Tregaron

top
Abaty Ystrad Fflur

Taith o amgylch bro cyffiniau Tregaron, gyda Herbert Morris yn tywys yr ymwelydd i leoedd o ddiddordeb hanesyddol.

Mae'r ardal hon yn rhyw fath o gorlan a amgylchynir gan fryniau. I'r dwyrain mae bryniau Tregaron a Phontrhydfendigaid a Bannau Ffair Rhos, yna i'r gogledd cawn y Gaer Fawr a'i chymdogion ac i'r gorllewin eangderau y Mynydd Bach rhyngom a'r môr.

I'r deau mae bryniau Bwlch-llan sy'n ymestyn o Benuwch i'r bwlch a ffurfiwyd gan yr afon Aeron lle y llif rhyngddynt a llechweddau fferm Dolau Aeron, fferm uchaf dyffryn yr Aeron.

Yma rhyngddynt mae'r fro. Bro denau ei phoblogaeth, yn cynnwys un dref, Tregaron, a thua dwsin o bentrefi. Ar wahân i amaethyddiaeth ac un chwarel nid oes yma yr un diwydiant arall wedi darfod o'r gweithfeydd plwm ddechrau'r ganrif ddiwethaf ac sydd â'i holion yn dal mewn rhannau o'r ardal. Gellir dweud fod holl economi yr ardal yn dibynnu bellach ar amaethyddiaeth.

Tregaron

Awn am dro o amgylch y fro gan ddechrau yn Nhregaron. Mae'n dref farchnad a enwogwyd gan y gŵr y mae cofgolofn iddo o flaen y Neuadd Goffa, Henry Richard, a adnabyddir fel 'Apostol Heddwch' ar sail ei ymgyrch yn erbyn rhyfel.

Dilynwn y ffordd sydd yn cysylltu'r dref gyda Phontrhydfendigaid ac sydd yn cydredeg â'r lle bu y rheilffordd a gysylltai Aberystwyth a Chaerfyrddin gydag ymyl y Gors Goch sydd erbyn hyn yn warchodfa natur.

Tua dwy filltir tu allan i'r dref mae Camer Fawr lle ganed y llenor a'r cenedlaetholwr W Ambrose Bebb. Yna yn nes ymlaen eto deuwn at fferm yr Hen Fynachlog lle dywedir yr oedd safle y Fynachlog wreiddiol cyn dyddiau yr un ac mai ei hadfeilion i'w gweld heddiw yn Ystrad Fflur. Mae enwau ffermydd y cylch yn ein hatgoffa o fywyd y mynachod fel amaethwyr: Dol y Beudyau, Dolebolion, Brynhob a Dolrychain.

Abaty Ystrad Fflur

Cyn dyddiau y stadau newydd, pentref unstryd ymron oedd Y Bont, fel yr adnabyddir Pontrhydfendigaid gan y bobl leol, gydag adfeilion yr hen abaty yn brif atyniad i'r ymwelydd.

Ar ddaear yr abaty mae mynwent helaeth lle daw y trigolion yn wreng a bonedd i huno eu hun olaf. Yno dan faen mynor urddasol mae'r miliwnydd a'r dyngarwr a sefydlydd yr eisteddfodau sy'n dwyn enw'r teulu Syr David James, Pantyfedwen, yn gorffwys, a gerllaw lle dywed traddodiad y claddwyd y bardd Dafydd ap Gwilym mae maen coffa diaddurn y bardd Isgarn.

Yma hefyd mae bedd crwydryn a gafwyd wedi cilio o eira mawr 1929. Anwybyddodd y cyngor a gafodd yn nhafarn Ffair Rhos y noson honno mai rhyfyg ar ei ran fyddai mentro dros y mynydd am Rhaeadr gan ei bod yn argoeli am eira. Cafwyd ei gorff ger llynnoedd Teifi wythnosau yn ddiweddarach.

Bedd y Crwydryn

Casglodd yr ardalwyr i gael maen ar ei fedd ac arno ceir y geiriau:

"Unknown. He died upon the hillside drear
Alone where snow was deep
By shepherds he was carried here
Where princes also sleep."

Gadawn y fynwent a'r pentref gan ddringo'r rhiw am bentref bach Ffair Rhos, pentref sy'n enwog am ei beirdd: Dafydd Jones, Evan Jenkins a W J Gruffydd. Deil y traddodiad, a megir yma feirdd o hyd, gyda thîm sy'n cystadlu'n rheolaidd ar raglen radio Talwrn y Beirdd.

O Ffair Rhos, wedi inni gael ein disychedu yn y Teifi Inn, cawn ddisgyn yn naturiol am bentref Ysbyty Ystwyth, mangre a brofodd gynyrfiadau diwygiad 1859 Dafydd Morgan a ymledodd i'r ardaloedd cyfagos. Eithr, ysywaeth, fel pob ardal a brofodd gynyrfiadau tebyg, dim ond tudalennau hanes sy'n tystio iddynt bellach.

Pont Pontrhydygroes

Disgyn eto o Ysbyty Ystwyth i ddyffryn yr Ystwyth a phentref Pontrhydygroes. Am yr olygfa welir yma y llefarodd Thomas Johnes y geiriau "Dyma baradwys". Yma yr adeiladodd blas gwych Hafod Uchtryd. Plannodd goed a throdd y diffeithwch yn ardd; gwariodd ei gyfan ar y lle. Heddiw gordoir y fan gan dristwch wrth ddwyn i gôf ei aflwyddiant. Nid oes faen ar faen o'i blas, dim ond y stablau sy'n sefyll a'r coed hyd y llethrau yn dystion i'r gogoniant a fu.

