Advertisement

Polisi darllediadau elusennol

Meicroffôn (coch)

Sylwch os gwelwch chi'n dda : mae'r broses wneud cais ar gau ar hyn o bryd. Bydd hi'n ail-agor yn y Gwanwyn yn 2010.



Beth yw cyfle am ddarllediad elusennol?

Mae darllediad elusennol yn rhoi cyfle i elusennau godi ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol pwysig ac o'r gwaith a wneir ganddynt i fynd i'r afael â'r materion hynny.

Mae hefyd yn annog y gynulleidfa i weithredu, boed hynny i gefnogi'r elusen dan sylw, neu yn eu cymunedau eu hunain.

Mae BBC Cymru'n cynnig cyfleoedd darlledu i elusennau ar y radio, ar-lein ac ar y teledu.

Pam rydyn ni'n gwneud darllediadau elusennol yng Nghymru?

Mae'r rhain yn rhan bwysig o gylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus y BBC ac yn berthnasol i waith ehangach y BBC ym meysydd darlledu gweithredu cymdeithasol, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac yn y sylw a sy'n cael ei roi i waith sector gwirfoddol. Eu bwriad yw :

  • er mwyn rhoi cyfle i elusennau godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch eu gwaith yng Nghymru a sut mae eu gwaith a'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt o fudd i bobl Cymru
  • addysgu a rhoi gwybodaeth i'r gynulleidfa am faterion cymdeithasol
  • rhoi gwybodaeth ac arweiniad awdurdodol i'r cyhoedd am achosion sy'n gofyn am eu cymorth
  • ysgogi pobl i weithredu'n wirfoddol
  • cadw cysylltiad â'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu ledled Cymru
  • er mwyn rhoi cyfle i elusennau recriwtio gwirfoddolwyr

Pa fath o achosion elusennol a allai fod yn rhan o ddarllediad elusennol?

Elusennau sy'n gysylltiedig â'r gwaith o leddfu dioddefaint pobl, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy waith ataliol a'r rhai sy'n hybu lles cymdeithasol, corfforol, diwylliannol, seicolegol neu foesol

Mae'n bosib darlledu achosion yn ymwneud ag anifeiliaid neu achosion amgylcheddol i roi amrywiaeth eang o ddiddordeb dros gyfnod hir

Sefydliadau crefyddol, ar yr amod :

  • bod y darllediad yn ymwneud â'u gwaith elusennol
  • bod y gweithgareddau hyn yn rhan sylweddol o'u gwaith
  • bod buddiannau'r darllediad ar gael i bob rhan o'r gymdeithas

Ysbytai (neu Gyfeillion Ysbytai), ar yr amod :

  • eu bod y tu allan i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • eu bod yn ymwneud â phrosiectau nad yw'r GIG yn eu cwmpasu

Elusennau addysgol, ar yr amod :

  • bod gan eu gwaith ddiddordeb cymdeithasol arbennig ac ychwanegol

Elusennau meddygol/ymchwil, ar yr amod bod yr ymchwil y maen nhw'n ei hariannu o'r ansawdd gorau ac o fudd i'r cyhoedd

Pa fath o sefydliad all wneud cais i gael darllediad elusennol?

Mae'n rhaid i unrhyw sefydliad sy'n gwneud cais i gael darllediad elusennol fod wedi'i gofrestru â'r Comisiwn Elusennau fel elusen gofrestredig neu elusen sydd wedi'i hepgor neu ei heithrio ac sydd wedi'i chofrestru gyda'r corff rheoliadol priodol. Mae gwybodaeth am elusennau sydd wedi'u hepgor neu eu heithrio ar wefan y Comisiwn Elusennau yn www.charity-commission.gov.uk

Rhaid i elusennau allu arddangos eu gwaith a'r gwasanaeth(au) a ddarperir ganddynt i bobl ledled Cymru

Mae angen i'r elusennau fod wedi llwyddo yn eu maes (neu fod siawns iddyn nhw lwyddo yn y dyfodol)

Mae angen i elusen ddangos arferion ariannol cadarn a chyflwyno eu Cyfrifon Blynyddol diweddaraf

Os yw elusen yn apelio i'r cyhoedd am arian, mae angen dangos bod arnyn nhw angen arian ychwanegol at eu hincwm neu arian wrth gefn

Sut caiff elusennau eu dethol ar gyfer darllediadau?

Mae BBC Cymru Wales yn sicrhau bod unrhyw elusen sy'n gwneud cais i gael darllediad elusennol yn gymwys. (Gweler uchod).

Gall ymgeiswyr llwyddiannus wneud cais am ddarllediad arall ar ôl dwy flynedd.

Os yw'r cais yn aflwyddiannus, mae modd cyflwyno cais newydd yn y rownd nesaf.

