Hanes pentref Llanddewi Brefi

top
Pennill am chwedl Llanddewi Brefi

Lloyd Jones sydd yn ein tywys o amgylch pentref Llanddewi Brefi.

"Llanddewi Brefi fraith
Lle brefodd yr ych naw gwaith
Nes hollti Craig y Foelallt"

Dyma bennill sydd wedi ei ddysgu ar y cof gan bob cenhedlaeth o blant sydd wedi mynychu Ysgol Gynradd Llanddewi Brefi. Mae'r chwedl yn gysylltiedig ag Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi. Wrth i'r pâr o ychen dynnu'r drol i gario'r cerrig i ailadeiladu'r Eglwys, dywedir i'r llwyth fod yn ormod o bwysau i'r ychen ei dynnu i fyny Craig y Foelallt.

Wrth i un o'r ych gwympo'n farw, yn ôl y chwedl, brefodd y llall naw gwaith nes i'r graig serth o'i flaen agor yn ddwy. Gwnaeth hyn y ffordd yn wastad gan alluogi'r ychen unig i dynnu'r llwyth ei hun. Mae'r hollt yn y graig yn weladwy i bawb ac yn olygfa ryfeddol.

Ceir hanes diddorol am ymweliad Dewi Sant â Llanddewi Brefi yn y chweched ganrif pan ddaeth tyrfa enfawr o ddeng mil o bobl i wrando arno'n annerch y Synod. Trwy ryfedd wyrth fe gododd y ddaear o dan ei draed fel bod y dyrfa enfawr yn medru ei weld a'i glywed. Ar y tir cysegredig hwn yr adeiladwyd ac y gwelir Eglwys Dewi Sant heddiw.

Ni ŵyr unrhyw un i sicrwydd pa mor gynnar y bu yr ardal yn gartrefle i bobol ond gwyddom y daeth plwyf Llanddewi Brefi i amlygrwydd yn gynnar iawn mewn hanes gyda dyfodiad y Rhufeiniaid. Yma rhed y ffordd Rufeinig, Sarn Helen, a arweiniai i'r Gaer Rufeinig ar un o'r ffermydd yn ardal Llanio.

Croesai'r ffordd yr afon Teifi ac yn ymyl mae pwll o ddŵr a adnabyddir fel Pwll Rhufain. Yma y dywedir y bydddai'r morynion glandeg y Rhufeiniaid yn arfer ymdrochi. Rhed yr afon Teifi ar ochr orllewinol yr ardal - paradwys i bysgotwyr brithyllod ac eogiaid braf.

Plwyf gwledig yw hwn ac ymestyn i 30,000 o aceri gyda'r tirwedd yn codi o 500 troedfedd i 16,000 troedfedd gydag amaethyddiaeth yn dal i fod y prif ddiwydiant.

Wrth ymweld â'r pentref, gellir dweud ei fod wedi ei gynllunio yn arbennig o dda gyda'r sgwâr pedair ffordd yn arwain i bedwar ban byd. Rhed yr afon Brefi drwy'r pentref a defnyddiwyd ei dŵr i droi'r melinau fel pwer nifer o ddiwydiannau mân y dyddiau cynt.

Saif Eglwys Dewi Sant ar fryn, fel petai'n gwarchod y cyfan. Mae'r pentref yn ateb gofynion y pum cant o drigolion gyda'r Eglwys, dau gapel, ysgol gynradd, siop sy'n Swyddfa Bost, a dwy dafarn. Gwasanaethau angenrheidiol sy'n hanfodol i ddyfodol pentref gwledig.

I'r ochr ddeheuol, ar y bryniau cyfagos a adnabyddir fel Pentre Rhew y trigai pobl yr ardal yn yr Oes Gyntefig ac yn ddiweddarach bu'r tai unnos yn dra lluosog. Mae'r rhan yma yn olygfa wefreiddiol gyda chloddiau cerrig yn amgylchynnu caeau bach llechweddog a'r tai yn frodwaith addurnol ac yn atgof o lafur caled.

