Hanes trefi a phentrefi Maldwyn

top
Castell Powys, Trallwng

Cyfle i ddod i adnabod ardal bryniau Sir Drefaldwyn, ei hanes a'i chymunedau yng nghwmni Gwyndaf Roberts.

Sut mae disgrifio'r diriogaeth? Wel, ni wn am ddull gwell o'ch tywys i'r fro na'ch gosod ar yr A458 yn y Trallwm sef y ffordd fawr o'r Amwythig sy'n cyrchu'r miloedd ar eu taith o ganolbarth Lloegr i draethau'r gorllewin. O boptu'r ffordd hon o'r Trallwm i Nant y Dugoed, taith o oddeutu 28 milltir, y mae'r ardal.

Saif y Trallwng a fu'n lleoliad i un o chwedlau'r Mabinogion - Breuddwyd Rhonabwy - ar groesffordd yr A483 a'r A458. Mae'n dref farchnad bwysig i amaethwyr y bryniau cyfagos. Yma gwelir enghreifftiau o'r adeiladau du a gwyn sydd mor nodweddiadol o'r gororau. Tu cefn i'r brif stryd saif talwrn ceiliogod a fu mewn defnydd hyd 1849 pan ddaeth yr arferiad creulon i ben drwy ddeddf gwlad. Mae'r adeilad chwe ochr yn werth ei weld gan mae hwn yw'r unig enghraifft ar ôl yng Nghymru sy'n parhau i sefyll ar ei safle gwreiddiol.

Mae eglwys y Santes Fair, ar safle amlwg yn y dref, o ddiddordeb arbennig i Gymru gan y bu'r Esgob William Morgan yn un o'i gyn-ficeriaid. Saif y capel Cymraeg mewn man braidd yn guddiedig ar ben uchaf y brif stryd ond mae'r aelodau yn chwarae rhan amlwg ym mywyd y dref a'r sir.

Hen orsaf y Trallwng

Ar lecyn ger gorsaf trên y Trallwng mae cerrig yr Orsedd ac yma yng Ngorffennaf 2002 cyhoeddwyd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2003.

Mae gorsaf trên arall yn y dref, sef pen draw'r lein fach sy'n arwain i Lanfair Caereinion. Cawn sôn mwy am y lein fach maes o law ond byddwch yn ei gweld hi a mwg y trên wrth i chi ddringo o'r dref i fyny allt serth y Golfa.

Cyfronydd yw'r llecyn mwyaf amlwg y dewch iddo'n gyntaf. Yma yn y neuadd fawr ar y dde bu ysgol i ferched dan anfantais lle bu Dyddgu Owen y nofelydd, yn brifathrawes.

Wrth groesi'r bont cewch eich golwg cyntaf ar afon Banwy a bydd hi'n cyd-deithio gyda chi fwy neu lai hyd at Nant y Dugoed a'r Parc Cenedlaethol. Yn fuan fe ddowch i drofa arw Heniarth, safle un o hen dai bonedd yr ardal a man lle bu'r beirdd yn canu ei glodydd. Yma mae blaen eich troed ym mhlwyf Llangynyw.

Llanfair Caereinion a chwedl Taliesin

Golygfa o Lanfair Caereinion

Mewn dim fe welwch Lanfair Caereinion gyda gorsaf y trên bach yn eich croesawu. Dathlodd y rheilffordd ganrif o fodolaeth yn 2003 er na fu ar waith drwy'r holl gyfnod hwnnw.

Mae'n werth troi dros y bont i'r dref i ymweld â Ffynnon Fair gerllaw'r eglwys ac i ddilyn hanes Gwion Bach a'i helyntion gyda Ceridwen yr wrach. Y Gwion hwn, wedi sawl helynt, a lyncwyd gan Ceridwen wedi iddi droi'n iâr ac yntau'n hedyn ac a anwyd naw mis yn ddiweddarach yn Taliesin "yr harddaf o ddynion". Gellid treulio rhagor o amser i weld gwaith Samuel Roberts, y gwneuthurwr clociau ond galw mae afon Banwy a'r daith i fyny'r dyffryn yn denu.

