Taith hanesyddol o amgylch Cwm Cynon

top
Aberdâr

Un o gymoedd glofaol de Cymru yw Cwm Cynon, ac yma mae'r Parch Eric Jones yn esbonio rhywfaint o'i hanes a'i nodweddion.

Brenhines y Cymoedd


Cyfeirir at Gwm Cynon neu Gwm Aberdâr fel Brenhines y Cymoedd am fod y cwm hwn yn lletach na'i gymdogion, Cwm Merthyr a Chymoedd y Rhondda.

Ar un adeg, fe fyddai cannoedd o blant yn dod ar eu gwibdaith flynyddol o Ysgolion Sul ac Ysgolion dyddiol i Barc Aberdâr a chael amser braf yno.

Erbyn hyn mae yn yr ardal, nid yn unig y parc ar gyrion tref Aberdâr - parc a roddwyd gan berson dall o'r enw Rhys Hopcyn Rhys, ond mae yma hefyd Barc Gwledig gyda chyfleusterau arbennig ar gyfer aros y nos a phryd da o fwyd ar ôl y teithiau cerdded a drefnir yno. Mae'r ymwelwyr yn dal i heidio i'r parc hwn.

Ddwy ganrif yn ôl, poblogaeth o ryw ddwy fil oedd yn y cwm i gyd - y rhan fwyaf o bobol yn ffermwyr a'r sawl oedd yn byw yn y tyddynnod yn cael eu cyflogi ar ffermydd yr ardal.

Roedd hen eglwys hynafol Sant Ioan yng nghanol y dref a Hen Dŷ Cwrdd yr Undodiaid wedi ei sefydlu ers 1751 ar gyfer yr Anghydffurfwyr. Teithiai'r addolwyr filltiroedd ar gefn ceffylau er mwyn cyrraedd eu lle o addoli.

Chwyldro Diwydiannol - mewnfudwyr yn heidio


Gwaith glo yn y cymoeddYna o tua 1830 ymlaen fe lifodd y bobol i mewn i'r cwm o orllewin Cymru ac o Wlad yr Haf er mwyn cael gwaith yn y gweithfeydd haearn a'r pyllau glo oedd yn agor yn rheolaidd. Fe dyfodd y boblogaeth i ryw 70,000 mewn cyfnod byr iawn ac mae'n rhaid fod adeiladwyr y cyfnod wedi gwneud ffortiwn wrth adeiladu'r tai ar gyfer y mewnfudwyr.

Er bod rhai wedi dod yma o orllewin Lloegr, daeth y nifer fwyaf o bell ffordd o Siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin a hyd heddiw fe geir pobol yn arddel eu perthynas â phentrefi'r ardaloedd hynny.

Cymraeg oedd prif iaith Aberdâr yn sicr ond cyfrwng Saesneg oedd yr addysg a diddorol nodi fod yr hen Wenhwyseg i'w chlywed ar dafod leferydd tan tua chwedegau'r ganrif ddiwethaf.

Mae'r cwm yn ymestyn am ryw wyth milltir o Benderyn yn y gogledd hyd at Abercynon yn y de, lle mae'r afon Cynon yn ymuno â'r afon Taf ar ei ffordd i Gaerdydd.

Daearyddiaeth yr ardal


Cyfres o bentrefi sydd bellach wedi ymdoddi i'w gilydd yw'r gymuned yma gan gynnwys dwy dref, sef Aberdâr ac Aberpennar, a phentrefi fel Rhigos, Hirwaun, Trecynon, Cwmbach, Cwmaman, Aberaman, Abercwmboi, a Phenrhiwceiber yn arwain i lawr ar hyd y cwm.

Cymuned Gymraeg oedd hi rhyw gan mlynedd neu lai yn ôl. Mae'n dal i fod yn gymuned Gymreig er bod yr iaith wedi cilio dipyn erbyn hyn. Mae'r trigolion yn arddel eu perthynas â Chymru ac yn sicr mae'r ymwybyddiaeth honno yn cryfhau.

Ysgolion yr ardal


Bellach, mae yma dair Ysgol Gynradd Gymraeg ac Ysgol Uwchradd mewn adeilad newydd yn Rhydywaun lle y bydd rhyw fil o ddisgyblion yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Sefydlwyd yr Ysgol Gymraeg gyntaf ym 1949 ac yr oedd ymhlith y cyntaf i agor gyda rhyw ddwsin o blant ar y cychwyn ac athro lleol, Idwal Rees, yn arloesi gyda'r math newydd o addysg.

