Hanes trefi a phentrefi gogledd Ceredigion

top
Bwa yn croesi'r ffordd rhwng Cwmystwyth a Phontarfynach

Hanes ucheldiroedd gogledd Ceredigion gydag Eirionedd Baskerville yn cyflwyno cyfoeth hanes a thraddodiadau cymunedau'r fro.

Mae'r ardal hon, a wasanaethir gan y papur bro Y Ddolen, yn eang ac yn amrywio cryn dipyn. Mae'n ymestyn o ucheldiroedd Pumlumon i wastadeddau yr arfordir; o Gwmystwyth i Gwm Wyre, ac mae'n cynnwys tir hesb ardaloedd yr hen weithfeydd mwyn a thiroedd brasach y dyffrynnoedd ynghyd ag erwau o goedwigoedd.

Mae'r fro wedi bod yn bwysig erioed am amaethyddiaeth ac mae'n dal i fod yn fagwrfa i breiddiau o fuchesau. Mae'r ardal wedi aros yn gymuned wledig yn bennaf ar hyd y canrifoedd; ffermio sydd wedi bod yn asgwrn cefn i'r fro ers y cyfnodau cynnar a natur amaethyddiaeth y fro wedi ei nodweddu gan ffermydd a phlwyfi bychain gwasgaredig.

Safleoedd archeolegol a hanesyddol

Gwelwn olion hen ffermdai, lluestai, bythynnod mwynwyr a gweithwyr amaethyddol, yn ogystal â nifer o felinau, rhai ohonynt yn felinau llifio sy'n brawf o bwysigrwydd tyfu a thrin coed.

Olion gwaith plwm

Bu cyfnod o ddatblygu llwyddiannus o fewn ein gweithfeydd mwyn. Cynyddodd y boblogaeth, daeth llawer o weithwyr estron yma i weithio, a dysgu'r iaith.

Mae nifer o safleoedd hanesyddol ac archeolegol wedi eu cofnodi o fewn yr ardal; er enghraifft, ym mynyddoedd y canolbarth ceir enghreifftiau niferus o garneddau claddu Oes yr Efydd (2500 CC - 80 CC) ar y mynydd-dir agored, a darganfuwyd bwyelli o efydd a cherrig a thystiolaeth am gloddio mwyn yn ystod Oes yr Efydd, yn enwedig o Gwmystwyth a Phontarfynach.

Pumlumon

Gadewch i ni ddechrau ym Mhumlumon. Dyma'r man lle tardd y ddwy afon fawr sy'n llifo trwy'r ardal, sef Afon Rheidol ac Afon Ystwyth. Yn y 1960au adeiladwyd argae fawr ar draws pen ucha'r Rheidol, a boddwyd ffermdy Nantmoch a chapel Blaenrheidol o dan gronfa ddŵr y cynllun hydro-electrig.

Yn Nantmoch slawer dydd byddai rhai o feirdd Cymru yn dod i bysgota yn ystod y dydd a chynnal cystadlaethau barddoni gyda'r nos. Nid nepell o Nantmoch ar lethrau Hyddgen mae cofeb i gofio'r frwydr enwog lle y gorchfygodd Owain Glyndŵr a'i filwyr fyddin o Saeson a Fflemiaid y brenin Harri IV.

Ponterwyd

Dilynwn y Rheidol i lawr i Bonterwyd, gan fynd heibio i'r neuaddau ac Ysgubor Fach, Aberceiro. Yn Sgubor Fach y ganed Syr John Rhys, ysgolhaig Celtaidd a ieithegwr a ddaeth yn Brifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen. Codwyd cofeb iddo ar adfeilion y Sgubor Fach yn 1979.

Rhaeadr PonterwydYm Mhonterwyd mae'r ysgol newydd yn dwyn enw Syr John. Llifa'r afon o dan bont a adeiladwyd ar gynllun William Edwards (1719-89), adeiladydd y bont bwa enwog ym Mhontypridd. Ym mis Medi 1986 daeth Cwmni Tir Glas i Bonterwyd i baratoi ffilm ar gyfer S4C gan ganolbwyntio ar stori Guto Nyth Brân.

Uchafbwynt y gweithgareddau oedd ras rhwng Richard Evans, Prifathro Ysgol Syr John Rhys ac un sydd wedi rhedeg rasau marathon dros y byd, a Caradog, un o geffylau Bontgoch, gyda Dafydd Parry yn ei farchogaeth. Ymhen tri chwarter awr dychwelodd Dic wedi rhedeg o Bont Farm i fyny'r bryn i Aberceiro a Cheiro, croesi at Craignant a thros Banc y Bont ac yn ôl at yr hen bont. Daeth Caradog i'r bont ugain munud yn ddiweddarach.

Rhyw filltir o Bonterwyd mae pentref Llywernog lle ceir amgueddfa i'r diwydiant mwyn. Yma cewch gyfle i gael cipolwg ar hanes y gorffennol pan oedd mwyngloddio yn hollbwysig i'r ardal gan ddylanwadu ar y tirwedd ac ar fywyd y trigolion. Mae cyfle i fynd ar daith o dan y ddaear, ymweld â'r sied banio newydd a throi eich llaw at geisio gweithio'r defnyddiau i ddarganfod plwm neu arian. Mae'n hwyl, ac mi gewch gadw beth bynnag a ddarganfyddwch!

