafn i un dyn allu ei gario nifer o filltiroedd. Roedd yn rhaid iddo hefyd fod yn ddigon bach i un croen anifail ei orchuddio. Crwyn gwartheg neu ŷch gâi eu defnyddio'n amlaf ac roedd y crwyn yn cael eu clymu i'r ffrâm gyda rhaff wedi ei gwneud o wallt neu gyda stribedi o ledr oedd wedi eu iro yn erbyn y dŵr gyda saim o'r un anifail.

Miloedd o flynyddoedd o draddodiad
Mae'r rhan fwyaf o bobl ym Mhrydain yn dysgu bod cwryglau eisoes ar gael adeg y goresgyniad Rhufeinig. Ond mae yna dystiolaeth ysgrifenedig bod cwryglau wedi eu gwneud a'u defnyddio yn Ynysoedd Prydain ers yr Oes Efydd ac yn wir eu bod nhw efallai yn dyddio o'r Oes Iâ ddiwethaf.

Mae'n debyg mai crwn neu hirgrwn oedd y cwryglau cynharaf a'r rhai symlaf. Mae siapiau cwryglau wedi newid i siwtio nodweddion gwahanol afonydd. Mae cwrwgl ar afon sy'n llifo'n gyflym yn perfformio'n wahanol i un mewn dyfroedd tawel sy'n llifo'n araf, ac mae'r angen i gario nwyddau i lawr yr afon yn gofyn am gwch gyda strwythur gwahanol i un a ddefnyddir i bysgota.

Yn ne orllewin Cymru, mae'r cwrwgl - y cwch pysgota perffaith - yn cael ei greu nawr yn union yr un ffordd ag yr oedd gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Yma, nid y cyflymdra y gallwch chi groesi'r afon yw'r flaenoriaeth ond pa mor sefydlog yw'r cwrwgl a pha mor hawdd ac effeithlon ydyw i'w drin.

Gwneuthuriad y cwch
Mae siâp cwryglau yn ne orllewin Cymru yn debyg i hanner cneuen Ffrengig neu hanner ŵy Pasg. Mae'r blaen fflat yn rhoi'r lled mwyaf posibl i'r cwch, sy'n galluogi'r pysgotwr i eistedd â'i goesau ar led, gan greu sefydlogrwydd gwell. Mae gan gwrwgl waelod gwastad a does dim cilbren na llyw ganddo.

Mae angen dau gwrwgl i bysgota, un bob ochr i'r afon gyda rhwyd rhyngddyn nhw. Mae'n rhaid i'r triniwr ddal rhwyf mewn un llaw a'r rhwyd yn y llall, gan felly ddibynnu'n llwyr ar ei gydbwysedd i gadw'r cwch yn sefydlog. Pan fo eog neu sewin yn bwrw'r rhwyd, mae gwŷr y cwryglau yn dod at ei gilydd, ac mae'r rhwyd yn cael ei thynnu dros flaen fflat y cwch.

Cyn i drwyddedu gael ei gyflwyno yn ail hanner y 19eg ganrif, byddai nifer o gartrefi yn defnyddio cwrwgl i ddal pysgod er mwyn bwydo'r teulu. Byddai deiet y fath gartrefi yn dibynnu'n helaeth iawn ar bysgod wedi eu dal yn lleol.

Ar unrhyw amser penodol, dim ond ychydig iawn o wneuthurwyr cwryglau fyddai'n bodoli, ac fe fyddai'r rhain wedi cynhyrchu nifer o fframiau cwryglau bob tymor. Yn aml iawn, câi'r defnyddiau angenrheidiol eu casglu gan y pysgotwr a'i deulu, a fyddai wedyn yn gorchuddio'r fframiau gorffenedig.

Trwyddedu yn bygwth hen grefft
Ym 1863, cyflwynwyd tâl trwydded ddrud ar gyfer pysgota, a bu hyn yn ergyd drom, gyda'r nifer o gwryglau a wnaed ac a ddefnyddiwyd ar afonydd gorllewin Cymru yn lleihau'n sylweddol o hynny ymlaen. Cyn hyn, amcangyfrifwyd bod dros 300 o gwryglau'n pysgota ar yr Afon Teifi'n unig.