Mae'r BBC wedi ymrwymo i gysylltu â'r holl gymunedau mae'n eu gwasanaethu ledled Cymru. Felly ein nod yw :

  • adlewyrchu amrywiaeth gytbwys o faterion cymdeithasol sy'n effeithio ar fywyd cymunedau yng Nghymru
  • rhoi cymaint o gyhoeddusrwydd â phosib yng Nghymru i'r gwasanaeth darllediadau elusennol er mwyn denu amrywiaeth eang o achosion
  • cynnig cyfleoedd darlledu i amrywiaeth o elusennau y bydd eu gwaith o ddiddordeb i gynulleidfaoedd ledled Cymru

Wrth ddethol elusennau, bydd BBC Cymru Wales yn sicrhau :

  • ein bod yn cyflwyno amrywiaeth gytbwys o achosion i'n cynulleidfaoedd
  • ein bod yn cynnwys achosion lleiafrifol ac achosion lleol lle bydd gwaith yr elusen yn rhoi gwybodaeth i gynulleidfa ehangach
  • sicrhau bod y BBC yn ddiduedd

Lle bo elusen yn gysylltiedig â gweithgareddau gwleidyddol neu waith ymgyrchu ar fater sy'n bwnc llosg cymdeithasol neu wleidyddol, mae angen i'r BBC a Fforwm Ymgynghorol Elusennau BBC Cymru gytuno bod modd llunio darllediad gan gadw at ofynion y BBC o ran bod yn ddiduedd.

Ewch i Ganllawiau Cynhyrchu'r BBC.

Mae hyn yn gymwys lle bo elusen yn lobïo neu'n ymgyrchu ar fater sydd wedi dod yn bwnc llosg cymdeithasol neu'n ddadl wleidyddol a/neu fod gan yr elusen broffil uchel yn y cyfryngau o fod ar un ochr o'r ddadl.

Lle gallai gofynion y BBC ar fod yn ddiduedd gael eu peryglu, mae modd gwrthod y cais neu gall y Fforwm gynnig bod y darllediad yn canolbwyntio ar ran sylweddol o waith yr elusen sydd y tu allan i'w weithgareddau lobïo neu ymgyrchu (gellir cytuno ar hyn drwy ymgynghori â'r asiantaeth dan sylw). Yn achos yr olaf, bydd gofyn i'r elusen wario'r arian a godir fel cronfeydd cyfyngedig i'w defnyddio ar y gwaith y soniwyd amdano yn y darllediad elusennol.

Pwy sy'n gwneud y penderfyniadau?

Mae BBC Cymru Wales yn cael cyngor ar faterion elusennol gan Fforwm Ymgynghorol Elusennau BBC Cymru. Mae'r fforwm ymgynghorol hwn yn cynnwys cynghorwyr allanol arbenigol sy'n cynrychioli amrywiaeth eang o fuddiannau ar draws y maes elusennau yng Nghymru. Caiff y penodiadau eu gwneud gan BBC Cymru Wales a'u cadarnhau gan Bwrdd Rheoli BBC Cymru Wales.

Cyfrifoldeb Fforwm Ymgynghorol Elusennau BBC Cymru yw cymeradwyo sut mae darllediadau'r elusennau'n cael eu dyrannu yng Nghymru . Mae'r Fforwm yn rhoi cyngor hefyd ar faterion polisi cyffredinol sy'n ymwneud ag ymgyrchoedd eraill y BBC a Phlant mewn Angen.

Llunnir y darllediadau elusennol gan y Pennaeth Datblygu Darlledu neu'r Pennaeth Marchnata, Cyfathrebu a Chynulleidfaoedd.

Sut bydd y BBC yn helpu?

Bydd Cynghorydd y Darllediadau Elusennol yn rhoi cyngor a gwybodaeth a bydd cynhyrchydd y rhaglen yn cynorthwyo'r elusen ar agweddau darlledu'r eitem

Bydd y BBC yn darparu rhif ffôn penodol i bobl ymateb i'r darllediad. Bydd gyda BBC Gwybodaeth Cymru wybodaeth fras am yr elusen a'r darllediad a byddan nhw'n gallu rhoi cyfeiriad a rhif ffôn cyswllt yr elusen i bobl sydd eisiau mwy o wybodaeth

Caiff manylion y darllediad eu rhoi ar Ceefax ac arlein ar bbc.co.uk/elusennau)

Apeliadau Brys

Os bydd trychineb fawr neu ddifrifol yng Nghymru a bod cronfa gyhoeddus yn cael ei sefydlu, mae'n bosib y caiff darllediad arbennig ei drefnu. Wedyn, gall Cadeirydd Fforwm Elusennau Ymgynghorol a Phennaeth Datblygu Darlledu, BBC Cymru benderfynu ar ddarllediad brys, gan ddefnyddio'r polisïau sy'n rheoli darllediadau elusennol yng Nghymru.


Elusennau

Pobol mewn cafe

Diweddaraf

Allech chi helpu pobol fel Eiriolwr Dinesydd gyda Advocacy Matters (Wales)?

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.