Mae'r ffordd dros lethrau Henriw uwchben Llywernog yn arwain at Ystumtuen, ardal ddiarffordd yn llechu mewn pant hirgul, gydag olion gweithfeydd mwyn. I'r de mae dyffryn serth afon Rheidol gyda cheunant y Gyfarllwyd yn rhan ohono.

Hen enw Ystumtuen oedd Nantcoch, ond enwyd y pentref a'r ardal o'r newydd ar ôl yr afon fwy, afon Tuen, sy'n rhedeg o lyn yr Oerfa i ddisgyn dros geulan y Gyfarllwyd. Cadarnle'r Wesleaid oedd Ystumtuen, a bu cylchdaith Ystumtuen, oedd yn cynnwys Salem Mynydd Bach (ger Trisant), Bethel Pont-rhyd-y-groes a Carmel, Cnwch Coch yn fagwrfa i ryw ddau ddwsin o bregethwyr Wesle.

Pontarfynach

Ar groesffordd Ponterwyd trown tuag at Bontarfynach, gan sylwi ar eglwys Ysbyty Cynfyn ar y dde. Ailadeiladwyd yr eglwys hon yn 1827, ond saif ar fangre hynafol iawn.
Rhaeadr Pontarfynach © Bwrdd Croeso Cymru

Bydd cannoedd o ymwelwyr yn galw ym Mhontarfynach bob blwyddyn i weld yr afon islaw yn berwi yng Nghrochan y Diafol, i gerdded i lawr Jacob's Ladder a thros y bont bren i Ogof y Lladron ac i syllu, wrth basio, ar y tair pont sydd uwch eu pennau.

Chwedl Pontarfynach

Yn ôl yr hen chwedl, adeiladwyd y bont gyntaf gan y diafol - dyna sy'n gyfrifol am yr enw Pont-y-gŵr-drwg a Devil's Bridge yn Saesneg. Ond mae'r enw swyddogol yn dangos mai pont dros afon Mynach sydd wedi enwi'r lle, ac mae'n debyg taw mynachod Ystrad Fflur a'i hadeiladodd yn y 11fed ganrif.

Gorsaf drenau Pontarfynach

O'r teras y tu allan i'r gwesty, yr Hafod Arms, gwelir rhaeadr drawiadol Gyfarllwyd o'ch blaen. Daw nifer fawr o'r ymwelwyr i'r pentref ar drên y lein fach sy'n ymlwybro'n araf o wastadedd Aberystwyth trwy ddyffryn goediog brydferth Cwm Rheidol. Yn wreiddiol, trên i gario mwyn o weithfeydd mwyn Cwmystwyth a'r ardaloedd cyfagos i Aberystwyth oedd. Byddai cyfran o'r mwyn yn cael ei drosglwyddo i'r brif reilffordd a'r gweddill yn mynd i'r porthladd i gael ei allforio.

Cariwyd y mwyn ar gart a cheffyl o Frongoch a Chwmystwyth i Bontarfynach a'r mwyn o waith Cwm Rheidol ac Ystumtuen mewn bwcedi ar raff awyr i'r arhosfan yn Rhiwfron a'i lwytho ar y trên. Erbyn 1913 canolbwyntiwyd ar gludo coed yn hytrach na mwyn, ac erbyn hyn tro'r twristiaid yw hi i gael eu cludo ganddo.

Trown i'r chwith wrth y gofgolofn i'r bechgyn lleol a laddwyd yn y ddau ryfel byd ac ymlaen trwy bentref Trisant i lawr i Lyn Frongoch, cyrchfan poblogaidd i bysgotwyr. Ar fryn uwchben y llyn mae Eglwys Llantrisant yn sefyll fel castell yn gwarchod ardal Rhosygell islaw.

Yn Rhydfawr Uchaf mae olion eglwys Gatholig, un o ddau gapel a adeiladwyd yn yr ardal gan yr Eidalwyr a weithiai yn Frongoch. Roedd Rhosygell yn enwog am nifer o ffynhonnau a gyfrifid yn iachusol, ac a alwyd yn Ffynhonau Trisant. Wrth wal mynwent Llantrisant mae beddau dynion o'r Eidal a ddaeth i weithio yng ngwaith mwyn Frongoch ond a fu farw o'r oerfel neu ddamweiniau yn y gwaith. Dim ond un o nifer o weithfeydd mwyn yn yr ardal oedd gwaith Frongoch - mae gwaith Weymyss a'r Graig Goch gerllaw.

