Hanes Aberhonddu a Sir Frycheiniog

top
Brycheiniog

Hen Sir Frycheiniog yw testun Gruffydd Roberts wrth iddo esbonio hanesion a chymunedau de Powys.

Hen sir Frycheiniog

Flynyddoedd yn ôl, roedd sir yng nghanolbarth Cymru o'r enw Brycheiniog, a dyna, yn fwy neu lai, ydy dalgylch papur bro Y Fan a'r Lle - ac eithrio cylch Ystradgynlais a Faenor a Phenderyn.

Ym 1974, pan ad-drefnwyd siroedd Cymru, fe'n galwyd ni yn bobl De Powys, a dyna'r drefn hyd heddiw, er i sawl un o'r siroedd eraill gael eu teitlau'n ôl.

Pont Llanfair ym Muallt

O'r gogledd, fe geir trefi Llanwrtyd a Llanfair ym Muallt. Bu Llanwrtyd yn boblogaidd iawn un amser o achos ei dyfroedd iachusol, ac mae pob un yng Nghymru yn gwybod am Lanfair gan eu bod yn cysylltu'r lle â Sioe Amaethyddol Genedlaethol Cymru.

O ogledd yr hen sir, fe groesir bryniau'r Epynt tua'r de-orllewin, nes cyrraedd ardaloedd fel Llandeilo'r Fan, Pentre Bach, Pentre'r Felin, a Llanfihangel Nant Bran. Awn ymlaen wedyn i Gwmwysg, Trecastell a Phontsenni, ac yna i lawr i Grai. O'r fan honno fe drown yn ôl tua Chwm Senni. Fe arbedwyd y fan hon rhag cael ei boddi rhai blynyddoedd yn ôl. Diolch byth!

Aberhonddu

Bellach, mae'n rhaid mynd ymlaen drwy Libanus i dref hynafol Aberhonddu. Tref Seisnigaidd iawn oedd hon un cyfnod, ond mae pethau wedi gwella cryn dipyn dros y deugain mlynedd ddiwethaf. Drwy ddyfal donc, fe ddaeth y dref i sylweddoli mai yng Nghymru y gosodwyd hi! Hon oedd tref sirol yr hen Frycheiniog gynt, ond fe gollodd ei statws i Landrindod pan unwyd y tair sir.

.Camlas Aberhonddu

Symudwn ymlaen tua'r dwyrain gan alw yn Llanfrynach, Talybont, Llangynidr, Cwmdu a Chrughywel. Drwy ddyfalbarhad ychydig o gyfeillion Cymraeg eu hiaith, fe geir newyddion o'r mannau yma ar gyfer papur bro hen Sir Frycheiniog, sef Y Fan ar Lle. Daeth Y Fan a'r Lle i fodolaeth ym Mawrth 1996. Mae'n gwasanaethu ardal bur eang o gymharu â nifer o bapurau bro eraill yng Nghymru. Fe argreffir ein papur ni yn Abertawe. Yno hefyd yr argreffir ein papur Saesneg wythnosol lleol, y Brecon & Radnor Express. Yn Aberhonddu y mae'r brif swyddfa.

Y Fan a'r Lle i bawb

Mae Y Fan a'r Lle yn gweld golau dydd unwaith bob chwarter, ac felly dim ond pedwar rhifyn a gawn bob blwyddyn. Daw allan fel atodiad yn y papur Saesneg, ac fe ddosberthir tua deuddeg mil o gopïau ohono, yn rhad ac am ddim, i gartrefi Cymraeg yn ogystal â'r rhai di-Gymraeg (sydd yn y mwyafrif llethol) Dwi'n meddwl mai dyma'r unig bapur bro sy'n cael ei ddosbarthu yn y modd yma.

Hanes Aberhonddu

Mae'r hen sir yn llawn hanes. Yn Aberhonddu, er enghraifft, fe geir eglwys gadeiriol. Coleg Crist AberhondduEr hynny, dyw hi ddim yn ddinas gan mai Priordy oedd yr adeilad hynafol tan y flwyddyn 1923. Sylfaenodd Bernard o Neufmarche y Priordy i'r Mynaich Duon, a chododd rheiny eglwys yno. Hwn oedd yr unig sefydliad mynachol ym Mrycheiniog.