Ond fel y gellid disgwyl cododd problemau o ganlyniad i'r datblygiad hwnnw a syndod wrth ddarllen yr hanes y pryd hwnnw oedd deall fod llawer o Gymry blaenllaw y cwm yn ddig iawn wrth y syniad.

Erbyn hyn, mae dros 700 o blant yn cael addysg Gymraeg yn yr Ysgolion Cynradd yn unig.

Diwylliant y cwm


Colofn CaradogGan mlynedd a hanner yn ôl roedd yr ardal i gyd yn fyw o ddiwylliant. Tystiolaeth o hyn yw'r gofgolofn a godwyd yng nghanol tref Aberdâr i arweinydd côr - yr enwog Caradog a fu'n fuddugol ddwywaith gyda'i gôr mawr yn y Palas Grisial yn Llundain.

Mae'r ddrama wedi chwarae rhan amlwg ym mywyd y fro ar hyd y blynyddoedd hefyd ac mae cwmni o Aberdâr wedi dod yn fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar sawl achlysur.

Codwyd neuadd fawr y Coliseum yn Aberdâr a neuaddau tebyg yn Aberaman, Aberpennar a gwaelod y cwm gyda E.R.Dennis yn arloesi gyda'r ddrama yn Nhrecynon ac yn adeiladu'r Theatr Fach sydd yn dal i fod yn fywiog er mai dramâu Saesneg a welir yma bellach.

Roedd Eisteddfodau yn cael eu cynnal yn nhafarn Y Carw Coch neu'r Red Stag ac adroddir fod Hen Wlad fy Nhadau wedi cael ei chanu'n gyhoeddus yn yr Hen Dŷ Cwrdd am y tro cyntaf.

Yn y cyfnod hwnnw roedd beirdd ym mhob cornel o'r cwm, a llenorion fel Pennar Davies, Harri Webb a Mihangel Morgan yn ein cyfnod ni. Roedd yma hefyd nifer o delynorion amryddawn. Yn eu plith mae Dafydd Llewelyn, telynor dall y mae ei waith i'w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Roedd nifer fawr o gyhoeddwyr llyfrau yn gwneud eu bywoliaeth yn Aberdâr ac Aberpennar ac roedd nifer o gylchgronau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi yma yn rheolaidd hyd at ryw 80 mlynedd yn ôl.

Ond daeth tro ar fyd a chaewyd y pyllau glo, ar wahân i Bwll y Tŵr ger Hirwaun. O ganlyniad gorfodwyd y boblogaeth i deithio cryn bellter i gael gwaith.

Datblygodd y Gymraeg yn rhyfeddol yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf ac mae tua 7,000 o bobol yn siarad yr iaith yn ôl yr ystadegau, a'r ysgolion Cymraeg yn llawn a rhai cannoedd o ddysgwyr ar hyd a lled y cwm.

Ar un adeg roedd teuluoedd dylanwadol yn byw yn y fro fel y teulu Llywelyn oedd yn berchen ar y pyllau glo yn lleol. Ddiflannodd y rhain i feysydd brasach erbyn hyn.

Ymfudo


Fel yng nghefn gwlad Cymru mae'r duedd yma i fudo tua Chaerdydd. Yno mae'r gwaith - ar y cyfryngau, yn y Brifysgol neu yn y Cynulliad, ac yno y gwelir y bobol ifainc wedi cyrraedd yn medru cynnal pob agwedd o'u bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Sefydlwyd y papur bro Clochdar ym 1987 ac mae'n gwerthu yn ardal uchaf y Cwm sef o gylch Aberdâr ei hun. Mae iddo ddau ystyr wrth gwrs - y clochdar a wneir gan iâr ar ôl dodwy a hefyd, o rannu'r teitl, fe ellir cael "cloch Dâr" sef enw'r afon sy'n llifo drwy dref Aberdâr.

Parch Eric Jones


Cerdded

Canolfan y Mileniwm

Bae Caerdydd

Lleoliadau Doctor Who a Torchwood, adeiladau'r Senedd a Chanolfan y Mileniwm.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Diwydiant

Heddlu a streiciwr

Streic y Glowyr

Hanes y streic chwerw a rwygodd gymunedau glofaol Cymru am byth.

Arferion yr Wyl

Y Fari Lwyd

Y Fari Lwyd

Un o draddodiadau hynotaf yr hen Nadolig a'r Calan Cymreig ydy'r Fari Lwyd.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.