bbc.co.uk
Home
Explore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
» Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

Dramâu Gwenlyn Parry

Y Ddraenen Fach (1961)

Drama gyntaf Gwenlyn Parry. Roedd yn gydfuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor, 1961.

Mae pedwar milwr Cymraeg yn cuddio mewn seler ty wedi ei fomio rywle ar arfordir Affrica noswyl Nadolig 1942. Mae’r tensiwn yn amlwg wrth iddyn nhw ddelio â’r sefyllfa mewn gwahanol ffyrdd gydag un yn awyddus i geisio dianc.

Ceir tro annisgwyl yn niwedd y ddrama pan ddaw Almaenwr i’r seler. Y neges yw mai dynion o gig a gwaed ydym i gyd, beth bynnag ein cenedl.

Hwyr a Bore (1964)

Drama fuddugol un act Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964, am deulu yn un o bentrefi chwarelyddol Gogledd Cymru.

Y pedwar cymeriad yw William, gwr dros ei drigain oed, ei wraig Cadi a’i blant Marged a Dic sydd yn eu harddegau.

Amser brecwast, yn y gyntaf o ddwy olygfa, canfyddwn mai dyma ddiwrnod cyntaf Dic yn ei swydd newydd mewn siop ddillad. Mae hynny’n achosi tyndra gan y byddai’n well gan William, sy’n cael trafferth dygymod â’i ymddeoliad ei hun o’r chwarel, pe byddai Dic wedi mynd i weithio i’r chwarel hefyd.

Yn yr ail olygfa, er mawr foddhad i’r tad, cyhoedda Dic ar ei ddychweliad o’i waith, iddo benderfynu mynd i’r chwarel wedi’r cwbwl. Llwyddir i gyfleu bywyd chwarelwyr, yr ofn a’r caledi.

Poen yn y Bol (1963)

Yr olaf yn ei driawd o ddramâu byrion. Cydfuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, 1963.

Dan anasthetig mewn ysbyty mae meddwl Bili Puw yn crwydro i’r cyfnod pan oedd ef a’i wraig, Neli, yn blant. Wrth i Neli ddarganfod ei bod yn feichiog mae bywydau’r ddau yn newid dros nos. Mae’r ddau yn ffraeo’n ddi baid â mam Bili’n poeni am y gwarth ar y teulu.

Atgofion cymysg sydd yma dan ddylanwad anasthetig ac mae’n pennau ninnau’n troi o gael ein cyflwyno i’r holl gymeriadau lliwgar. Roedd Bili hefyd yn destun gwawd fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y rhyfel.

Ar ddiwedd y ddrama y cawn wybod mai cael tynnu ei bendics y mae Bili, gan roi mwy nac un ystyr i’r teitl, Poen yn y Bol.

Saer Doliau (1966)

Drama fawr gyntaf Gwenlyn Parry gydag elfennau o theatr yr abswrd.

Drama hir mewn chwe rhan wedi ei gosod yng ngweithdy Ifans, y saer doliau.

Ar ddechrau’r ddrama mae Ifans yn ddyfal yn trwsio pentwr o ddoliau sydd wedi torri.
Yn y rhan gyntaf daw ymwelydd i’r gweithdy, merch ifanc, ac y mae hithau’n gwneud ei gorau i foderneiddio’r lle er mawr ofid i Ifans.

Yn y bedwaredd ran daw prentis i’r gweithdy gan amlygu’r tensiwn rhwng y ddwy genhedlaeth, gydag Ifans bron â chyrraedd pen ei dennyn wrth i’r ferch a’r prentis darfu ar ei fyd a’i orfodi i fabwysiadu eu dulliau a’u hoffer newydd nhw.

Mae Ifans fel petai’n ofni Y Fo sydd yn y seler a’r Fo sy’n cael y bai am bopeth aiff o’i le. Mae’n ffonio’r Giaffar yn aml i ofyn cyngor a chwyno am Y Fo a’r prentis newydd. Ond ni ddywedir wrthym a yw’r Giaffar yn berson o gig a gwaed ynteu’n rhywun yn nychymyg Ifans.

Un dehongliad yw mai portread o’r ddynoliaeth sydd yma ac mai pobl yw’r doliau sy’n cael eu trin gan Ifans ac mai Duw yw’r Giaffar y mae Ifans yn galw arno am gymorth. Ni sydd i benderfynu felly a oes rhywun y pen arall i’r ffôn.

