Gorllewin Maldwyn

top
Machynlleth

Arweiniad i fro gorllewin Sir Drefaldwyn a'r cyffiniau gan Ann Fychan, gyda chyfle i ddod i adnabod bro'r plygain a'i hanes unigryw.

Mae'r ardal hon wedi'i lleoli yng ngorllewin yr hen Sir Drefaldwyn sydd yn rhan o Bowys erbyn hyn. Mae'n cynnwys Dyffryn Dyfi yn ei gyfanrwydd, un o ddyffrynnoedd harddaf Cymru. Yn wir, yr hen bennill: "Blewyn glas ar afon Ddyfi hudodd lawer buwch i foddi," roddodd ei enw i bapur bro yr ardal, Y Blewyn Glas.

Teithio trwy'r fro

Tal y llyn

Ar yr ochr orllewinol i bentref Derwen-las ar waelod y dyffryn mae ffin Ceredigion, ac i'r gogledd o dref hynafol Machynlleth ger Pont-ar-Ddyfi mae Maldwyn yn cwrdd â Meirionnydd.

Mae pentrefi Pennal (a roddodd ei enw i Lythyr Pennal a anfonwyd gan Owain Glyndŵr at Frenin Ffrainc ym 1406) , a'r Cwrt yr ochr arall i'r bont i gyfeiriad y môr yn gynwysedig yn yr ardal, fel y mae Tal-y-llyn, Corris, Aberllefenni, Ceinws a Phantperthog i'r gogledd.

Dyma un o'r ardaloedd lle bu chwareli llechi yn eu hanterth a'r rheilffordd fach yn brysur yn cludo'r wagenni llawn i lawr i orsaf reilffordd Machynlleth. Mewn cyfnod cynharach cludwyd y wagenni gan geffylau i'r hen borthladd yn Nerwenlas ac i Aberdyfi i'w hallforio i bob rhan o Brydain, Iwerddon a Gorllewin Ewrop.

Pont dros yr afon Ddyfi

Mae'r afon Ddyfi yn tarddu ar lethrau godidog yr Aran Fawddwy gan ddilyn ei chwrs trwy Lanymawddwy, Dinas Mawddwy, Mallwyd ac Aberangell ym Meirionnydd, cyn llifo hyd ddolydd gwastad Maldwyn heibio i Gwmlline, Cemais, Glantwymyn, Llanwrin a Phenegoes a chyrraedd tref farchnad Machynlleth, canolbwynt yr ardal.

Dyma'r ardal yr ysgrifennodd Tilsli amdani:

"Y fro deg hyfryd yw hi
A heddwch yn nawdd iddi,
O ddialedd a helynt
I'r henfro hon af ar hynt"

Mae'r traddodiad canu Plygain i'w gael o hyd yn eglwysi Llanymawddwy a Mallwyd. Yn wir, nid am y Gwylliaid Cochion yn unig mae ardal Dinas Mawddwy yn enwog, ond am ei thraddodiad cerddorol ym myd canu gwerin a cherdd dant yn ogystal. Bu cyfraniad Dafydd Roberts, y Telynor Dall, yn fawr, a chofiwn iddo gyfansoddi nifer o alawon,- Bedw Gwynion yn eu plith. Roedd John Breese Davies yntau'n fawr ei barch fel hyfforddwr a beirniad, a dilynodd eraill yn yr un traddodiad.

Eglwys Mallwyd

Yn Eglwys Sant Tydecho, Mallwyd, bu'r Dr John Davies (1567-1644) yn rheithor am oddeutu deugain mlynedd. Cyfrifir ef yn un o ysgolheigion pennaf Cymru. Bu'n cynorthwyo'r Esgob William Morgan ac yn ddiweddarach yr Esgob Richard Parry gyda'u cyfieithiadau o'r Beibl i'r Gymraeg.

Wrth deithio ar hyd y ffordd fawr heibio i bentref Aberangell awn heibio i Blaenplwyf Uchaf, cartref yr ymrysonwr poblogaidd Dafydd Wyn Jones. Ymlaen trwy bentref Cwmlline i Gemais, - bu Mynyddog yn byw yma ym Mron-y-gân er iddo gael ei eni yn Llanbryn-mair. Bu farw'n ŵr ifanc 44 mlwydd oed, ac yn ddiweddarach priododd ei weddw Emlyn Evans, (1843-1913) y cerddor, a buont hwythau ill dau byw ym Mron-y-gân. Emlyn Evans yw cyfansoddwr yr emyn-donau Eirinwg, Trewen a Neuadd-Lwyd.

Rhwng Glantwymyn a Phenegoes gwelwn bentref Llanwrin ar wastadeddau'r afon Ddyfi.