Llangadfan

Dros y canrifoedd bu Llanerfyl yn fagwrfa i feirdd. Yma mae'r cyn-archdderwydd Emrys Roberts yn byw ac mae hen gartref Gwyn Erfyl ar y llethrau i'r dde o'r ffordd sy'n arwain o'r briffordd i Gwm Nant yr Eira. Cyn gadael y pentref rhaid mynd i weld Maen y Santes Erfyl yn yr eglwys ynghyd â'r greirfa hynod a gedwir yno.

Does ryfedd mai Llangadfan ydy cartref dawnsio gwerin hen sir Drefaldwyn oherwydd yma bu'r amryddawn William Jones, Dolhywel, 1726-1795, yn cofnodi dawnsfeydd ei gyfnod. Ymhlith enwogion eraill yr ardal mae Cadfan, yr emynydd, y cyn-archdderwydd a'r gweinidog Wesle. Yma hefyd yn un o ystafelloedd y Ganolfan sydd ynghlwm â'r ysgol, daw ffyddloniaid y papur bro lleol Plu'r Gweunydd bob mis i baratoi'r papur ar gyfer ei ddosbarthu.

Y Foel

Y Foel ym mhlwyf Garthbeibio yw'r pentref olaf y down iddo ar y briffordd. Yma o bosib mae'r Gymraeg ar ei chryfaf. Ym mynwent yr eglwys mae bedd y telynor a'r datgeinydd cerdd dant crwydrol, Evan Jones, Telynor y Waun Oer (1784-1872). Cafodd cerdd y diweddar John Penry Jones, Y Foel, i'r hen delynor ei chanu yn Eisteddfod 2003.

I'r gogledd o'r A458 ar y ffordd sy'n arwain i Lanwddyn a Llanfyllin mae Llwydiarth. O ddilyn y mynegbyst ar y ffordd droellog hon cewch eich hunain yn mynd heibio Dolwar Fach a chyn bo hir i Ddolanog a'r Capel Coffa i'n prif emynyddes, Ann Griffiths.

Gall y mentrus deithio ar droed ar hyd llwybrau Glyndŵr ac Ann Griffiths o Ddolanog i Bontrobert ac ymweld â Phendugwm, cartref y cenhadwr John Davies, Tahiti, cyn cyrraedd yr Hen Gapel ym Mhontrobert ac ymdeimlo yno â phresenoldeb John, Ruth ac Ann.

Wrth deithio i gyfeiriad Meifod mae'r dyffryn yn ymledu a gwelir Dolobran i'r chwith, cartref y Crynwyr enwog a sefydlwyr Banc Lloyds. Yma ar dir y fferm saif hen dŷ cwrdd y Crynwyr a adeiladwyd yn 1701. Wrth groesi'r bont down i olwg Mathrafal a'r tir a fu'n gartref i Eisteddfod Genedlaethol 2003. Yma, er na wyddys ym mhle, bu prif lys tywysogion Powys ac ym Meifod ei hunan mae safle eglwys Sant Tysilio lle bu'r uchelwyr hyn yn addoli.

Erys yr ardal eang a bryniog i'r de o Lanfair Caereinion a'r A458 i ymweld â hi. Yma yn agos i'w gilydd mae Cefn Coch a'i chanolfan marchogaeth a phentref Llanllugan, safle un o dri lleiandy Cymru yn oes y mynachlogydd. Byddai papurau'r Sul heddiw wrth eu boddau yn adrodd y sgandal am Briores Llanllugan ac Abad Ystrad Marchell ger y Trallwm ond ni fyddai Plu'r Gweunydd yn meiddio cyffwrdd â hanes o'r fath!

Bu Hywel Harris yn y fro yn sefydlu'r seiadau Methodistaidd ac un o'i gynghorwyr cynnar oedd Lewis Ifan 1720-1792. Rhoddwyd ei enw'n ddiweddar ar gapel hynod yr Adfa. Enillodd mynwent y capel hwn wobr gyntaf am daclusrwydd a harddwch mewn cystadleuaeth agored i Gymru a Lloegr yn 2002.

Dyna fras olwg ar yr ardal ond mae sawl llecyn arall gellid ei droedio. Byddai'r ymwelydd o wneud hynny'n dod i ddeall yn fuan iawn yr hyn a olygir wrth y dywediad 'Mwynder Maldwyn'.

gan Gwyndaf Roberts


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym

Canu'r Plygain

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddocâd yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.