Cafodd tref Aberhonddu ei sefydlu ar lan, ac uwchben dwy afon. Mae olion yr hen gastell sy'n dyddio o tua 1091, yn edrych i lawr ar uniad yr Afon Wysg a'r Honddu ychydig cyn iddynt gyd-ddiflannu o dan y bont hynafol ar eu ffordd tua'r môr. Ar ôl croesi'r bont honno, o'r dref i ardal Llanfaes, fe welir yr hen Goleg Crist. Ysgol Fonedd sydd yma ers blynyddoedd maith. Mae'r adeilad gwreiddiol yn dyddio'n ôl i'r drydedd ganrif ar ddeg, pan ddaeth y Brodyr Duon i'r cylch. Dinistriwyd y lle gan Harri'r Wythfed yn ddiweddarach pan fwriodd ei lid ar y mynachlogydd.

Coleg Crist

Gallwn ymhyfrydu yn y ffaith mai Syr John Prys o Aberhonddu oedd yn gyfrifol am gyhoeddi'r llyfr cyntaf a brintiwyd yn yr iaith Gymraeg, a hynny yn 1546. Ei deitl oedd Yn y Llyvyr Hwnn. Llyfr ar gyfer yr eglwys ydoedd yn bennaf.

Ar Ffordd y Camden sydd ar gwr dwyreiniol y dref, fe geir adeilad Fictorianaidd anferth. Coleg diwinyddol ydoedd ar un adeg. Yma y bu nifer fawr o ddynion yn darparu at fynd i'r weinidogaeth. Mae wedi cau ers nifer o flynyddoedd, a fflatiau annedd a geir ynddo bellach.

Ychydig o bobl Cymru sydd heb glywed am Howell Harris, 'Y Teulu' a Choleg Trefeca. Mae'r Coleg o fewn ein dalgylch ni ac yn agos i dref fechan Talgarth. Mae'r Coleg yn dal i fynd ac mae'n bosibl mynd yno i gyrsiau a chynhadleddau. Mae'r naws Gymreig yn para o hyd, ac mae pawb sy'n rhedeg y lle yn Gymry Cymraeg.

Eangderau Epynt

Fe soniais yn gynharach am yr Epynt. Ardaloedd amaethyddol o fryniau eang a geid yma un adeg ond ers blynyddoedd maith bellach fe glywir sŵn y gynnau'n tanio bron yn ddyddiol. Yn y flwyddyn 1940, aeth miloedd o aceri'n eiddo'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Roedd angen y tir ar y Fyddin i ymarfer saethu magnelau. Trowyd yr amaethwyr allan o'u ffermydd gydag iawndal pitw iawn. Roedd hyn yn golygu colli 54 o ffermydd a thyddynnod, a dadleoli 219 o wŷr, gwragedd a phlant. O ganlyniad, fe ddinistriwyd cymdeithas glos oedd yn Gymraeg ei hiaith. Aeth pob teulu 'i ben ei helynt' gan ymsefydlu mewn ardaloedd eraill.

Yng Nghefn y Bedd, nepell o Lanfair ym Muallt, gellir gweld cof-golofn i Lywelyn ein Llyw Olaf, ac os trown ein hwyneb i gyfeiriad y gorllewin, fe ddeuwn, yn y man, i Langamarch. Yma, y mae Cefn Brith, cartref y Piwritan, John Penri. Bu e'n apelio at Frenhines Elisabeth y Gyntaf a'r Senedd am gael pregethwyr i roi addysg grefyddol i'r Cymry, drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Cafodd ei drin fel bradwr a'i ddienyddio ym 1593, yn 30 mlwydd oed.

