Cymdeithas Newydd

Gweithwyr ffatri yn streicio

23 Mawrth 2009

Newid mawr

Roedd Cymru 1945 yn lle gwahanol iawn i Gymru ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. Yn 1945 roedd 30% o weithlu gwrywaidd y wlad yn gweithio yn y diwydiant glo neu ddur a 10% yn ymwneud ag amaethyddiaeth. Llai nag un teulu ymhob deg oedd yn berchen car, ac ystyrid bod teulu dosbarth gweithiol ag incwm o £10 yr wythnos yn gwneud yn dda. Roedd rhannau helaeth o'r wlad yn dal heb na thrydan na dŵr tap. Ac eithrio yn nhai teuluoedd cefnog, grât glo a ddefnyddid i goginio, a mangl i olchi dillad, ac roedd rhai defnyddio'r ciosg ar fin y ffordd i wneud galwad ffôn. Er bod y Bwrdd Marchnata Llaeth yn sicrhau siec fisol i rai ffermwyr, rhyw grafu byw yr oedd y mwyafrif oedd yn gweithio'r tir.

Erbyn diwedd y ganrif roedd y diwydiant glo wedi diflannu i bob pwrpas. Roedd gweithfeydd dur mawr yn Shotton, Glynebwy a Chaerdydd wedi cau a'r nifer oedd yn gweithio mewn amaethyddiaeth wedi'i haneru. Bu cynnydd yn y diwydiant gwasanaethau, daeth y diwydiant electroneg yn gyflogwr o bwys a chynyddodd y swyddi proffesiynol a gweinyddol yn fawr.

Cafodd cefn gwlad ei gweddnewid. Cyrhaeddodd y cysuron roedd pobl wedi bod yn eu mwynhau yn y trefi, a lleiafrif bychan oedd yn dal i fod yn uniongyrchol ddibynnol ar y tir am gynhaliaeth. Er bod y newidiadau wedi rhoi gwell safon byw i bobl, fe ddaethant â phroblemau yn eu sgil. Mae'n debyg bod cymunedau lle'r oedd y mwyafrif yn teimlo eu bod ar ymylon cymdeithas yn fwy niferus ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain nag yr oeddent yn 1945.

Gwleidyddiaeth a'r economi

Yn y blynyddoedd yn syth wedi'r rhyfel roedd gan y Cymry ddisgwyliadau uchel. Etholwyd Llywodraeth Lafur yn 1945, gyda chefnogaeth trwch poblogaeth Cymru, ac aeth ati i sefydlu'r wladwriaeth les a'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol, creu system i gefnogi'r diwydiant amaeth a gwladoli nifer o ddiwydiannau, polisïau a fu'n sail i gonsensws gwleidyddol ym Mhrydain tan y 1970au.

Cafwyd croeso arbennig o frwd i'r penderfyniad i wladoli'r prif ddiwydiant yng Nghymru, glo. Ond dros y degawdau dilynol, wrth i bobl droi at fathau eraill o danwydd, olew a nwy yn arbennig, bu llai a llai o alw am lo, a bu hynny'n ergyd farwol i'r diwydiant. Yn 1945 roedd 124,000 o lowyr yng Nghymru, ffigwr oedd wedi gostwng i 33,000 yn 1975 ac i lai na 1,000 yn y 1990au.

Serch hynny, roedd y diwydiant yn dal i fod yn bwysig i fywyd y genedl tan y 1980au, fel y gwelwyd adeg streiciau'r glowyr yn 1973 ac 1974 ac yn fwy fyth adeg streic drawmatig 1984-85. Margaret Thatcher oedd y prif weinidog a arweiniodd yr ymosodiad ar y consensws a ddyddiai o'r 1940au, ac yn dilyn safiad y llywodraeth cafodd y diwydiannau a'r gwasanaethau roedd Llafur wedi eu rhoi yng ngofal y sector cyhoeddus ar ôl y rhyfel eu dadwladoli. Erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain roedd agweddau eraill ar yr hyn a gyflawnodd y llywodraeth honno, yn enwedig y gwasanaeth iechyd a chymorth i amaethwyr, dan fygythiad gwirioneddol.


Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.