Er i'r tâl am y drwydded achosi i nifer roi terfyn ar eu pysgota, roedd y nifer fawr o eogiaid oedd yn dychwelyd i afonydd yng Ngorllewin Cymru yn golygu bod y pysgotwyr cwrwgl a barhaodd i wneud hynny yn gallu ennill bywoliaeth deg trwy anfon llwythi sylweddol o bysgod i'r marchnadoedd yng Nghaerdydd a Llundain ar y rheilffyrdd.

Achosodd cyflwyno'r trwyddedau hefyd i'r nifer o bysgod a gymrwyd o'r afon trwy ddulliau anghyfreithlon godi, a daeth hyn yn waith llawn amser i rai teuluoedd; ceir storïau di-ri am botsieriaid a chiperiaid afon.

Yn ystod y 1930'au penderfynodd awdurdodau'r afonydd y byddai pysgota fel camp yn fwy proffidiol pe na byddai rhwydi ar rannau di-lanw afonydd Gorllewin Cymru. Yr adeg hon roedd trwydded yn para am oes i'r deiliad , a gallai gael ei throsglwyddo o dad i fab. Wrth i bob deiliad farw, câi'r trwyddedau yma eu diddymu, ond byddai'n cymryd 40 mlynedd i glirio'r pysgotwyr a'u rhwydi o dyfroedd uchaf yr afonydd hyn.

Y sefyllfa heddiw
Heddiw mae yna nifer o gyfyngiadau ar bysgotwyr cwrwgl: dim ond 12 trwydded sy'n cael eu rhoi bob tymor i bysgota rhannau llanwol y Teifi; caiff 12 eu rhoi ar gyfer afon Tywi; a dim ond un pâr trwyddedig gaiff bysgota'r afon Taf o San Clêr. Mae'r tymor ar bob afon yn cael ei gyfyngu i bum mis - rhwng Ebrill ac Awst.

Am nifer o resymau mae'r nifer o eogiaid sy'n cyrraedd afonydd Cymru wedi gostwng yn ddramatig dros y 30 mlynedd ddiwethaf. Dim ond yr ychydig bysgotwyr dygn sy'n pysgota'r Teifi, Tywi a'r Taf sy'n gallu cadw'r dull hynafol hwn o bysgota'n fyw, a chaiff ei arfer heddiw yn bennaf i roi mwynhad yn hytrach nag fel modd i ennill bywoliaeth.

Mae gwneud cwryglau yn y modd traddodiadol hefyd yn grefft sy'n marw yng Nghymru. Ond mae yna gryn ddiddordeb yn y grefft, fel y tystia'r cannoedd o bobl sy'n ymweld â'r Regata Cwryglau flynyddol yng Nghilgerran bob Mis Awst. Mae'r digwyddiad hwn wedi ei lwyfannu ers dros 50 mlynedd ac mae'n cynnwys prynhawn llawn o rasys, arddangosfeydd a thrafod y cwryglau, a'r cyfan yn cynnwys plant a merched, yn ogystal â'r cwryglwyr.

Mae yna gasgliad o gwryglau o bedwar ban byd i'w gweld yn y Ganolfan Cwrwgl Genedlaethol yng Nghenarth. Fodd bynnag, fe fyddai'n drueni petai'r grefft arbennig a hynafol hon ryw ddydd yn diflannu nes bod y cwrwgl yn ddim mwy nag yn arteffact mewn amgueddfa.

Mae'n rhaid i'r grefft o wneud a physgota cwrwgl gael ei chadw ar afonydd gorllewin Cymru rhag ofn i'r cwrwgl ddod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol yn unig.

Gan Martin Fowler
(Y Ganolfan Cwrwgl Genedlaethol, Cenarth)


Cerdded

Neuadd y Brangwyn

Abertawe

Taith Doctor Who a Torchwood yng nghanol y ddinas a'r Chwarter Arforol.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.