Rhwng Aberystwyth a Machynlleth

top
Murlun Talybont

Dewch i gael cip ar hanes a hynodion yr ardal rhwng Aberystwyth a Machynlleth yng nghwmni Eleri Huws.

Os buoch chi erioed yn teithio ar hyd briffordd yr A487 rhwng Aberystwyth a Machynlleth, yna cawsoch gipolwg ar dalp helaeth o'r ardal hon.

Mae'r ardal yn cynnwys cadwyn o chwech o bentrefi ar hyd yr A487 - o Dal-y-bont, saith milltir i'r gogledd o Aberystwyth, trwy Dre-Taliesin, Tre'r-ddôl, Ffwrnais ac Eglwys-fach, hyd at bentref Glandyfi ar y ffin rhwng Ceredigion a Phowys, ynghyd â phentref Bont-goch sydd rhyw dair milltir i'r dwyrain o bentref Tal-y-bont.

Cors Fochno

Mae'r ardal hyfryd hon wedi ei lleoli rhwng Bae Ceredigion ac aber afon Dyfi ar y naill law ac ucheldir Pumlumon ar y llall. Rhed sawl afon drwyddi - Eleri, Ceulan, Clettwr ac Einion - a phob un ohonynt, wrth ruthro am y cyntaf i'r môr ym Mae Ceredigion, yn cerfio iddynt eu hunain gymoedd hyfryd sydd wedi ysbrydoli beirdd lleol i ganu am eu gogoniant, megis cerdd J. J. Williams i Gwm Eleri. Dyma ran o'r gerdd:

Mae hen delynau yn y gwynt
Am ddyddiau gynt yn canu,
A llif Eleri yn y glyn
A'r niwl yn dynn amdani;
Mi gerddaf eto'r llwybr cul
Lle plyg y mil mieri
Sy'n wylo ar yr adfail fawr
I lawr yng Nghwm Eleri. ...

Ond ar waetha ysblander y cymoedd hyn a'r bryniau i'r dwyrain o'r A487, lle saif tarddle'r pedair afon, y tirwedd a'r bywyd gwyllt sy'n gorwedd i'r gorllewin o'r ffordd hon sydd yn denu gwyddonwyr a naturiaethwyr o bell ac agos.

Cors Fochno

Prif nodwedd y rhan hon o'r ardal yw Cors Fochno, a gaiff ei hystyried yn un o gorsydd mawnog pwysicaf y Deyrnas Gyfunol; mae'r gors, ynghyd ag aber afon Dyfi, wedi ei chofrestru fel safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn ogystal ag yn Warchodfa Natur.

Hen ddiwydiannau

Pentref Talybont

Er mai fel ardal wledig amaethyddol y meddylir am y fro yn bennaf heddiw, fe ddatblygodd y pentref mwyaf, sef Tal-y-bont, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel canolfan brysur i'r diwydiant gwlân a'r gweithfeydd mwyn niferus oedd yn britho'r cymoedd a'r bryniau cyfagos. Y gweithfeydd mwyn hefyd oedd yn bennaf gyfrifol am dwf rhai o'r pentrefi eraill, megis Tre-Taliesin a Thre'r-ddôl, a bu pentref Glandyfi yn borthladd prysur am gyfnod. Mae olion rhai o'r diwydiannau hyn yn dal i ddenu ymwelwyr sydd yn ymddiddori mewn archaeoleg ddiwydiannol.

Amaethyddiaeth

Er mai segur bellach yw holl offer yr hen ddiwydiannau, mae amaethyddiaeth yn parhau i chwarae rhan bwysig yn yr economi leol gydag amryw o'r ffermydd wedi ennill bri cenedlaethol wrth fagu defaid mynydd a gwartheg duon Cymreig o safon uchel ac eraill yn flaengar o ran gwella tir porfa. Mae sawl un o'r ffermydd lleol hefyd wedi ymateb yn gadarnhaol i'r bygythiad diweddar i'w bywoliaeth trwy fabwysiadu dulliau organig, trwy arallgyfeirio a thrwy fabwysiadu dulliau newydd i farchnata'u cynnyrch yn lleol. Bellach, wrth gwrs, mae canran uchel o drigolion y fro yn teithio i fannau eraill i weithio. Fe gyflogir llawer iawn yn y sector cyhoeddus, yn arbennig felly y sefydliadau cenedlaethol ac addysgol a leolir yn Aberystwyth.

