Owain Glyndŵr

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Cyflwyniad i'r bywyd Owain Glyndŵr

Cyflwyno pwysigrwydd Owain Glyndŵr fel arwr yn hanes Cymru. Ystyried sut a pham y mae dehongliadau hanesyddol o Owain Glyndŵr wedi newid dros amser. O'r gyfres ' Story of Wales, ail-leisiwyd i'r Gymraeg.
O: Making the Story of Wales
Darlledwyd yn gyntaf : 5 Mawrth 2012

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16

Pwnc : Hanes

Testun : Cymru ganoloesol, Byd canoloesol

Allweddeiriau : Tywysog Cymru, Owain Glyndŵr, Gwrthryfel Glyndŵr, Senedd, Castell Harlech, Machynlleth

Nodiadau : Defnyddio'r clip i gyflwyno Owain Glyndŵr gan bwysleisio ei weledigaeth arbennig i Gymru ar ddechrau'r 15fed ganrif. Ystyried y dehongliad mai bradwr ac nid arwr oedd Owain Glyndŵr - cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o sut a pham y mae dehongliadau haneysddol yn cael eu creu. Cwestiynau am y clip: Pryd coronwyd Owain Glyndŵr yn dywysog Cymru? Beth oedd gweledigaeth Owain Glyndŵr i Gymru? Beth oedd ei gysylltiad â Lloegr? Beth oedd tacteg rhyfela milwyr Glyndŵr? Ble roedd senedd Glyndŵr? Pam roedd y Tuduriaid yn ystyried Glyndŵr yn fradwr? Sut mae gweledigaeth Owain Glyndŵr wedi cael ei gwireddu heddiw? Ail-leisiwyd yn y Gymraeg o'r gyfres wreiddiol. Gweler Making the Story of Wales a The Story of Wales am ragor o glipiau a gwybodaeth am y cyfresi gwreiddiol.


Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

RhyfeddOD

Mynwent

Ysbrydion

Straeon ysbryd a chlipiau fideo a sain o bob cwr o Gymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.