Bu'r ardal yn ffodus iawn yn ystod y cyfnod y bu'r rheilffordd yn rhedeg trwyddi, yn enwedig pan godwyd y Ffatri Laeth yn ei hymyl ym Mhont Llanio ym 1937. Dyma oedd y Ffatri Laeth gyntaf yng Nghymru o eiddo'r Bwrdd Marchnata Llaeth. Bu'n hwb aruthrol i economi'r ardal, gyda'r rhan fwyaf o ffermwyr llawr gwlad yn mynd ati i gynhyrchu llaeth.

Bellach, dim ond pump fferm laeth sydd ar ôl. Y Ffatri Laeth oedd canolbwynt y gymuned gan fod cymaint â chant o drigolion yr ardal a'r cylch yn cael gwaith yno. Yn anffodus, daeth ei dyddiau i ben yr un adeg â'r rheilffordd ym 1970. Colled enfawr i'r ardal a'r gymuned gyfan.

Perthyn i'r ardal ffermwyr blaengar. Mae hwsmoniaeth ac ansawdd uchel yr anifeiliaid a'r ffermydd yn sefyll ma's fel y goreuon yn y wlad. Ganed llawer o bobl yn yr ardal a ddaeth i enwogrwydd gan ddringo'n uchel mewn cylch ehangach gan adlewyrchu rhinweddau'r fro.

Bu Llanddewi bob amser yn gyfoethog yn ei chrefftwyr lleol. Edmygir eu medrusrwydd yng nghrefftwaith yr addoldai, yr adeiladau cyhoeddus a'r plasau tu fa's i'r ardal. Safant yn gofadail i ddycnwch a gallu digoleg eu cyfnod.

Gellir dweud am ardal Llanddewi Brefi ei bod yn ddarlun o Gymru gyda'r amrywiaeth tirwedd; cymoedd rhamantus, creigiau serth a dolydd ffrwythlon.

Mae'r golygfeydd yn aros ac wedi goroesi'r blynyddoedd ar wahân i'r rhai a aeth o'r golwg dan goed y Comisiwn Coedwigaeth a choedydd preifat.

Wrth ddringo rhyw filltir a hanner o sgwâr y pentref bydd yr hewl yn eich arwain heibio i'r hen chwarel lle naddwyd cerrig i adeiladu tai yn nechrau'r ganrif ddiwethaf. O'r safle uwchlaw ceir golygfa wefreiddiol wrth i chi edrych lawr ar y dyffryn fel clytwaith islaw. Wrth godi eich golygon ar ddiwrnod clir a'r awyr yn las gellir gweld rhan o dirwedd saith o siroedd Cymru.

Efallai mai natur fynyddig y tir sy'n gyfrifol am gyn lleied y newid a fu dros y blynyddoedd. Mae mynyddoedd yn amddiffynfa rhag newidiadau ac yn eu cysgod mae hen atgofion, hen arferion, hen gredo a hen ffordd o fyw a deil y mynyddoedd i fod yn gynefin i'r un tylwyth o ddefaid ers cenedlaethau lawer.

Ar lawr gwlad mae yna gwmpas ehangach i'r tir amaethyddol. Mae'r byd mecanyddol wedi cymryd drosodd ar oes aur y ceffylau. Gwelir llai o ffermwyr yn amaethu mwy o dir ond, er hynny, ni chollwyd golwg ar eu cyfrifoldeb fel gwarchodwyr yr amgylchedd a'r tirlun.

Ychydig o ffermydd sydd wedi newid dwylo i bobl o'r tu allan, gyda'r un teuluoedd yn dal i fod ar yr un aelwydydd ers llawer cenhedlaeth a'r Gymraeg yn dal yn loyw yn y cartrefi hynny.

Eto i gyd bu'r plwyf yn gyffredinol yn atyniad i lawer o fewnfudwyr sydd bellach wedi ymgartrefu yn yr ardal gyda'r iaith Gymraeg yn amlwg wedi dioddef.

Mae Llanddewi Brefi yn ffodus fod yma adeilad Cymunedol yn y pentref, cae chwarae a chorlan i'r plant - adnoddau sy'n ganolbwynt cymdeithasol i'r ifanc a'r hen.

Cydnabyddir fod trigolion Llanddewi Brefi yn dwyn nodweddion arbennig fel pobl groesawgar, gweithgar, darbodus ac, wrth gwrs, yn ôl traddodiad - yn hynod gynnil.

gan Lloyd Jones


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym

Canu'r Plygain

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddocâd yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.