Hanes Butetown

top
Butetown - o gasgliad lluniau Eric Williams

Erthygl gan yr hanesydd John Davies am ardal Butetown ar hyd yr oesoedd.

Hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg, doedd neb erioed wedi ymgartrefu yn y fro yn union i'r dwyrain o aber Afon Taf. Roedd y tir yn oer a chleiog, ac yn aml o dan ddŵr. I drigolion Caerdydd, roedd Caerdydd yn gorffen gyda mur deheuol y dre, hwnnw wedi'i leoli lle y mae Mill Lane, gwaelod Heol y Santes Fair a'r prif orsaf rheilffordd erbyn hyn.

Porai gwartheg ar y dolydd llaeth, ac fe'u gyrrwyd yn ôl bob nos i'r beudyau a frithai strydoedd cefn y dref. Yr oedd y gyrwyr yn medru gweld y llongau bach - dim un yn fwy na 80 tunnell - a hwyliai i lawr Afon Taf o gei y dref a leolwyd lle saif prif lidiart Stadiwm y Mileniwm heddiw.

Am ganrifoedd, cludai'r llongau menyn, caws, grawn a chrwyn o ffermydd tir bras Bro Morgannwg, ond o ganol y ddeunawfed ganrif ymlaen, gwelwyd llongau a gludai nwyddau gwahanol, sef cynnyrch gweithfeydd Merthyr Tudful - yr haearn a lusgwyd mewn wagenni i lawr heolydd amrwd Blaenau Morgannwg. Daeth tro ar fyd yn negawd olaf y ganrif honno, gydag agor y gamlas o Ferthyr Tudful i Gaerdydd.

Camlas Merthyr - Caerdydd


Y gamlas oedd yr enghraifft gyntaf o waith dyn i ddod i fodolaeth ar y Town Moor, a defnyddio'r enw a roddwyd i'r tiroedd llaith i'r de o Gaerdydd. Ond roedd dyfodiad y gamlas ddim yn golygu bod pobl yn ymgartrefu ar y gors; cyn hwyred a 1830, doedd neb o gwbl yn byw yno, a phoen i berchnogion gwartheg y gors oedd y pentyrrau o haearn a safai ar lannau'r gamlas.

Dechreuodd y newid mawr yn 1830au, y degawd pan aeth John Crichton Stuart, yr ail ardalydd Bute a pherchennog ystad Castell Caerdydd, ati i adeiladu doc ar y gors. Agorwyd y doc - y mwyaf yn y byd ar y pryd - yn 1839, ac yn 1841 cwblhawyd rheiffordd a'i gysylltai â Merthyr Tudful, ac yn ddiweddarach ag Aberdâr a'r Rhondda. Dyma ddechrau'r datblygiadau a ganiataodd Gaerdydd i ddod, erbyn diwedd y ganrif, yn borthladd mwya'r byd o safbwynt swmp ei allforion.

Gyda dyfodiad y doc a'r rheilffordd, yr oedd angen tai ar gyfer y rheini a gyflogid ganddynt, swyddfeydd ar gyfer trefnwyr yr allforion - glo, uwchlaw dim - ac amrywiaeth o adeiladau eraill, eglwysi, tafarndai, bwytai a siopau. Aeth yr ail ardalydd Bute ati'n frwd i gynllunio Butetown, ei dref newydd. Stryd Bute oedd y rhodfa a gysylltai'r hen dref gyda'r dref newydd, a chanolbwynt y dref honno oedd pâr o sgwariau - Sgwâr Mountstuart a alwyd ar ôl cartref gwreiddiol ei deulu, a Sgwâr Loudoun a alwyd ar ôl cartref gwreiddiol ei wraig, Sophia.

Ymfalchïai'r ardalydd yn fawr yn ei greadigaeth, ond, buan wedi ei farw yn 1848, dechreuwyd cwyno bod Butetown yn ennill enw gwael, a bod yr ardal yn mynd yn anialwch o dafarndai a phuteindai.

Caerdydd - un o systemau dociau mwya'r byd


22/04/1844 Dociau'r Dwyrain © BBC BHAC Butetown History and Arts CenterAgorwyd ail ddoc - Doc Dwyreiniol Bute - yn 1859, trydydd - Basn y Rhath - yn 1874, pedwerydd - Doc y Rhath - yn 1887, a phumed - Doc Alexandra - yn 1907, gan sicrhau fod gan Caerdydd un o systemau dociau mwya'r byd. Erbyn hynny, yr oedd Butetown, gyda'i strydoedd, swyddfeydd, dociau a rheilffyrdd, wedi'i drefoli'n llwyr, ac roedd dim tamaid ar ôl o'r gors wreiddiol.

