Advertisement

Comisiynu a Darparu

Dyn efo uned rheolaeth bell

Croeso i wefan comisiynu annibynnol BBC Cymru. Byddwch chi'n dod o hyd i bopeth rydych chi eisiau ei wybod am broses gomisiynu BBC Cymru yma. Mae ein perthynas gyda chwmnïau annibynnol a'r rhaglenni maen nhw'n eu cynhyrchu yn hollbwysig i gyflawni ein nodau ac amcanion cyffredinol.

Diweddaraf

Wedi colli unrhywbeth? Gweler newyddion diweddaraf i weld.

Cyfnod cyffrous

Mae 2009-10 yn gyfnod deinamig i BBC Cymru, gyda datblygiadau newydd cyffrous ar draws ystod eang o wasanaethau a llwyfannau.

Bydd y wefan hon yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o beth, pam, sut a phryd rydyn ni'n comisiynu. Yn ogystal â thynnu sylw at gyfleoedd i wneud rhaglenni ar gyfer BBC Cymru, mae'r wefan hefyd yn tynnu sylw at sut rydyn ni'n bwriadu cynyddu nifer ein rhaglenni ar Rwydwaith y BBC.

Hwn yw'r lle gorau i ddod i gael gwybodaeth am gomisiynu ar draws BBC Cymru a thu hwnt... gyda'n gilydd gallwn wneud rhaglenni gwych.

Cod Ymarfer

Mae Ofcom wedi cyflwyno Cod Ymarfer. Mae'r Cod yn amlinellu'r modd y bydd disgwyl i'r BBC ddelio â chynhyrchwyr annibynnol ar gyfer rhaglenni teledu a gomisiynwyd gan y BBC. Am fwy o wybodaeth ewch i weld cod ymarfer y BBC.


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.