Mae'r eglwys yn haeddu ymweliad. Dyma un o'r llecynnau prydferthaf yng Nghymru ac ychwanegwch ato y daith hyd y ffordd sy'n cydredeg â'r afon o Bontrhydygroes i lawr am Lanafan ac fe'n gorfodir i arall eirio geiriau Eifion Wyn: "Pam Arglwydd y gwnaethost lecynnau mor dlws a bywyd pererin mor fyr."

Mae'r ffordd hon yn cysylltu â'r ffordd o Bontrhydfendigaid i Drawscoed felly fe drown i fyny'r rhiw am Dyngraig ac Ystrad Meurig.

Coleg Edward Richard

Yma mae'r coleg lle bu Edward Richard, bardd y mesur tri thrawiad, yn brifathro. Oddi yma dilynwn y ffordd sy'n dirwyn tros y gefnen am Ledrod, pentref bychan wedi ei leoli wrth odre y Gaer Fawr. Ar y daith hon byddwn yn mynd heibio i'r Cynhawdref, man geni Ieuan Fardd neu Ieuan Brydydd Hir a ddaeth yn un o ysgolheigion Cymraeg mwyaf y ddeunawfed ganrif. Addysgwyd ef gan Edward Richard yn ei ysgol enwog yn Ystrad Meurig cyn iddo yn ddiweddarach fynd i Goleg Merton, Rhydychen. Llafuriodd yn galed yn casglu ac yn copïo hen lawysgrifau yn ymwneud â hanes Cymru o ganlyniad i ddylanwad Lewis Morris arno. Ceir coflech iddo yn yr eglwys. Ef yw awdur 'Llys Ifor Hael'.

O Ledrod dilynwn yr A485 am Dregaron, thrwy bentref Bronant cyn troi ar y ddeau am Flaenpennal, bro y llus a'r llynnoedd, bro a fu ar un adeg yn frith o fân ddiwydiannau megis hetwyr a brethynwyr.

Cofeb y tri bardd

Dringo llethrau'r Mynydd Bach ac ar grib uwch Llyn Eiddwen mae cofeb i bedwar o lewion y fro: J M Edwards, enillydd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith ac awdur nifer o gyfrolau o gerddi; B T Hopkins bardd ac awdur Rhos Helyg un o gywyddau gorau ac enwocaf yr iaith; Prosser Rhys, bardd a newyddiadurwr, a Tom Hughes Jones, llenor ac arloeswr ym myd y stori fer hir, pedwar a fu yn seiadu llawer yng nghartrefi eu gilydd yn nyddiau eu hieuenctid.

Dilyn crib y mynydd eto heibio Llyn Fanod am Benuwch ardal a fu yn ardal o fân dyddynwyr, a'r prifardd John Roderick Rees yn eu plith. Methodd hon eto wrthsefyll y mewnlifiad.

Teithiwn o Benuwch am bentref cyfagos Bwlch-llan sydd uwchlaw rhan uchaf dyffryn yr Aeron. Ychydig islaw'r pentref mae Eglwys Nantcwnlle, drych o dristwch heddiw. Ni chynhaliwyd gwasanaeth yma ers blynyddoedd ond mae'n werth ymweliad ar gyfrif ei ffenestri lliw arbennig.

Capel Llangeitho

Disgynnwn yn awr i'r dyffryn gan droi i'r chwith am Langeitho, pentref fu a rhan bwysig yn hanes Methodistiaeth. Yma deuai y miloedd ar un adeg i dderbyn y cymun o law y diwygiwr ei hun, Daniel Rowland, y mae ei gofgolofn i'w gweld gerllaw'r capel. Heddiw mae'n aeaf yma hefyd.

Cyn cyrraedd pentref Llanddewi o Langeitho rhaid mynd trwy Lanio heibio yr hen ffatri laeth. Distawrwydd mynwentaidd sydd yma bellach, caewyd y sefydliad a fu'n gynhaliaeth i gynifer o'r plwyfolion am flynyddoedd ac ni wnaed dim o'r adeiladau.

Hanes Llanddewi

Llanddewi Brefi

Mae pentref Llanddewi yn gyforiog o hanes fel y croniclodd y Dr D Ben Rees yn ei gyfrol sylweddol Hanes Plwyf Llanddewi Brefi. Yma eto yr Eglwys yw y prif atyniad. Yma ym 1346 y bu Ancr Llanddewi yn ei gell yn copïo hen lawysgrifau crefyddol a ddiogelir heddiw yn Llyfrgell Bodleian Rhydychen.

Adeiladwyd yr eglwys ar fryn a gododd yn ôl traddodiad o dan draed y sant pan oedd yma yn annerch y Synod Fawr. Dywed eraill mai ar y ddôl a elwid yn Ddôl y Saint yr oedd ac iddo esgyn i'r bryn o weld maint y dyrfa. Bid a fo am hynny, nid yw y chwedl ond un o lawer sydd ynglyn â'r pentref diddorol hwn wrth droed y mynydd.

Dyna ni gip ar y fro - ardal fechan ond un sydd â'i chyfraniad i fywyd y genedl Gymreig yn fawr.

gan Herbert Morris


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym

Canu'r Plygain

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddocâd yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.