Diwedd Annibyniaeth Cymru

Castell Caernarfon

23 Mawrth 2009

Blynyddoedd olaf y dywysogaeth

Yn y pum mlynedd wedi Cytundeb Aberconwy, ceisiodd Llywelyn atgyfnerthu'r hyn oedd yn weddill o'i Dywysogaeth. Ag yntau'n ymwybodol bellach o bŵer Coron Lloegr, gwnaeth wrogaeth a thalodd yn brydlon yr arian a addawsai o dan Gytundeb Trefaldwyn. Ymddangosai'r Brenin Edward yn gymodlon a bu'n bresennol yng nghadeirlan Caerwrangon yn 1278 adeg priodas Llywelyn ac Eleanor de Montfort - hithau'n nith i Frenin Ffrainc, Brenin Lloegr a'r Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Ond, o dan yr wyneb, tyfu oedd y tyndra. Yn y rhannau o Wynedd a gipiwyd gan y brenin roedd y trigolion yn cwyno oherwydd gormes y swyddogion brenhinol. Yn Neheubarth, daliwyd y mân reolwyr yng ngwe'r weinyddiaeth frenhinol yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi. Cododd chwerwedd pan benderfynwyd materion Cymreig o bwys yn unol â chyfraith Lloegr yn hytrach na chyfraith Cymru. Roedd hyd yn oed Dafydd, cynghreiriad y brenin, yn ei gadarnle yn Ninbych, yn cael ei ddadrithio. Yn wir, Dafydd a oedd yn gyfrifol am ddechrau'r gadwyn o ddigwyddiadau a arweiniodd at dranc ei frenhinlin. Ar Sul y Blodau 1282, ymosododd ar Gastell Penarlâg, gweithred a daniodd wrthryfel ar draws Cymru. Oedodd Llywelyn cyn ymuno â'r gwrthryfel. Gwnaeth hynny, yn arwyddocaol efallai, ym mis Mehefin 1282, buan wedi i Eleanor farw ar enedigaeth eu hunig blentyn, Gwenllian.

Yr olaf o'r Rhyfeloedd Annibyniaeth

Yn 1282, roedd Edward yn benderfynol o ennill buddugoliaeth lwyr, er i gost y fuddugoliaeth, yn nhermau amser, ymdrech ac arian, fod yn gryn faich iddo. Ymosodwyd ar Lywelyn o'r de, o'r dwyrain ac o'r môr. Enillodd ei gefnogwyr ambell i frwydr. Rhwystrwyd ymdaith y brenin ar draws y gogledd ddwyrain; llwyddodd cynghreiriaid Llywelyn yn y de i ddal eu tir yn Nyffryn Tywi; trychineb oedd ymgais ei wrthwynebwyr i groesi afon Menai ar draws pont o gychod. Yn hwyr yn 1282, penderfynodd Llywelyn geisio cefnogaeth gwŷr y canolbarth. Yno, ar 11 Rhagfyr 1282, yng Nghilmeri ger Llanfair-ym-Muallt, fe'i lladdwyd. Ni ddaeth pen ar y brwydro. Mabwysiadodd Dafydd y teitl Tywysog Cymru. Fe'i cipiwyd wrth droed Cadair Idris ar 25 Ebrill 1283, ac fe'i harteithiwyd ac fe'i dienyddiwyd yn Amwythig.

Y Brenin Edward a'r drefn newydd yng Nghymru

Erbyn 1283, roedd y cwbl o'r Gymru a fuasai gynt o dan lywodraeth frodorol yn atebol i rym Brenin Lloegr. Nid felly'r sefyllfa yn y Mers. Arglwyddi'r Mers fuasai prif gynghreiriaid y brenin yn y frwydr yn erbyn Llywelyn, ac felly ni ellid eu hamddifadu o'u pŵer. Yn wir, bu'n rhaid i Edward wobrwyo ei brif gefnogwyr drwy roi iddynt arglwyddiaethau newydd yn Ninbych, Rhuthun, Y Waun ac Iâl. Rhannwyd trwch Pura Wallia yn chwe sir - Môn, Caernarfon, Meirionnydd, Ceredigion, Caerfyrddin a'r Fflint. Yn 1301, arwisgwyd etifedd y brenin, Edward - a aned yng Nghaernarfon yn 1283 - yn Dywysog Cymru. Felly, parhaodd breuddwyd Llywelyn o Dywysogaeth Gymreig fel atodiad i Goron Lloegr. Er bod y siroedd Cymreig o dan awdurdod Brenin Lloegr, ni ddaeth Cymru'n rhan o Loegr, ac ni chafodd y Cymry eu trin yn yr un modd â'r Saeson o ran y gyfraith, trethi a pherchnogaeth tir. Roedd bodolaeth y Dywysogaeth a'r Mers yn fodd o sicrhau arwahanrwydd daearyddol Cymru; roedd hynny'n wir hefyd am Statud Rhuddlan, y mesur a roddodd statws cyfreithiol i'r drefn frenhinol.


Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.