Sir Benfro

top
Castell Sir Benfro

Bro Jemima Nicholas a DJ Williams, y garreg las a Thyddewi. Ysbrydoliaeth campwaith llenyddol, Dylan Thomas, 'Under Milk Wood' a lleoliad i ffilm olaf 'Harry Potter'. Mae yna gyfoeth o hanes yn Sir Benfro.

Cefndir Abergwaun

Abergwaun
Abergwaun

Mae'r ardal hon yn cynnwys tref Abergwaun sydd ar arfordir gogleddol Penfro a'r pentrefi cyfagos.

Mae dwy ran i dref Abergwaun sef y dref newydd a Chwm Abergwaun, yr hen dref a ddatblygodd o amgylch yr harbwr.

Yn ystod y 16eg ganrif roedd Cwm Abergwaun yn borthladd prysur. Roedd tipyn o fasnachu yn digwydd yma. Penwaig oedd y prif fasnach ac roedd tomen ohonyn nhw'n cael eu hallforio mor bell â gwledydd môr y Canoldir. Yn ystod y 19eg ganrif adeiladwyd iard longau yma.

Ar ddechrau'r 20fed ganrif datblygodd porthladd Wdig a dirywio wnaeth porthladd Cwm Abergwaun. O Wdig y bydd y llongau yn hwylio i Iwerddon heddiw.

Ysbrydoli Llenyddiaeth

Dylan Thomas
Dylan Thomas

Mae Cwm Abergwaun yn lecyn hardd gydag awyrgylch arbennig. Dyma leoliad y ffilm 'Under Milk Wood' a 'Moby Dick'. Ffilmiwyd 'Under Milk Wood', drama enwog Dylan Thomas, ym 1971 gyda Richard Burton ac Elizabeth Taylor. Ar lan y môr yng Nghwm Abergwaun mae carreg sy'n coffáu'r digwyddiad hwn.

Ymosodiad y Ffrancod

Ni ellir meddwl am Abergwaun heb gofio am laniad y Ffrancod, un o'r digwyddiad rhyfeddaf yn hanes Cymru.

Ar Chwefror 22ain 1797 glaniodd byddin fechan o longau Ffrengig ger Carreg Wastad dair milltir i'r gorllewin o Abergwaun. Roedd yr ymosodiad yn rhan o'r rhyfel rhwng Ffrainc a Phrydain a ddechreuodd yn 1793, wedi'r Chwyldro Ffrengig ym 1789. Roedd Ffrainc yn berchen ar y fyddin gryfaf yn y byd. Felly aeth y newyddion bod y Ffrancwyr wedi glanio yn Abergwaun o amgylch y wlad fel tân gwyllt gan greu panig llwyr.

Wedi glanio aeth y fyddin ati i ysbeilio ffermdai a thyddynnod Pen-caer gan yfed y casgenni gwin oedd yn cael eu cadw yma wedi i'r perchnogion eu cludo o long smyglo oedd wedi ei dryllio ar y creigiau cyfagos.

Tra roedd dynion Penfro'n ymgasglu ynghŷd i'w hymladd casglodd gwraig leol o'r enw Jemeima Nicholas grŵp o ferched ynghŷd. Ymosododd y merched ar y Ffrancod yn gwisgo'r wisg Gymreig.

Darlun o Jemima Nicholas
Darlun o Jemima Nicholas

Dynes y Bicfforch

Roedd y Ffrancwyr erbyn hyn yn feddw wedi iddyn nhw fod yn yfed ar ôl glanio a dychrynodd y llu pan welsant y merched yn gwisgo'r wisg draddodiadol gan ildio. Dywedir bod Jemeima ei hun wedi ymladd tua deuddeg ohonynt gyda dim ond picfforch a'u dwyn i dref Abergwaun i'w rhoi dan glo.

Dridiau yn ddiweddarach ildiodd y Ffrancwyr i'r Arglwydd Cawdor gan osod eu harfau ar draeth Wdig.

Heddiw mae cofeb i goffau'r glaniad ar yr arfordir yng Ngharreg Wastad ac mae hysbysfwrdd yn adrodd yr hanes ger porthladd Wdig.

Yn 1997 er mwyn dathlu dau ganmlwyddiant y glaniad lluniwyd tapestri mawr fel tapestri Bayeux yn adrodd yr hanes. Mae hwn yn cael ei arddangos yn Neuadd Eglwys y Santes Fair ar sgwâr Abergwaun ac ym mynwent yr eglwys honno mae bedd Jemeima Nicholas.

Ar ganol y sgwâr mae tafarn y Royal Oak. Dyma lle'r oedd pencadlys y dynion lleol yn ystod goresgyniad y Ffrancod ym 1797 ac yma'r arwyddwyd y cytundeb rhwng y Cymry a'r Ffrancwyr yn cadarnhau bod y Ffrancwyr yn ildio.

DJ Williams ac Abergwaun

Gorsedd Abergwaun
Gorsedd Abergwaun

Cysylltir Abergwaun hefyd â'r Llenor enwog, D.J.Williams, gan iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i fywyd yma.

Mae'r siop lyfrau Gymraeg yn Abergwaun wedi ei henwi ar ei ôl a saif carreg goffa iddo ar lawnt y Wesh. Mae'r garreg wedi ei chreu drwy ddefnyddio carreg las Pen-caer.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld ag Abergwaun ddwywaith. Tystiolaeth o hynny yw cerrig yr orsedd ac mae dwy gylch o gerrig i'w gweld yn y dref.

Saif y cylch cyntaf ar y tir uwchben y môr yn wynebu Cwm Abergwaun. Codwyd y cylch ar gyfer cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936. Ar bob carreg mae enw'r plwyf a'i cyfrannodd.

Yn anffodus bu'n rhaid cynnal un o seremonïau'r Eisteddfod mewn ysgoldy gerllaw oherwydd y tywydd stormus. Roedd hyn yn torri traddodiad a gwylltiodd un derwydd o ganlyniad. Yn ei ddicter gweinyddodd ei seremoni ei hun yng nghanol y glaw ac i gyfeiliant sŵn y gwylanod.

Yn 1986, hanner can mlynedd wedi ei ymweliad diwethaf, daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Abergwaun unwaith eto a'r tro hwnnw codwyd cylch yr orsedd ym mharc Lota yn y dref.

Gerllaw'r cylch cyntaf, lle mae'r tir yn gostwng tua'r harbwr, mae dwy fagnel. Defnyddiwyd un ohonyn nhw'n dyddio yn Rhyfel y Crimea a'r llall yn yr Ail Ryfel Byd. Mae magnel yn sefyll ar ganol sgwâr y dref hefyd.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.