Mathafarn

Yno mae Mathafarn, cartref Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym 1981. Bu i blasty Mathafarn bwysigrwydd yn hanes y fro am gyfnod maith.

Dyma gartref yr uchelwr a'r bardd Dafydd Llwyd (1420-1500). Yn ôl traddodiad, arhosodd Harri Tudur ym Mathafarn efo Dafydd Llwyd ar ei daith i frwydr Bosworth.

Ym mhentref Penegoes ganwyd Richard Wilson (1713-82), yr arlunydd. Roedd yn fab i'r Parch. John Wilson, rheithor Eglwys Cadfarch, ac erbyn heddiw cydnabyddir ef fel un o brif arlunwyr golygfeydd natur Ewrop yn ystod y ddeunawfed ganrif.

Tref Machynlleth

A dyna ni ym Machynlleth, tref Glyndŵr, gyda'i stryd lydan urddasol a chloc y tŵr yn rhan anhepgor o'i chymeriad. Yma ffurfiodd Owain Glyndŵr ei Senedd ym 1404, ac yma, ym mis Medi, cynhelir Gŵyl Glyndŵr yn flynyddol i ddathlu'i fywyd a'i ymdrechion.

Ym Medi 2000 codwyd cofeb hardd iddo ar dir y Plas, cartref Celtica erbyn hyn, gydag englyn o eiddo Dafydd Wyn Jones arni:

Owain, tydi yw'n dyhead,- Owain
Ti piau'n arddeliad,
Piau'r her yn ein parhad
A ffrewyll ein deffroad.

Carn Hyddgen

Wrth ddilyn y ffordd fynyddig o Fachynlleth tua'r De awn i gyfeiriad Carn Hyddgen lle bu un o frwydrau buddugoliaethus Glyndŵr.

Cofeb Wynford Vaughan Thomas

Deuwn i bentrefi'r Bont faen ac Aberhosan cyn dringo'r Grafie lle mae cofeb i nodi'r fan lle gwasgarwyd llwch y teithiwr ar newyddiadurwr enwog Wynford Vaughan Thomas. Yma roedd ei hoff lecyn, a hawdd yw deall pam.

Wrth droi'n golygon yn ôl tua'r dyffryn islaw mae'r olygfa o fynyddoedd Pumlumon, Cader Idris, Aran Fawddwy ac Eryri yn y pellter yn un cylch gwarchodol yn un wir ogoneddus. Ar ôl cyrraedd y moelydd unig uwchlaw'r Grafie gwelwn olion yr hen weithfeydd mwyn yn Nylife. Anodd yw credu heddiw wrth edrych ar dawelwch yr unigeddau bod mwy na 1000 o drigolion yn byw yn Nylife ar droad y ganrif ddiwethaf.

Wrth deithio 'mlaen i gyfeiriad Penffordd-las a Llyn Clywedog, ffin ddeheuol ein bro, egyr golygfa ysblennydd o'n blaenau ar yr ochr chwith, sef golygfa o Gwm Pennant i lawr trwy Bont Dolgadfan a'r Llan i Lanbryn-mair a Chwm Tafolog i gyfeiriad Mallwyd. Dyma blwyf eang Llanbryn-mair, yn ymestyn o Dalerddig i Dafolwern, ac o Bennant i Dafolog. Dilynwn y ffordd i lawr efo'r Afon Twymyn a throi am Bont Dolgadfan, cartref Gwilym Cyfeiliog, awdur yr emyn 'Caed trefn i faddau pechod' dros Fwlch Cerrynt i Garno lle sefydlodd Laura Ashley ei chwmni dillad a ddaeth yn enwog ledled y byd. Dyma ffin ddwyreiniol ardal Y Blewyn Glas.

Dôl-fach

Yn ôl â ni, felly a thrwy Dalerddig ym mhen uchaf Llanbryn-mair, plwyf sy'n gyforiog o hanes. Deuwn i bentref Dôl-fach ac yno yn Nôl-lydan y ganed Mynyddog (1833-77), bardd ac arweinydd eisteddfod hwyliog a phoblogaidd. Ymhlith rhai o'i eiriau mwyaf poblogaidd mae 'Pistyll y Llan', 'Myfanwy' a 'Cartref'.

Yn Nôl-fach hefyd mae capel yr Annibynwyr, yr Hen Gapel, a fu'n ganolog i'r traddodiad a'r annibyniaeth barn a berthyn i Lanbryn-mair. Fferm Y Diosg yn Nôl-fach oedd cartref S.R. (Samuel Roberts, 1800-85), gweinidog, diwygiwr radicalaidd a golygydd. Ymladdodd dros ryddid yr unigolyn ac yn erbyn y degwm a gormes landlordiaeth.