Gwasg Y Lolfa

Y Lolfa, Talybont

Y prif gyflogwr o fewn yr ardal ei hun ers blynyddoedd lawer yw Gwasg y Lolfa yn Nhal-y-bont. Pan sefydlwyd y wasg yn wreiddiol yn 1967 gan Robat Gruffudd, prif nod y cwmni oedd cyhoeddi cylchgrawn dychanol cyfoes, Lol, cynhyrchu posteri, a gwneud mân waith argraffu i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, ynghyd â chyhoeddi cardiau cyfarch ysgafn a chaneuon pop.

Ond erbyn canol yr 1970au roedd y wasg yn canolbwyntio'n bennaf ar gyhoeddi llyfrau poblogaidd a gwleidyddol eu naws. Yn ystod y 1980au a'r 1990au fe dyfodd Y Lolfa yn gyflym i fod yn un o brif weisg Cymru gan gyhoeddi nifer o gyfresi plant llwyddiannus a llyfrau unigol o'r radd flaenaf o safbwynt eu cynnwys a'u diwyg. Caiff nifer fawr o bapurau bro eu hargraffu gan y wasg hefyd gan gynnwys Papur Pawb wrth gwrs.

Mae'r murlun enwog sydd yn amlwg i'r holl deithwyr sy'n mynd o'r de i'r gogledd trwy Dal-y-Bont, ar wal stordy Gwasg y Lolfa, o waith yr artist lleol Ruth Jên; mae'n portreadu gorffennol a phresennol y pentref.

Papur Pawb, oedd y papur bro cyntaf i'w sefydlu yng nghefn gwlad Cymru, a hynny ym mis Medi 1974. Mae Papur Pawb hefyd yn ymffrostio ei fod ymhlith y papurau bro lleiaf o ran ei ddalgylch gan mai tri phlwyf bychan yn unig a wasanaethir ganddo, sef Ceulanamaesmawr, Llangynfelyn a 'Sgubor y Coed yng ngogledd Ceredigion.

Pentrefi'r fro

Er mai yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg y tyfodd pentrefi'r fro, ceir olion bod pobl yn preswylio yn yr ardal ar hyd yr oesoedd fel y tystia'r caerau niferus yn y cylch, megis Llety Llwyd, Tal-y-bont a Phen Dinas ger Bont-goch.

Bedd Taliesin

Un o olion hynafol enwocaf Ceredigion yw Bedd Taliesin, cist o'r Oes Efydd a welir ger y ffordd fynydd rhwng Tal-y-bont a Thre'r-ddôl. Yn ystod haf sych yn y 1970au fe ganfyddwyd olion o gaer Rufeinig gerllaw Erglodd, rhwng Tal-y-bont a Thre-Taliesin.Y digwyddiad hanesyddol amlycaf a welodd yr ardal hon oedd Brwydr Hyddgen yn 1401, pan drechodd byddin Owain Glyndŵr dros fil a hanner o filwyr y brenin Harri IV ar lethrau Pumlumon.

Enwogion yr ardal

Dros y blynyddoedd mae sawl un o drigolion yr ardal wedi gwneud cyfraniad o bwys i'n hanes fel cenedl. Efallai mai'r amlycaf ohonynt oedd Humphrey Rowland Jones, pregethwr nerthol a aned yn Gwarcwm Bach, Tre-Taliesin. Ar ôl treulio rhai blynyddoedd yng Ngogledd America fe ddychwelodd i Dre'r-ddôl yn 1858, ac yntau'n 26 oed, ac oddi yno y cynheuwyd fflam diwygiad crefyddol 1859 a ledodd mewn byr amser dros Gymru gyfan.

Brodor o Dal-y-bont oedd David Adams (1845-1923), ysgolfeistr a gweinidog, a gofir yn bennaf fel prif ladmerydd y Ddiwinyddiaeth Newydd yng Nghymru, mudiad a gychwynnodd yn yr Almaen.

Gwnaed cyfraniad nodedig hefyd gan unigolion a fagwyd yn yr ardal i'r byd llenyddol yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, megis J. J. Williams (1869-1954), a aned yn Pentre Gwynion ger Tal-y-bont, a enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn negawd cynta'r ganrif ddiwethaf ac a fu'n Archdderwydd am gyfnod.