Ty ar y Tywod (1968)

Perfformiwyd gyntaf yn 1968 gan Gwmni Theatr Cymru. Y ddau brif gymeriad yw Gwr y Ty a Gwr y Ffair a’r lleoliad yw caban Gwr y Ty ar draeth gyda rhan ohono wedi suddo i’r tywod. Gerllaw’r caban mae ffair sy’n ehangu’n gyflym, mae'r caban yn rhwystro datblygiad pellach.

Ac yntau’n methu dianc rhag swn byrlymus y ffair yr unig beth sy’n cynnal Gwr y Ty yw ei atgofion ond y mae plant y ffair yn ei wawdio am fod yn wallgof.

Mae’r gynulleidfa hefyd yn dechrau amau fod y gwr yn wallgof wrth iddo gludo delw y mae wedi ei ddwyn o’r ffair i’r caban ar ddechrau’r ddrama, ac yn sôn wrth y ddelw am ei elyn pennaf, Gwr y Ffair. Er mawr synod inni mae’r ddelw yn troi’n ferch o gig a gwaed yn ystod y ddrama.

Yn fuan cyhuddir Gwr y Ty o ddwyn y ddelw gan bâr ifanc a daw Gwr y Ffair yno i’w orfodi i symud o’r caban.

Ond yn rhyfedd erbyn diwedd y ddrama mae pethau wedi troi wyneb i waered gyda Gwr y Ty yn berchen y ffair.

Gellir dweud fod y ddau gymeriad yn cynrychioli’r ddynoliaeth yn ei brwydr am rym a materoldeb.

Y Ffin (1973)

Y Ffin oedd Drama Gomisiwn Eisteddfod Dyffryn Clwyd, 1973.

Drama ddwy act yw hon a chwt bugail ar ochr mynydd yw ei lleoliad.

Ceir ynddi dri chymeriad sef Wilias, gwr canol oed, Now, llanc ugain oed a dringwr, merch tua deg ar hugain oed.

Cymeriadau digon rhyfedd yw Now a Wilias. Wilias sydd wedi prynu’r cwt ac ni all Now gredu ei fod wedi gwneud peth mor ffôl pan wêl gyflwr truenus y lle ac mae’n cyhuddo Wilias o’i gamarwain. Mae’r tensiwn yn amlwg rhwng y ddau o’r dechrau a’r tyndra hwnnw’n cynyddu wrth i’r ddau geisio cyd-fyw.

Mae pethau’n gwaethygu pan yw’r ferch yn cyrraedd ddiwedd yr act gyntaf.

Erbyn yr ail act mae’r rhwyg rhwng y ddau yn amlwg wrth i’r ddau fod am y gorau yn ceisio plesio’r ferch sy’n graddol chwalu'r berthynas rhyngddynt .

O’i herwydd hi ni all dau a oedd yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd ddioddef ei gilydd a thynnir llinell o baent yn ffin drwy ganol y cwt. Erbyn y diwedd mae pob math o bethau wedi eu gosod ar y ffin, stand hetiau, lein ddillad... wrth iddyn nhw wneud popeth o fewn eu gallu i dorri’r cysylltiad rhyngddynt.

Diwedda’r ddrama yn swn y ddau’n wylo yn y tywyllwch gan alw’n dorcalonnus ar y ferch.

Y Twr (1978)

Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1978.

Fel yn Y Ffin, darlunio'r berthynas rhwng dau mae’r Twr ond y tro hwn perthynas gwr a gwraig.

Taith bywyd dau a gyfleir yma wrth iddyn nhw ddringo'r twr. Gwelir hwy yn heneiddio a’r dieithrwch rhyngddynt yn cynyddu wrth iddyn nhw ddringo.

Drama dair act yw hon gyda phob golygfa yn ystafelloedd y twr - yr act gyntaf yn yr ail stafell a’r ddau gymeriad yn ifanc. Defnyddir ffilm i ddangos lluniau ohonyn nhw yn blant yn chwarae ar lan y môr cyn rhedeg i fyny’r grisiau i’r ystafell. Mae hyn yn cyfleu mai ieuenctid yw’r stafell gyntaf a’u bod yn awr yn camu i gyfnod newydd yn eu bywydau. Mae’r ddau yn fywiog, hapus a llawn brwdfrydedd.

