Hanes tref Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Dyffryn Tanat

top

Sarah Bickerton sy'n adrodd hanes un o drefi hynotaf Sir Drefaldwyn.

"Lanrhaiad', henlle rhywiog,
Mochnant bennant bannog, fro enwog annwyl;
Anamal fan sydd fwynach,
Hawddgarach a mwy purach, ym mhob perwyl;
Gwladglir yw dyffryn Tanad hir,
A'r Llan meillionog ar waelod elwog,
Mewn lle ardderchog da serchog rhwng dwy sir,
Ffraeth lawndrefn pob ffrwythlondra, byd bara, bwyd, a bir;
Yn hon bu cynnyrch llewyrch llon,
Hen Forgans fawrgu'n gwiw faith gyfieithu,
I gael i Gymru Ysgrythur Iesu'n gron,
Yng ngwreiddiol iaith eu mamau mewn
breintiau ger ein bron"

Bardd o'r Nant (Oesoedd Canol)

Tarddiad yr Enw

Plwyf arbennig iawn yw Llanrhaeadr-ym-Mochnant i mi, ac yn wir, hefyd i Gymru gyfan. Wrth yrru o Ddyffryn Cain, i lawr Rhos-y-Brithdir ac heibio mynydd Allt Tair Ffynnon, cawn ein syfrdannu o weld yr olygfa brydferth o'n blaen. Dyffryn Tanat fwyn yn Sir Drefaldwyn, a'r "Llan", fel y gelwir gan ei phobol, yn gorffwys yn dawel yng nghanol y bryniau. Pistyll byrlymus, ewynnog yn troi'n afon swynol, y Rhaeadr. Yn y pellter, eisteddai Cadair Ferwyn yn urddasol fel Brenhines osgeiddig, yn gwylio ac yn gwarchod ei theyrnas ddeniadol. Mae'n ddigon hawdd gweld harddwch a chyfeillgarwch yr ardal hon, ond truenus yw'r ffaith fod ei hanes diddorol a phwysig i'n cenedl yn cael ei anghofio.

Yng ngeiriau Silas Evans, ystyr yr enw "Llanrhaeadr-ym-Mochnant" yw "Yr Eglwys ger y rhaeadr yng nghwmwd Mochnant"

Caiff yr ardal ei adlewyrchu'n effeithiol gan mai'r eglwys a'r pistyll neu'r rhaeadr yw tarddiad yr enw. Golygai "Mochnant" afon serth, gwyllt a chyflym, sy'n cyfeirio'n berffaith at y pistyll enwog. Mae'n ddiddorol fod yr enw wedi cael ei ysgrifennu mewn tua deuddeg ffordd amrywiol ers 1254 e.e. 1291: Raureader, 1661: Llan-Rayder a mougnant, 1801: Llanrhaiader-yn-Moch-y-nant.

Y pentref yn datblygu'n dref

Credir fod gwreiddiau'r pentref wedi datblygu o amgylch yr eglwys las, erbyn y 9fed ganrif fan hwyraf. Yn ddiweddarach Llanrhaeadr oedd canolfan weinyddol cantref Mochnant o fewn teyrnas Powys. Yn y 12fed ganrif yng Nghymru, rhennid cantrefi yn gymydau, a dywedir yr hanes tu ôl i'r "Cwmwd Mochnant", yn y llyfr "Hanes Plwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant":

"...darllenwn ym Mrut y Tywysogion i Owain Kyfeiliawc ac Owain Vychan ladd Iorwerth Goch ab Maredudd, a rhannu ei holl eiddo a'i dir, sef, Cwmwd Mochnant, rhyngddynt, tua'r flwyddyn 1170."

Cafodd y cwmwd ei rannu'n ddau, sef Mochnant-uwch-Rhaeadr (i Owain Kyfeiliawc) a Mochnant-is-Rhaeadr (i Owain Vychan). Ym Mochnant-uwch-Rhaeadr cynhwysir plwyfi e.e. Llangynog, Pennant a Hirnant, ac ym Mochnant-is-Rhaeadr cynhwysir plwyfi e.e. Llanarmon Mynydd Mawr a Llangedwyn. Oherwydd hyn, roedd y pentref wedi ei rhannu rhwng y siroedd, Dinbych, i'r gogledd o'r afon Rhaeadr, a Maldwyn i'r de. Unwyd y ddwy sir ym 1996 o ganlyniad i aildrefniad y llywodraeth leol, a bellach mae Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn perthyn i Ogledd Powys.

Yn y 13eg ganrif rhoddwyd yr hawl i gynnal marchnad a ffeiriau, ac o hyn datblygodd y farchnad fechan, a'i chanol yn y triongl ger yr eglwys. Chwaraeodd rhan bwysig ym mywyd y gymdeithas, ac o'i herwydd codwyd nifer o dai o'i hamgylch. Erbyn canol y 19eg ganrif, roedd pentref cymharol fychan a chywasgedig wedi datblygu, yn enwedig ar ochr ogleddol i afon Rhaeadr, ac erbyn hynny roedd melinau grawn, nifer o dafarndai, siopau, capeli a neuadd farchnad wedi eu codi, sydd yn parhau i fod yn bwysig hyd heddiw. Mae gan y pentref, er nad yw'n fawr, awyrgylch trefol.

