Llandysul a Bro Gwinionydd

top
Castell tref Castell Newydd Emlyn

Gwinionydd yw un enw ar y fro lle mae Ceredigion yn cwrdd â Sir Gaerfyrddin. Mae Marina Davies yn esbonio mwy ar hanes a hynodion yr ardal.

Mae'r fro hon yn ymestyn tros ffiniau dwy sir, sef Caerfyrddin a Cheredigion.

Petawn yn byw yn yr Oesoedd Canol, fe allwn yn rhwydd ei disgrifio fel bro cantref Gwinionydd - enw ar raniad o dir yn unol â chyfreithiau Hywel Dda. Heddiw mae'n haws ei disgrifio fel y fro sy'n cynnwys a chwmpasu trefi a phentrefi mawrion Castell Newydd Emlyn, Drefach Felindre, Pencader a Llandysul. Fel awgryma enw papur bro yr ardal hon, sef Y Garthen, mae hon yn fro ble mae dylanwad y diwydiant gwlân yn drwm arni.

Cestyll

Castell Newydd Emlyn - Adeiladwyd y castell, sy'n adfail erbyn heddiw, ar esgair uwchlaw yr Afon Teifi tua'r flwyddyn 1240 gan Maredudd ap Rhys.

Castell Hywel (neu Hwmphre - sef yr enw cyntaf) - Saif ar dir yr Esger Dyffryn Clettwr fach ger Pontsian.

Castell Abereinon - Saif uwchben Capel Dewi - (enw presennol Cil y Graig).

Castell Gwynionydd - ar dir Faerdre Fach (tua milltir o Landysul).

Castell Gwilym - ar dir Cwm Meudwy ger Llandysul.

Castell Cerdin - neu Logyn, ger Tregroes.

Castell Martin - ger Llanllwni.

Castell Cilgerran - Castell Normanaidd - adeiladwyd tua 1100.

Ceir nifer o hanesion eraill am gestyll a charneddau ym mro'r Garthen, sy'n rhy niferus i'w cynnwys yma.

Melinau Gwlân

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ystyriwyd Drefach Felindre a'r pentrefi cyfagos yn un o ganolfannau pwysicaf y diwydiant gwlân yng Nghymru. Gweithiai pump a deugain o ffatrïoedd yn yr ardal a chyflogwyd y rhan fwyaf o'r bobl leol yn y diwydiant.

Ffatri wlân Alltcafan

Yr hyn a osododd Drefach Felindre ar wahân i'r gweddill o ardaloedd diwydiant gwlân oedd cyd-ddigwyddiad rhwng agosatrwydd yr ardal at feysydd glo De Cymru a nifer o ffatrïwyr craff ac egniol, megis Samuel Williams, Dyffryn, a John Lewis, Meirios.

Bu dyfodiad y rheilffordd i Gaerfyrddin ac yn ddiweddarach i Gastell Newydd Emlyn yn help mawr i'r diwydiant hefyd. Dyma'r cyfnod yr adeiladwyd y ffatrïoedd mawr, megis Cilwendeg, Meiros, Square Hill a'r Cambrian.

Ym 1976 agorodd Amgueddfa Werin Cymru amgueddfa yn ymwneud â'r diwydiant yn ffatri'r Cambrian. Dyma amgueddfa diwydiant Gwlân Cymru, lle mae technegau sy'n ganrifoedd oed, sgiliau a anghofiwyd a dulliau traddodiadol o fyw yn cydfodoli gyda melin wlân sy'n dal i weithio ac yn cynhyrchu ar gyfer y farchnad fodern.

Cafodd Melin wlân y Cambria, Drefach Felindre, ei dinistrio gan dân ym 1919. Daeth diwedd y diwydiant fel prif gyflogwr yr ardal wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r galw am wlanen Cymru'n lleihau.

Ceir hanes cyflawn o'r diwydiant gwlân yn ardal Pencader a'r Cylch gan D G Lloyd Hughes yn y Garthen, rhifyn Medi 2000 hyd Tachwedd 2001, a Mawrth 2002.