Yng Nghwm Carnedd Uchaf y trigai Ezekiel Hughes (1766-1849), gwneuthurwr clociau ac arloeswr a ymfudodd i Paddy's Run yn Ohio yn yr Unol Daleithiau ym 1795. Aeth llawer o drigolion y plwyf i'w ganlyn,- 100 ohonynt gyda'i gilydd ym 1852 - i chwilio am ryddid a bywyd gwell. Dyma fro enedigol y Dr Iorwerth C. Peate, bardd a chrwr Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Ym mhentref bychan Tafolwern, eto yn Llanbryn-mair, mae'r Domen Fawr, lle gynt y cododd Owain Cyfeiliog (1130-97) Arglwydd Cyfeiliog a nai Madog ap Maredudd, Tywysog Powys, ei lys. Disgleiriodd Owain fel milwr ac arweinydd dylanwadol yn ei gyfnod, ac roedd yntau hefyd yn fardd.

Ymlaen i gyfeiriad Machynlleth, trwy bentref Comins Coch. Rhyw filltir neu ddwy oddi ar y briffordd ceir pentref Darowen ac Eglwys Sant Tudur, lle mae'r hen draddodiad canu Plygain yn fyw ac yn iach fel ag ym Mallwyd a Llanymawddwy. Arweinia'r ffordd o Ddarowen i gyfeiriad Tal-y-wern ac Abercegir gan fynd heibio Carreg y Fudde lle cynhelir Theatr Geffylau 'Equilibre', cyn ymuno unwaith eto â'r briffordd yn Abergwydol i'n dwyn yn ôl i Fachynlleth.

Ardal wledig, amaethyddol yw hon. Mae'r hen ddiwydiannau plwm a llechi yn ogystal â'r melinau gwlân a frithai eu hafonydd wedi diflannu bron yn llwyr bellach.

Melinau gwynt

Mae dwy fferm wynt ar fynyddoedd y fro, y naill ar Fynydd Cemais a'r llall ar Fynydd Trannon, - rhai o'u plaid ac eraill yn eu herbyn!

Mae harddwch naturiol a naws hamddenol yr ardal yn denu llu o ymwelwyr a llawer o fewnfudwyr. Nid yw'r darlun yn fêl i gyd. Fel mewn nifer helaeth o ardaloedd eraill yng Nghymru mae llawer o'r ieuenctid yn gadael i chwilio am waith a phrisiau'r tai y tu hwnt i gyrraedd y rhai sy'n aros.

Mae digon o bethau i'w gwneud yma trwy'r flwyddyn, yn ymestyn o ymweliad â siop y ffatri wlân yn Ninas Mawddwy i Ganolfan Grefftau Corris a chyfle i ymweld â Labrinth y Brenin Arthur gerllaw. Ym Mhantperthog mae'r Ganolfan Dechnoleg Amgen sy'n denu miloedd o ymwelwyr yn flynyddol gydag ystod eang iawn o weithgareddau ar gyfer pob oed.

Mae yma ganolfannau gweithgareddau awyr agored megis saethu colomennod clai yn Llanwrin a gyrru beiciau modur pedair olwyn ym Mhenegoes, pysgota yn yr afon Ddyfi a Chanolfan Hamdden yn y dref.

Yn nhref Machynlleth ei hun mae Canolfan y Tabernacl lle cynhelir arddangosfeydd a digwyddiadau diwylliannol o bob math gan gynnwys gŵyl gerddorol flynyddol yn ystod mis Awst.

Ar Heol Maengwyn, prif stryd y dref, sy'n frith o siopau bychain diddorol, mae Canolfan Ddehongli Owain Glyndŵr yn adeilad hynafol yr hen Senedd-dy. Ar y stryd hon yn bennaf y cynhelir marchnad bob Dydd Mercher, ac wrth gwrs mae Celtica, canolfan sy'n olrhain ein hanes i'n gorffennol pell mewn modd bywiog a diddorol yn cynnwys arddangosfa, canolfan ddehongli, siop a bwyty yn ogystal â llu o weithgareddau ar gyfer plant, yn un o brif atyniadau Cymru.

Cynhelir pob math o nosweithiau diwylliannol yma, yn Y Tabernacl ac yn y Ganolfan Hamdden gyda rhywbeth at ddant pawb. Croesewir artistiaid iddynt o bell ac agos, ond yn ogystal â hynny maent yn cynnig llwyfan i'n doniau lleol, yn unigolion, grwpiau pop, partïon a chorau.

Nid dyffryn i deithio'n gyflym trwyddo ar y ffordd rhwng De a Gogledd yw Dyffryn Dyfi, ond bro llawn cyfaredd gwerth aros ynddi i gael blas ar ei gorffennol, blas ar ei phresennol a chyfle i glywed acenion unigryw ei phobl.

gan Ann Fychan


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym

Canu'r Plygain

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddocâd yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.