Er nad yw'n dref, caiff ei ddisgrifio'n "dref fechan" ers canrifoedd. Llanrhaeadr yw'r pentref mwyaf yn Nyffryn Tanat, gyda'r plwyf yn cynnwys 23,300 o erwau.

Plwyf gyda chymdeithas Gymreig ac agos ydoedd, gyda'r rhan helaeth o bobl yn cynnal bywoliaeth drwy amaethyddiaeth. Bu'r ardal yn lwcus iawn i osgoi clwy'r "Traed a'r Genau" yn 2001, ac felly mae'r diwydiant yn mynd o nerth i nerth hyd heddiw.

Crefydd a'r Gymraeg

Mae'n ffaith fod crefydd wedi chwarae rhan arwyddocaol iawn yn niwylliant Cymru, a mynychu capel neu eglwys yn achlysur bwysig. Enwir yr eglwys wledig ar ôl Sant Dogfan oherwydd credir mai "ef a sefydlodd "achos" i Grist ym mhlwy Llanrhaeadr". Yn ôl traddodiad nodir Gorffennaf 13eg fel dydd Gŵyl y Sant. Dewisiodd llawer o'r gymdeithas ymuno â'r Methodistiaid Calfinaidd, yr eglwys Fethodistaidd, yr Annibynwyr neu'r Bedyddwyr.

Ni fyddai crefydd wedi bodoli yn y Gymraeg heblaw am gynnyrch neilltuol un o ficeri'r plwyf o 1578 i 1595. Ym marn y Parchedig W.T.Havard:

"Tra pery'r iaith Gymraeg bydd Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn enw bythgofiadwy am mai yn y Ficerdy yno y cyfieithwyd yr Ysgrythur Lân gan y Dr. William Morgan."

Caiff yr Esgob William Morgan ei ystyried gan lawer Cymro fel yr enwocaf oll o safbwynt Cymru a'r Gymraeg. Heb gyfiethiad y beibl buasai iaith ein gwlad wedi diflannu'n llwyr erbyn heddiw. Er hyn, mae'n warth, ond yn amlwg yn Llanrhaeadr, nid yw'r iaith mor gryf nawr âg y bu'n y gorffennol.

Heddiw, yn fwy nag erioed, mae estroniaid yn symud i'r pentref gan leihau bywyd yr iaith sydd wedi gwneud hanes ein pentref yn arwyddocaol i'r holl genedl.

Tirwedd godidog

Un rhyfeddod fydd yn sicr o oroesi am byth yw Pistyll Rhaeadr, "gogoniant yr holl ardal...ac yn un o saith ryfeddodau Cymru". Dyfynnir yn aml Englyn Dewi Wyn i'r Pistyll:

" Uchel-gadr raeadr dwr-ewyn - hydrwyllt
Edrych arno'n disgyn,
Crochwaedd y rhedlif crychwyn
Synnu pen-syfrdanu dyn."

Saif y pistyll yn fawreddog yn 240 troedfedd o uchder, ym mhen pellaf Cwmblowty prydferth. Caiff y miloedd ar filoedd o bobl sydd wedi ymweld â'r pistyll eu synnu a'u swyno gan harddwch yr olygfa hudolus.

Nid yw'n fawr o syndod i'r pistyll dramatig ysbrydoli llawer o chwedlau diddorol. Un ohonynt yw'r stori am y cerrig anferthol a elwir yn "Baich y Cawr, Baich y Gawres a Ffedogiad y Forwyn", a welir heddiw ar waelod y pistyll. Dywed fod Cawr y Berwyn yn ceisio cyrraedd Pennant Melangell cyn y wawr, ond roedd yn hwyr a phan ganodd y ceiliog, dychrynnodd y cawr a chwympo'r cerrig yr oedd yn eu cario.

Llanrhaeadr-ym Mochnant heddiw

Heddiw, "pentre gwledig cysglyd sy'n ymddangos fel ei fod heb ddala lan â'r unfed ganrif ar hugain" yw'r ffordd y darluniodd Amanda Prothero Thomas Llanrhaeadr, ar y rhaglen deledu Pacio. Oherwydd hyn, nid yw'n anodd deall pam y gwnaeth gynhyrchwyr ffilm Hollywood ddewis y pentref fel safle addas i'r ffilm lwyddianus "The Englishman Who Went up a Hill and Came Down a Mountain" yn 1994.

Y mae'n glir ei bod yn hawdd caru plwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant, nid yn unig am ei harddwch gogoneddus, ond hefyd yn ogystal am ei hanes.

Yng ngeiriau Cynddelw, un o enwogion y fro:

"Yn nyffryn hardd Mochnant mae mwyniant a mael
A doniau Duw uchod yn hynod o hael."

gan Sarah Bickerton


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym

Canu'r Plygain

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddocâd yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.