Allfudwyr o'r ardal

Mae'r ardal wedi allforio ei hadnodd pwysicaf ar hyd y canrifoedd - ei phobl. Pan luniwyd map John Speed yn 1610 bychain iawn oedd y pentrefi yn ardal bro'r Garthen. Nid oedd yr ardal llawer mwy na chasgliad o ffermydd a bythynnod ar wasgar.

Cyfnod Merched Beca

Bu Merched Beca yn brysur iawn yn y fro gan ymosod ar dollbyrth yn Llandysul, Drefach Felindre a Chynwyl Elfed yn gyson. Credir bellach taw arweinydd y Beca a'r un a fu'n ganolog i gynllunio trywydd y brwydrau yn erbyn y tollau oedd Hugh Williams, cyfreithiwr o Gastell Newydd Emlyn.

Ardal y Smotyn Du

Bu Gwilym Marles (1834 - 1879) a fu'n byw yn Llandysul yn weinidog gyda'r Undodiaid yn Llwynrhydowen a Bwlchyfadfa. Safodd yn gryf gyda thenantiaid y cylch yn erbyn y meistri tir a fynnai rhenti uchel a gorfodi'r tenantiaid i bleidleisio dros eu hymgeiswyr hwy. Cafodd y tenantiaid eu cloi ma's o gapel Llwynrhydowen gan y meistri tir ond tan arweiniad Gwilym Marles fe godon nhw gapel newydd. Dywedwyd amdano: "Gŵr yn llawn o ddawn Duw yn ei bregethau, a'i galon ar dân dros ryddid a phob daioni dyn."

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, dychwelodd Charles, mab David Lloyd, o Lundain i'w hen gartref yng Nghastell Hywel, a chafodd ei bregethau gymaint o ddylanwad yn nyffryn Teifi nes troi'r mwyafrif o'r Ymneilltuwyr, o Landysul i Lanbedr ac i gyfeiriad Dyffryn Aeron yn Undodiaid. Dodwyd yr enw 'Smotyn Du' ar yr ardal hon mewn Sasiwn Fethodistaidd ac awgrymwyd anfon cenhadon yno. Erbyn 1846 yr oedd Undodiaeth wedi gwreiddio'n gadarn yn ardal Llandysul.

Cofeb yr Hen ŵr, Pencader

Pencader

Wrth deithio nôl mewn hanes i'r 12fed ganrif, cofiwn am gornelyn bach o Sir Gaerfyrddin, sy'n rhan o fro'r Garthen erbyn hyn, sef ardal Pencader. Ie, cornelyn bach, dyna sut y cyfeiriwyd at y lle gan yr Hen Ŵr o Bencader i gwestiwn Harri'r II Brenin Lloegr pan yn teithio drwy'r pentref. Dyma'r geiriau a welir ar y gofeb yn y pentref heddiw:

Eich Mawrhydi, ni allai eich holl allu mawr chwi,
Fyth orchfygu fy ngwlad,
Oni bai am eich cynghreiriaid sydd y tu mewn iddi hi,
Anundeb a swyddgarwch a gwâd.
A gwendidau fy nghenedl sydd yn fy ngyrru ŵr hen,
I golli fy nhymer yn lân;
Ond ni all neb ei dileu hi ond dicter mawr Duw
Ar ben ein dicterau mân.
Ac o'i drugaredd fe gyfyd Ef weddill bach dewr
I'w harwain trwy'r orgyfyngau i gyd;
A'r rhain fydd yn ateb yn nydd y farn fawr
Dros y cornelyn hwn o'r byd.

Fel yr Hen Ŵr, cofiwn am bobl arall na fu'n ymostwng mewn dim ond i'w harglwydd Iesu yn 'Ogof Cwmhwplyn' - sydd gerllaw'r pentref. Mae'r hanes yn mynd yn ôl mor bell â dechrau Anghydffurfiaeth yng Nghymru, i ddyddiau Stephen Hughes 1622-1688, Apostol Sir Gaerfyrddin. Amser yr erlid mawr oedd hwn, pan waherddid i fwy na phedwar o bobl yn ychwanegol at y teulu ymgynnull i addoli mewn tŷ.


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym

Canu'r Plygain

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddocâd yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.