Mae Neges Elusennol BBC Cymru ar gyfer mis Mai 2012 ar ran ABCD Cymru. Mae darllediad wedi ei drefnu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 21 Mai 2012 ar Radio Wales.
Ynglŷn â'r elusen
Nod ABCD Cymru yw helpu teuluoedd duon a lleiafrifoedd ethnig gyda phlant anabl i allu gwneud defnydd o'r holl wasanaethau sydd ar gael.
Sefydlwyd yr elusen 20 mlynedd yn ôl gan baediatregydd o Gaerdydd a sylwodd nad oedd anghenion teuluoedd o gefndiroedd diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol amrywiol yn cael eu bodloni.
Nawr mae'r 4 aelod amlieithog o staff yn helpu mwy na 300 o deuluoedd drwy wneud y canlynol :
- gweithio gyda nhw ar faterion gofal cymdeithasol, iechyd ac addysg
- trefnu a hwyluso'r gwaith o gyfeirio at wasanaethau cymdeithasol, darparwyr chwarae/hamdden, tai, cyflogaeth, hyfforddiant a mwy
- darparu gweithgareddau chwarae a hamdden a gefnogir ac sy'n briodol yn ddiwylliannol i blant a phobl ifanc anabl
- darparu hyfforddiant ac adnoddau i weithwyr proffesiynol o awdurdodau lleol, y maes gofal iechyd, addysg a'r sector gwirfoddol
Gwrando ar y darllediad

Cysylltu â’r elusen yn uniongyrchol
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 029 2025-0055 neu ewch i wefan yr elusen ei hun yn www.abcdcymru.org.uk.