Wrth deithio o Dalgarth i Grughywel, fe ddeuwn i Lanfihangel Cwmdu. Yma, yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, y bu offeiriad goleuedig iawn yn gwasanaethu. Gellir gweld ei fedd ym mynwent yr eglwys leol, ac fe roddwyd plac newydd ar ei garreg- gist yn weddol ddiweddar, yn ogystal ag ar adeilad bychan hynafol yn y pentre' ble y cynhaliai ysgol Gymraeg i blant y cylch. Gŵr o flaen ei amser oedd Thomas Price, neu Carnhuanawc. Credai'n gryf y dylai plant Cymraeg Cymru gael rhywfaint o'u haddysg drwy gyfrwng eu mamiaith, a hynny bob dydd.

Fe soniais am Drecastell a Chwmwysg. Ardal Gymreig ei hiaith yw Cwmwysg o hyd. Pentref gwledig yw Trecastell ar briffordd yr A40, rhwng Pontsenni a Llanymddyfri. Yma y ganwyd ac y magwyd y cerddor, David Jenkins, awdur tonau adnabyddus fel: 'Penlan', 'Capel Tygwydd' a 'Builth'.

Bannau BrycheiniogEr nad oes yma fôr na thraethau, fe ddaw nifer fawr o dwristiaid i 'Frycheiniog' bob blwyddyn. Un o'r atyniadau pennaf yw llethrau'r Bannau. Y pigyn uchaf yno yw 'Pen y Fan' gyda'r 'Corn Du' a'r 'Cribyn' yn gwmni iddo. Pleser miloedd o bobl bob tymor yw cerdded a dringo, gan mai sir hardd iawn sydd gennym a'r golygfeydd yn ddi-gymar.

Ym mro Llangors sydd rhwng Trefeca a Bwlch, mae Llyn Syfaddan. Llyn naturiol yw hwn, a cheir yma gyfle i fynd i hwylio mewn cwch neu yrru cwch modur, a mwynhau'r awyr iach.

Atyniadau Aberhonddu

Yn Aberhonddu, chwe blynedd yn ôl, fe adeiladwyd theatr. Ei henw yw Theatr Brycheiniog. Mae'n gaffaeliad mawr i'r dref, y cylch, a'r diwydiant twristiaeth. Gerllaw, mae 'ceg' yr hen gamlas sy'n llifo bob cam i Gasnewydd. Gellir cerdded am fillttiroedd ar hyd y llwybr-troed sy'n cyd-redeg â'r gamlas. Camlas AberhondduHefyd, fe ellir llogi bad i fynd ar 'fordaith' fer, a hyd yn oed dreulio wythnos o wyliau ar un o'r badau lliwgar.

Ar gwr gorllewinol y dref, mae rhodfa galed lle y gellir cerdded gyda glannau'r Wysg am tua hanner milltir nes cyrraedd y Tŷ Cychod. Mae'r rhodfa yn rhydd o gerbydau a cheir manteision fel ag a geir mewn parc. Yn y Tŷ Cychod gellir llogi 'canŵs' a phrynu hufen iâ, a bwydydd ysgafn.

Mae cwrs golff naw-twll yn Aberhonddu. Fe'i sefydlwyd ar dir fferm Newton. Ddwy filltir i'r gorllewin, ceir clwb golff arall, ger pentref Cradoc. Cwrs deunaw twll sydd yno. Ar ffin ogleddol y dref, mae canolfan hamdden sy'n cynnwys pwll nofio, a nifer dda o gyfleusterau eraill. (Mae'r Ysgol Gymraeg Gynradd gerllaw.)

Chwedl Penderyn

Does dim chwedlau poblogaidd ac arbennig yn perthyn i dalgylch Y Fan a'r Lle. Fodd bynnag, fe fu i gân werin boblogaidd gael ei hysgrifennu ar sail chwedl sydd â chysylltiad ag ardal yn ne yr hen sir Frycheiniog. Y gân honno yw 'Y Ferch o Blwy Penderyn'. Fe aeth Penderyn yn rhan o Forgannwg Ganol pan ad-drefnwyd y siroedd yn 1974. Chwedl arall sydd yn perthyn i'r ffin rhwng Brycheiniog a Shir Gâr yw stori 'Llyn y Fan'. Doeth, efallai, fyddai i mi beidio trio hawlio'r chwedl honno!

gan Gruffydd Roberts


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym

Canu'r Plygain

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddocâd yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.