Codwyd safon llyfrau ffeithiol Cymraeg i blant gan Richard Morgan o Dal-y-bont, a luniodd nifer o lyfrau natur yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Roedd Evan Isaac (1864-1938), gweinidog ac awdur toreithiog, yn hanu o Dre-Taliesin: yn ei gyfrol Coelion Cymru (1938) mae'n adrodd nifer o storïau a choelion gwerin o'i fro enedigol. Ond nid yr enwogion hyn oedd yr unig rai a gyfrannodd at gyfoeth diwylliannol yr ardal yn ystod y ganrif a hanner diwethaf.

Fe fagodd yr ardal nifer dda o unigolion a wnaeth gyfraniad amhrisiadwy i draddodiad crefyddol, addysgol, cerddorol, llenyddol ac eisteddfodol eu bro. Ond er y boddhad a geir o edrych yn ôl dros orffennol llewyrchus yr ardal, mae gennym le i ymfalchïo yn y bwrlwm cymdeithasol a diwylliannol sy'n digwydd yma ar hyn o bryd.

Pleser yw rhoi sylw yn fisol yng ngholofnau'r papur bro i ddigwyddiadau amrywiol sy'n brawf digamsyniol fod yma fywiogrwydd, brwdfrydedd a gobaith am ddyfodol ffyniannus. Ymhlith y sefydliadau hynaf a phwysicaf y mae Sioe Amaethyddol a Garddwriaethol Tal-y-bont a Gogledd Ceredigion a sefydlwyd yn 1896 ac sy'n parhau i ddenu cystadleuwyr a thyrfaoedd helaeth o bell ac agos bob mis Awst.

Capel Bethel

Gall Tal-y-bont ymfalchïo hefyd bod yma Glwb Ffermwyr Ieuainc llewyrchus a ddathlodd ei hanner canmlwyddiant yn ddiweddar, a Chapel Bethel (Annibynwyr) Tal-y-bont a ddathlodd ei ddau-ganmlwyddiant yn ddiweddar. Mae'n braf gweld teuluoedd ifanc ac eraill yn dewis symud i'r fro gan gryfhau ac ymestyn ffiniau'r bywyd Cymraeg.

Mae'n wir bod mewnfudwyr di-Gymraeg yn cynyddu yma hefyd, ond mae nifer ohonynt yn manteisio ar y cyfle i ddysgu'r iaith ac yn ymfalchïo wrth weld eu plant yn dod i'w siarad yn rhugl, diolch i ymdrechion glew staff y ddwy ysgol gynradd leol, sef Ysgol Gymunedol Tal-y-bont ac Ysgol Llangynfelyn.

Ond ni allwn fforddio llaesu dwylo. Ein dyletswydd a'n braint yw cynnal yr iaith a'r diwylliant, ac mae hynny'n golygu aberth o ran amser ac ymdrech. Gobeithiwn y bydd Papur Pawb yn dal i wasanaethu cenedlaethau'r dyfodol gan gofnodi a dathlu bywyd cymdeithasol Cymraeg y fro.

I groesawu'r Mileniwm newydd perfformiwyd Pasiant yn Neuadd Goffa Tal-y-bont gyda thros 100 o oedolion a phlant yn dod at ei gilydd i ddathlu hanes y fro. Fel diweddglo i'r pasiant, canwyd y geiriau isod o waith David Jones, Bwlchyddwyallt, Tal-y-bont, sy'n crisialu gorffennol ein bro, a'n gobaith am ei dyfodol:

Sefydlwyd cnewyllyn y pentre
Ar y ffatrïoedd gwlân,
Rhan o fro amaethyddol
A gofir mewn rhigwm a chân.
Daeth argyfwng i ran ein hamaethwyr,
Mae'r hen ddiwydiannau ar drai,
Ond yn gadarn fel craig yr oesoedd
Fe fydd bywyd y fro yn parhau.
Mae'n ddechrau'r mileniwm newydd,
A miri yn llanw'r lle,
A chyda throad y ganrif
Mae'r pentref yn fyw ar y We.
Er gwaetha yr holl foderneiddio
A'r newid parhaus sy'n ein clyw,
Peidiwch, da chi, ag anghofio -
Rhaid cadw'n diwylliant yn fyw.

gan Eleri Huws


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym

Canu'r Plygain

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddocâd yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.