Aberystwyth

top
Aberystwyth

Hanes Aberystwyth a'r cylch yng nghwmni Mari Ellis sydd yn esbonio lleoliadau a nodweddion y dref hanesyddol hon gan gynnwys Penglais, Penweddig, Urdd Gobaith Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Tref glan môr yw Aberystwyth, cartref coleg hynaf Prifysgol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae dylanwad y môr a sefydliadau addysgol yn drwm ar y dref. Yn hanesyddol, daeth bwrdeistref Aberystwyth i fod yn y flwyddyn 1277, pan roddwyd iddi siarter gan y brenin Edward I a adeiladodd y castell, sydd bellach yn adfeilion.

Llanbadarn Fawr oedd enw'r plwyf, a dyna sut y daeth Llanbadarn Gaerog yn enw ar y dref yn y blynyddoedd cynnar. Dibynnai'r boblogaeth ar y môr i raddau helaeth am eu cynhaliaeth ac y mae hanes hir i'r diwydiant adeiladu llongau. Daeth ffyniant pellach iddi o'r ddeunawfed ganrif ymlaen, fel tref wyliau.

Mae'r cilgant o westai a thai mawr, y Marine Terrace, yn olygfa gwerth ei gweld. Er i arferion gwyliau'r boblogaeth newid, deil perchnogion gwestai a thai gwely a brecwast a fflatiau i wneud bywoliaeth. Mae yma feysydd carafán a chalets yn darparu ar gyfer math gwahanol o ymwelwyr.

Gyda chwyddo maint Coleg y Brifysgol, prynwyd llawer o dai ar gyfer lletya myfyrwyr. Er bod yma hostelau, gwelwyd addasu llawer o dai, weithiau strydoedd cyfan, yn fflatiau ac ystafelloedd sengl ar gyfer myfyrwyr, Poblogaeth symudol ydynt, fel yr ymwelwyr haf, felly nid yw'r siopau byth yn brin o gwsmeriaid.

Capeli'n cau

Fel ym mhob man arall, dirywio a chau yw hanes y capeli. Yn 2002, caewyd y Tabernacl, capel hynaf y Presbyteriaid yn y dref, ac un enwog yn hanes y cyfundeb. Mae olion hen gapeli i'w gweld mewn gwahanol strydoedd ond erys capeli'r prif enwadau, llawer ohonynt mewn adeiladau hardd, Y Bedyddwyr, yr Annibynwyr, a'r Presbyteriaid gyda chapeli ar wahân i'r Cymry a'r di-Gymraeg. Ond codwyd capel newydd ar y cyd gan yr Eglwys Fethodistaidd.

Mae Eglwys y Plwyf, S. Mihangel a'r Eglwys Gymraeg, y Santes Fair ac Eglwys y Drindod Sanctaidd ym mhlwyf rheithorol Aberystwyth, gyda ficer yng ngofal Eglwys y Drindod. Mae gan y Catholigion eu heglwys ond addoli mewn adeilad benthyg a wna'r gynulleidfa Efengylaidd.

Tafarndai'n tyfu

Yn wahanol i'r capeli, gwelir agor tafarnau newydd ym mhob rhan o'r dref er bod nifer o'r hen rai wedi cau. Ni welwyd erioed gynifer o dai bwyta yn y dref ag yn y blynyddoedd diweddar hyn.

Ond yn oes yr archfarchnadoedd a'r siopau unffurf 'y Stryd Fawr' mae'n braf medru dweud fod yn Aberystwyth siopau teuluol, personol yn gwerthu amrywiaeth o angenrheidiau bywyd, a'r perchnogion eu hunain y tu ôl i'r cownteri, llawer ohonynt yn siarad Cymraeg. Fe glywch Gymraeg yn gyson wrth rodio trwy'r dref.

Mae'r llyfrgell gyhoeddus mewn man cyfleus, ond gan ei bod yn dal yn yr un adeilad a phan agorwyd hi yn 1905, mae'r lle yn gwbl anaddas ac annerbyniol i anghenion heddiw. Deil y rheilffordd i gysylltu Aberystwyth â'r canolbarth a hefyd i'r gogledd ar hyd yr arfordir i Bwllheli. Atyniad mawr i ymwelwyr yw Rheilffordd dyffryn Rheidiol, y trên bach sy'n rhedeg drwy'r haf i fyny i Bontarfynach.

Yn Aberystwyth y mae pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru, sefydliad o bwys i llenyddiaeth Cymraeg. Yma hefyd mae pencadlys Urdd Gobaith Cymru wedi i'r swyddfeydd symud eleni o'r adeilad gwreiddiol yn Ffordd Llanbadarn.

Addysg yn Aber

Yno y sefydlwyd Yr Ysgol Gymraeg gyntaf ym 1939, gan ddyfod ag enw Miss Norah Isaac yn adnabyddus. Yn 1851 agorwyd ysgol gynradd Gymraeg o dan yr awdurdod addysg a'i lleoli am y pared a'r ysgol gyfrwng Saesneg yn Ysgol Ffordd Alexandra. Bellach symudodd y ddwy i safleoedd ym Mhlascrug. Mae yma ddwy ysgol Uwchradd, sef Ysgol Gyfun Penglais yn y Waunfawr a'r Ysgol Gyfun Penweddig ar y ffordd i Lanbadarn.

Newydd ei gyhoeddi y mae hanes y Llyfrgell Genedlaethol, A Refuge in Peace and War, The National Library of Wales to 1952 gan David Jenkins. Bu ef farw ychydig cyn cyhoeddi ei gampwaith. Bu'n aelod o'r staff ac yn Llyfrgellydd rhwng 1969 - 79. Syr John Ballinger oedd y llyfrgellydd cyntaf, ac fe'i olynwyd gan Syr William Ll. Davies. Eraill a fu yn y swydd oedd Dr. E. D. Jones, Syr Thomas Parry, Dr. Geraint Gruffydd a Lionel Madden. Mr Andrew Green yw'r Llyfrgellydd presennol.

Cartref enwogion Cymru

Rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Choleg y Brifysgol daeth y dref yn gartref i lawer o enwogion Cymru. Thomas Charles Edwards oedd y Prifathro cyntaf ac ymhlith ei olynwyr yr oedd J. H. Davies, Syr Goronwy Daniel, a Syr Thomas Parry, a'r Dr Derec Llwyd Morgan. Yr Athro Noel Lloyd yw'r Prifathro presennol. Rhai o brif llenorion Cymru a fu'n byw yma oedd T. Gwynn Jones, Gwenallt, J.E. Caerwyn Evans, Thomas Jones a Syr Thomas Parry.

Athro cerddoriaeth cyntaf y Coleg oedd Joseph Parry. Rhwng 1919-26 Syr Walford Davies oedd yr athro Cerddoriaeth, bu ei ddylanwad yn drwm, nid yn unig ar y myfyrwyr ond ar Gymru gyfan.

Aelod o'r staff oedd Charles Clements, organydd a chyfeilydd o'r radd flaenaf. Nid yn yr adran hon, fodd bynnag oedd y casglwr alawon gwerin enwog Dr. J. Lloyd Williams. Un o Aberystwyth oedd y cerddor a'r cyfansoddwr R. S.Hughes (1855 - 93)


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym

Canu'r Plygain

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddocâd yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.