Advertisement

Dewch i ymweld â ni!

Ymwelwyr â'r stiwdio Wales Today

Mwynhewch daith o gwmpas Canolfan Ddarlledu BBC Cymru a gweld beth sy'n digwydd tu ôl i'r llenni.

Am y daith

Bydd eich taith o gwmpas Canolfan Ddarlledu BBC Cymru Wales yn para tua 1.5 awr. Bydd arweinydd gwybodus yn eich tywys o gwmpas y stiwdos teledu a radio, ac ar hyd y strydoedd enwog Pobol y Cwm, a bydd e'n hapus i ateb eich holl gwestiynau am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni. Efallai y gwelwch chi seren (neu sêr) enwog ar y ffordd!

Sylwch : yn anffodus nid yw'n bosibl ymweld â setiau caeedig Doctor Who nad ydynt wedi eu lleoli ar safle'r Ganolfan Ddarlledu.

Gan fod y Ganolfan Ddarlledu y weithle prysur, bydd yn rhaid i chi wrando ar reolau iechyd a diogelwch, a chydymffurfio gyda ein hamserlen ni. Mae yna gyfyngiadau ar amseroedd ymweliadau posib a maint y grŵpiau y gallwn eu croesawu, ac mae'r rhain yn newid yn ddyddiol.

Archebu

  • Mae'n hanfodol archebu o flaen llaw
  • Fel arfer mae teithiau ar gael dydd Llun - dydd Gwener bob wythnos
  • Ar agor i bawb dros 12 oed
  • Cost : yn rhad ac am ddim
  • I archebu eich lle ysgrifennwch at : Diane Nicholas, Canolfan Ddarlledu BBC Cyrmu, Llandaf, Caerdydd CF5 2YQ neu anfonwch e-bost at : diane.nicholas@bbc.co.uk

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.