Yn 1888, agorwyd y Gyfnewidfa Lo yn Sgwâr Mountstuart, adeilad lle pennwyd prisiau glo ar gyfer y byd yn ei grynswth, a'r man lle cytunwyd ar fargen gynta'r byd yn ymwneud â mwy na miliwn o bunnau.

Twf Tiger Bay


Y datblygiad mwyaf diddorol yn Butetown oedd twf cymuned Tiger Bay, cymuned a amgaewyd gan Sgwâr Loudoun, y gamlas, y doc gwreiddiol a gorglawdd y rheilffordd. Y darn cyfyng hwn o dir oedd cartref cymdeithas mwyaf aml-genhedlig Prydain. Trigai yno bobl a berthynai i o leiaf hanner cant o genhedloedd, ac, yn ôl croniclydd Tiger Bay, Neil Sinclair, 'yr oedd modd gweld y byd i gyd mewn un filltir sgwâr'.

Yr oedd Butetown yn anterth ei lewyrch ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Fodd bynnag, dioddefodd yr ardal ergyd dost o ganlyniad i ddirwasgiad enbyd dauddegau a thridegau'r ganrif honno, cyfnod pan leihaodd masnach y dociau o 14 miliwn tunnell i 6 miliwn tunnell. Bu dirywiad pellach wedi'r Ail Ryfel Byd yn sgil y crebachiad yng nghynnyrch pyllau maes glo'r de.

I Gyngor Dinas Caerdydd, ardal o slymiau oedd Butetown, ac aethpwyd ati i'w hailddatblygu. Erbyn hyn, dim ond yn y ffilm, Tiger Bay (1959), y mae modd cael syniad o batrwn y tai a natur y gymdeithas a fodolai gynt o gwmpas Sgwâr Loudoun.Cwpwl yn Butetown yn y 1960au, o'r rhaglen ddogfen 'Tamed and Shabby Tiger

Gwanychwyd y gymdeithas unigryw a drigai yno wrth i'r strydoedd cymdogol ildio'u lle i flociau o fflatiau. 'Breuddwyd pa bensaer', gofynnodd Neil Sinclair, 'a greodd ein hunllef ni?'

Ond roedd ailddatblygu ddim yn gyfystyr a dod a bywyd newydd i Butetown. Ceisiwyd rhoi swyddogaeth newydd i'r ardal trwy glustnodi'r Gyfnewidfa Lo fel cartref i'r Cynulliad Cymreig arfaethedig, ond daeth diwedd ar y cynllun hwnnw gyda chanlyniad refferendwm datganoli 1979. Yna, yn yr wythdegau, sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. (Ystyriwyd bod Bae yn enw mwy propor na Tiger Bay a Butetown, enwau y ceisiwyd eu hanfon i ebergofiant.)

Cnewyllyn cynllun y Gorfforaeth oedd amgáu aberoedd Afonydd Taf ac Elái, a thrwy hynny greu llyn o ddŵr melys rhwng Caerdydd a Môr Hafren. Yr oedd yr amgáu yn bwnc cryn ddadlau, a hynny oherwydd y gost, y bygythiad i fywyd gwyllt, y perygl o godi lefel trwythiad dŵr Caerdydd, yr ofn y byddai dyfodiad byddigions yn dinistrio yr hyn a oedd yn weddill o gymuned Tiger Bay, a'r eironi bod dinas a dyfodd oherwydd ei chysylltiad â'r môr yn troi ei chefn ar ddŵr hallt. Ond yr oedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Nicholas Edwards, yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r cynllun, ac, erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif, yr oedd yr argae a'r llyn wedi dod i fodolaeth.

Datblygiadau heddiw


Ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, yr oedd Bae Caerdydd, gyda'i fwytai, ei glybiau a'i lu o fflatiau moethus, yn dechrau edrych yn le cyffrous. Yn 1999, ymgartrefodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Nhŷ Crugywel, a gerllaw iddo y mae cartref llawer mwy deniadol yn cael ei godi.

Canolfan Mileniwm CymruAdeilad gwychaf y Bae yw Canolfan Mileniwm Cymru, lleoliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2005. Megis dechrau y mae atgyfodiad Butetown, ond, hyd yn hyn, y mae pethau'n argoeli'n dda.

Erthygl gan John Davies,
Mai 2005.


Cerdded

Canolfan y Mileniwm

Bae Caerdydd

Lleoliadau Doctor Who a Torchwood, adeiladau'r Senedd a Chanolfan y Mileniwm.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Diwydiant

Heddlu a streiciwr

Streic y Glowyr

Hanes y streic chwerw a rwygodd gymunedau glofaol Cymru am byth.

Arferion yr Wyl

Y Fari Lwyd

Y Fari Lwyd

Un o draddodiadau hynotaf yr hen Nadolig a'r Calan Cymreig ydy'r Fari Lwyd.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.