Aberaeron

top
Harbwr Aberaeron

Tref weddol newydd yw Aberaeron, wedi cael caniatâd i'w chodi yn 1807. Elizabeth Evans sy'n olrhain hanes y dref.

Aberaeron, Alban a'r Gwynneiaid

Cymwynaswr pennaf Aberaeron oedd y Parchedig Alban Thomas, yn enedigol o Gastell Newydd Emlyn. Cafodd ef a'i wraig, Susannah Maria, (merch Henry Jones, Tyglyn yng Nghiliau Aeron) holl gyfoeth (ac yr oedd yn sylweddol iawn) Lewis Gwynne, a fu'n byw ym Mynachdy, plasdy ym Mhennant.

Claddwyd Lewis Gwynne ym mynwent Llanbadarn Trefeglwys ym 1805. Mae cofeb iddo yn yr eglwys ac arno mae'r geiriau canlynol: "Roedd yn ddyn na welir mo'i debyg byth mwy." Am i Alban Thomas briodi merch Henry Jones, rhaid iddo oedd cynnwys yr enw Jones, ac wedi etifeddu holl gyfoeth Lewis Gwynne yn ogystal. Felly wrth yr enw Alban Thomas Jones Gwynne y cai ei adnabod.

Â'i holl gyfoeth, penderfynodd wneud harbwr yn Aberaeron. Gynt, yn Aberarth oedd yr harbwr ac yno y daeth y cerrig o Fryste i godi'r Fynachlog yn Ystrad Fflur. Penderfynodd fod yn rhaid newid cwrs yr afon. Roedd yn arfer llifo drwy Stryd y Dŵr i gyfeiriad Castell Cadwgan a oedd ar lan y môr. Mae'r môr wedi hawlio'r castell ers blynyddoedd bellach, nid oes yno mwyach ond yr olion ac ambell dwmpath o bridd.

Cyn hir roedd gan Alban Thomas Jones Gwynne adeiladwyr i godi waliau i ffurfio'r harbwr a seiri a masiyred i godi tai a fyddai'n gartrefi i'r gweithwyr.

Mae Aberaeron wedi parchu enwau'r arloeswyr, mae yna westy o'r enw Mynachdy, Sgwâr Alban, Stryd Gwynne a Stryd Tyglyn. Cawn ein hatgoffa o'r cyfnod, Regent Street, Stryd y Gaer, Tafarndy Buddug a thafarndy Cadwgan. Mae llawer bachgen wedi cael yr enw Alban hefyd.

Cynllun John Nash

Cynlluniwyd Aberaeron gyda help John Nash, yr athrylith o bensaer. Mae stryd lydan yn pasio drwy'r dre, er fod y Cyngor wedi culhau'r ffordd - er mwyn diogelwch meddent hwy.

Mae'r dref wedi ei chynllunio'n ofalus, tŷ mawr ar bob pen y stryd a thai llai eu maint yn y canol, yn clymu'r ddeupen ynghyd.

Bu Alban Thomas Jones Gwynne farw'n 68 oed, a'i gladdu ym mynwent Llanddewi Aberarth. Ar ei garreg fedd mae'r deyrnged hyfryd yma, "What he was, time will tell."

Roedd y mynachod yn arfer dod i gasglu pysgod o'r goredi sydd o hyd i'w gweld ar y traeth. Roedd y mynachod yn arfer bwyta pysgod bob dydd Gwener.

gan Elizabeth Evans


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Cestyll

Castell Caerdydd

Oriel y 10 Uchaf

Lluniau o'r deg castell mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Canolbarth

Arfon Gwilym

Canu'r Plygain

Arfon Gwilym yn olrhain hanes y Plygain a'i arwyddocâd yn Sir Drefaldwyn.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.