Ar gornel y briffordd mae hen ffermdy sy'n prysur fynd yn adfail, Lletysynod, y mae cofnod ohono yn 1571. O ddilyn y ffordd i Bont-rhyd-y-groes, ychydig cyn cyrraedd pentreflan New Row, rhes o dai a adeiladwyd ar gyfer rhai o'r bobl a ddaeth i weithio i Frongoch, mae fferm Pengwernydd. Yma y bu cangen o Fethodistiaid Calfinaidd y fro yn cwrdd cyn symud i Letysynod, oddi yno i Benllyn, ac yn y man sefydlu ysgoldy i fyny'r llechwedd yn Rhiwfelen.

Hanes Plas y Trawsgoed

Mae'r ffordd gyferbyn â lon Pengwernydd yn mynd draw trwy Frynafan i Lanafan, lle mae'r eglwys yn coffáu un o gydoeswyr Dewi Sant. Dyma eglwys teulu'r Vaughans (Y Fychaniaid), Ieirll Lisburne. Tafliad carreg i ffwrdd mae Plas y Trawsgoed.

Y cyntaf i ymsefydlu yno oedd Adda ap Llywelyn Fychan ar ôl iddo briodi Tudo, merch ac aeres Ieuan Goch o'r Trawsgoed. Mae dylanwad teulu'r Vaughans yn drwm ar yr ardal - y nhw adeiladodd yr ysgol a Neuadd Lisburne, canolfan adloniant y cylch.

Plas y Trawsgoed

Gwerthodd y seithfed iarll y plas a'r parc i'r Weinyddiaeth Amaeth yn 1947, ond hanner canrif yn ddiweddarach fe brynodd ŵyr iddo y plas yn ôl. Mae'r Trawsgoed yn un o'r cymunedau prin yn y sir sydd â chaer Rhufeinig o fewn ei ffiniau, yn ymyl Plas y Trawsgoed, ac mae archeolegwyr wedi dangos fod y gaer wedi ei chodi tua 70 OC ac wedi parhau tan tua 120 OC. Mae rhai yn taeru iddynt weld milwr Rhufeinig wrth gatiau cefn y plas yn cadw golwg ar yr hen fryngaer ar ben Alltfedw!

Yn y Trawsgoed roedd gorsaf yn perthyn i'r rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth, a elwid y Manchester and Milford Railway ar y cychwyn, a byddai trên cyntaf y bore yn cludo blodau a chynnyrch gerddi'r Plas ar y rhan gyntaf o'u taith i gartref y Vaughans yn Llundain; bu'r rheilffordd ar agor am 99 mlynedd, o 1868 hyd 1967.

Eglwys Sant Ilar, Llanilar

Croeswn afon Ystwyth ar bont Trawsgoed, a throi heibio i Lwyn Du (Black Covert) i orffwys ar y safle picnic ar lan yr afon cyn dilyn yr afon unwaith eto i lawr i bentref Llanilar. Eglwys Sant Ilar yw canolbwynt y pentref, gyda'r hen ysgol gyferbyn â hi a chapel y Methodistiaid nid nepell i ffwrdd.

Darganfod olion yn Llanilar

Tra'n lledu'r ffordd ym 1980 daeth gweithwyr ar draws wrn, yn mesur 14" ar draws a 15" o uchder gydag ôl addurno arno sy'n hanu o'r cyfnod 1700-1400 CC.

Canfuwyd ynddo ddarnau o esgyrn wedi eu llosgi ac olion cyllell efydd. Cofiodd gweithiwr arall iddo weld wrn tebyg wrth gloddio ffos ryw 30 llathen i ffwrdd a mis yn ddiweddarach daeth archeolegwyr ar draws un arall. Dros yr afon, ar dir Pyllau Isaf, bu darganfyddiad tebyg yn 1840.

Ddiwedd Awst 1982 darganfuwyd penglogau pum ceffyl yn y mur yn un o adeiladau allanol fferm y Garth Fawr, Llanilar, - penglogau ceffylau mawr a'r dannedd yn dal o hyd, twll blêr yn nhalcen un neu ddau ohonynt, a llygaid dau ohonynt yn y golwg.

Gadawn Afon Ystwyth am y tro a dringo i'r chwith i bentref Llangwyryfon, neu Llangwyryddon i roi'r enw a ddefnyddid yn y Canol Oesoedd a Llangwrddon ar lafar gwlad. Adeiladwyd yn eglwys wreiddiol ynghanol yr hen fynwent, ond yn 1879 codwyd yr eglwys newydd y tu allan i'r fynwent. Dyddiad 1686 sydd wedi ei naddu ar garreg porth yr eglwys a bernir i honno ddod o'r hen un.

Yn ei hunangofiant mae Dafydd Evans (1830-1910), Archddiacon Llanelwy, yn cyfeirio at yr hen eglwys ac yn dweud bod iddi bedair wal a chronglwyd, a sgrin fel canolfur gwahaniaethol. Eglwys wedi ei chysegru i'r Santes Ursula a'r mil o wyryfon a ferthyrwyd yw hi. Yn yr ardal hon, hefyd, bu seiadau yng nghwmni Daniel Rowland, Williams Pantycelyn a Howel Harris rhwng 1743 a 1750.


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym

Canu'r Plygain

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddocâd yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.