Oes cwestiwn gyda chi?

Dwylo yn yr awyr

Rydym yn derbyn cannoedd o negeseuon bob wythnos. Helpwch ni drwy fwrw golwg dros y cwestiynau cyffredin yma cyn defnyddio un o'r dulliau o gysylltu â ni.

Cyfradd y DU yw 0370 sy'n costio dim rhagor na rhifau daearyddol 01/02. Gellir recordio galwadau at ddibenion hyfforddiant. Mae galwadau i 0870 yn costio hyd at 6c y funud o linell BT (gall amrywio gyda chwmniau eraill a ffonau symudol).

Sut mae modd cysylltu os oes gennyf ymholiad neu sylw ynglyn a BBC Cymru?

Edrychwch drwy'r rhestr yma o gwestiynau cyfredol i ddechrau, ond os nad ydych yn dod o hyd i'r ateb, cysylltwch gyda ni drwy'r ffurflen arlein, ffoniwch 03703 500 700 (Llun-Gwener 9.30 y bore tan 7.30 yr hwyr), neu ysgrifennwch at Gwasanaethau'r Cynulleidfa BBC Cymru Wales, Bangor LL57 2BY. Mae hwn yn wasanaeth dwyieithog felly mae croeso i chi gysylltu yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Yn anffodus nid yw'n bosibl i ni ymateb yn bersonol i bob sylw, ond rydyn ni'n gwerthfawrogi unrhyw adborth ac yn cofrestru pob sylw yn ofalus er sylw'r timau golygyddol a'r rheolwyr.

Ydych chi'n cyhoeddi unrhyw ffeithiau a ffigurau am raglenni a gwasanaethau BBC Cymru?

Gweler Ffeithiau a Ffigurau o dan Rheolaeth yn y wefan hon.

Pwy sy'n rheoli BBC Cymru?

Ewch i Rheolaeth ar y safle hwn. Mae'r BBC yng Nghymru yn atebol i'r gynulleidfa drwy Gyngor Cynulleidfa Cymru.

Ym mha le mae BBC Cymru wedi ei leoli?

Mae ein pencadlys yn Llandaf yng Nghaerdydd ac mae stiwdios a swyddfeydd hefyd ym Mangor, Wrecsam, Aberystwyth, Llanelwedd, Abertawe a Chaerfyrddin. Mae staff hefyd mewn amryw o leoliadau eraill yng Nghymru.

Lle mae dod o hyd i wybodaeth am y swyddi sydd ar gael gyda BBC Cymru?

Ewch i bbc.co.uk/careers am wybodaeth am swyddi yn y BBC ac am brofiad gwaith.

All y BBC roi arian neu roddion eraill at achosion da?

Yn anffodus, oherwydd bod y BBC yn cael ei ariannu gan ffi'r drwydded nid yw'n bosib i ni roi eitemau fel gwobrau na rhoddion ariannol fel arfer, hyd yn oed at achosion da, ag eithrio nifer fechan iawn o apeliadau elusennol ac achosion sydd â chysylltiad agos â darlledu.

Lle mae cael rhagor o wybodaeth am amserlenni BBC Cymru?

Mae amserlenni llawn gwasanaethau teledu BBC Cymru ar gael ar bbc.co.uk/tv neu ewch i s4c.co.uk/c_listings.shtml ar gyfer amserlen S4C. Neu gallwch weld amserlen BBC Radio Cymru ar bbc.co.uk/radiocymru/amserlen ac amserlen BBC Radio Wales ar bbc.co.uk/radiowales/programmes/schedules/fm.

Hoffwn weld rhaglen a ddarlledwyd mewn rhannau eraill o'r DU - pryd fydd hi'n cael ei dangos?

Mae amserlenni BBC One a BBC Two weithiau'n amrywio yng ngwahanol rannau'r DU. Gallwch chwilio bbc.co.uk/tv ar gyfer amseroedd rhaglenni neu mae'n bosibl bod y rhaglen ar gael ar BBC iPlayer.

Oes modd i mi gael copi o raglen BBC Cymru?

Dim ond pan maen nhw ar gael yn fasnachol y mae modd cael copiau o raglenni a chyfresi'r BBC. Dylech wneud ymholiadau gyda masnachwyr lleol neu arlein i weld a ydy rhaglen benodol wedi ei ryddhau'n fasnachol.

Rhagor o wybodaeth...

Mae'n ddrwg gennym ni siomi selogion High Hopes ond nid yw'r gyfres hon wedi ei rhyddhau'n fasnachol.

Mae rhaglenni a ddarlledwyd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf yn aml ar gael ar safle BBC iPlayer.

Ydy'n bosibl i mi gysylltu ag un o gyflwynwyr neu raglenni BBC Cymru?

Gallwch gysylltu'n uniongyrchol gyda rhai rhaglenni drwy eu gwefannau ac mae nifer yn gwahodd i bobl gysylltu drwy gyfeiriad e-bost, cyfeiriad post neu rif ffôn penodol. Chwiliwch am y rhaglen dan sylw ar wefan bbc.co.uk/programmes.

Hoffwn gael help wrth ddysgu Cymraeg - a oes modd i BBC Cymru fy helpu?

Mae safle Learn Welsh BBC Cymru yn cynnig nifer o gyfleusterau arlein ar gyfer dysgwyr. Ewch i bbc.co.uk/wales/learnwelsh.

A oes modd i mi dderbyn BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ar Radio Digidol DAB yn fy ardal i?

Er mwyn cael rhestr o'r gorsafoedd DAB sydd ar gael yn eich ardal chi, rhowch eich côd post i mewn ar safle bbc.co.uk/reception/digitalradio.

Dim ond mewn ardaloedd lle mae plethiad DAB masnachol y mae BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales i'w cael. Ar hyn o bryd mae dau blethiad yn weithredol yng Nghymru - sef plethiad ardal Caerdydd a Chasnewydd a phlethiad ardal Abertawe.

Yn anffodus nid oes modd i ni ychwanegu at y gwasanaethau DAB hyn nes i Ofcom gyflwyno'r trwyddedau ac i'r ymgesiwyr llwyddiannus gychwyn darlledu.

Mae trwyddedau DAB lleol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru a Gorllewin Sir Gaer, Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru wedi eu cyflwyno gan Ofcom ond ar hyn o bryd nid oes gennym ddyddiadau pendant ar gyfer pryd fydd y gwasanaethau hynny yn cychwyn. Mae'n bosibl y caiff yr union ardaloedd a wasanaethir eu cyfyngu i ddechrau oherwydd ystyriaethau masnachol a thechnegol.

Oes modd i mi wylio rhaglenni BBC Cymru arlein?

Ewch i BBC iPlayer am ddewis eang o raglenni teledu a radio a ddarlledwyd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf.


Teithiau

Y Ganolfan Ddarlledu, Caerdydd

Ymwelwch â ni

Dewch i fwynhau taith tu ôl i'r llenni o brif adeilad BBC Cymru Wales yn Llandaf

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.