Bu newid erbyn yr ail act a’r ddau yn ganol oed. Geiriau cyntaf y wraig ydi, "Be ‘ddiawl dwi’n ‘i neud yn fan’ma?" a’r gwr "Dwi wedi cael llond cratsh!". Nid yw perthynas y ddau gystal a bu dieithrio.

Erbyn y drydedd act, hen wr a hen wraig yw’r ddau sydd wedi ymlâdd ar ôl dringo’r grisiau dim ond i ganfod fod yna fwy o risiau er iddynt gredu mai’r stafell hon oedd pen y daith. "Ond fan’ma ‘di’r stafell ddwytha.....awn ni ddim o fan’ma....sdim isio blydi grisiau arall!" meddai’r hen wr.

Rhaid sylwi ar y defnydd o’r trên yn y ddrama hon hefyd. Yn yr act gyntaf dywed y ferch ifanc "Ma’ ‘na rwbath neis mewn swn trên yn bell yn y nos!
Ond erbyn yr ail act dywed "Ma ‘na rwbath trist mewn swn trên – ‘mhell yn y nos". Gorffen y drydedd act gyda’r hen wraig yn eistedd ar ei phen ei hun a’i geiriau olaf i gloi’r ddrama yw "Trên!" Delwedd gref ydyw i’n hatgoffa mai taith yw bywyd, taith gyflym sy’n dod i ben yn fuan. Taith sy’n ymddangos yn un hir a rhamantus i’r ifanc ond un sy'n cael ei hofni gan yr hen.

Sal (1980)

Perfformiwyd Sal am y tro cyntaf yn 1980. Mae wedi ei seilio ar ddigwyddiad hanesyddol ac yn dra gwahanol i ddramâu eraill Gwenlyn Parry.

Mewn achos llys gelwir tystion i’r presennol o 1869. Gyda goleuo effeithiol mae gwahanol rannau o’r llwyfan yn cynrychioli gwahanol leoliadau gan alluogi’r gynulleidfa i weld beth arweiniodd at yr achos llys.

Yn 1869 honnodd gwr fod ei ferch, Sal, wedi byw am bron i ddwy flynedd heb fwyta gan ddweud iddi gael ei dewis gan Dduw. Er bod mam Sal, y ficer lleol a Dr Davies, meddyg y teulu yn credu hyn hefyd, nid felly Dr Hughes, meddyg arall, a dwy nyrs a ddaeth i gadw llygad ar Sal.

Yn y diwedd mae Sal yn marw a dyma sydd wedi arwain at yr achos llys gyda’r amddiffynnydd yn dadlau fod Sal wedi llwyddo i fyw heb fwyd, ond yr erlynydd yn dadlau mai twyll yw’r cyfan.

Y gynulleidfa sydd i benderfynu pwy sy’n dweud y gwir ac a yw rhieni’r ferch yn euog o ddynladdiad.

Rhan o’r cyfarwyddiadau llwyfan yw: "Dylid chwarae’r ddrama yn ddidoriad fel nad yw’r gynulleidfa’n cael cyfle i sgwrsio â’i gilydd tan y diwedd." Y gynulleidfa yw’r rheithgor sydd i benderfynu ai gwyrth neu gelwydd oedd y cyfan. Y cwestiwn, mewn gwirionedd, yw a ydym yn credu yn Nuw. Fel y dywed tad Sal: "Ond nid ni sy yn y glorian...dach chi’n dallt pwy sy yn y glorian?"

Panto (1986)

Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun a’r Fro, 1986 a drama olaf Gwenlyn Parry. Gellir dadlau mai dyma’r ddrama orau o ran technegau theatrig. Y mae wedi ei gosod mewn theatr ac mae’r prif gymeriadau’n rhan o bantomeim, Dick Wittington, sydd i’w berfformio ar y llwyfan.

Prif gymeriad y ddrama yw Robat Deiniol sy’n cael perthynas â Sera, prif gymeriad y pantomeim. Mae hithau’n rhoi pwysau arno i adael ei wraig ac ni all Robat ymdopi â’r argyfwng hwn yn ei fywyd. I waethygu’r sefyllfa mae Sera’n feichiog.

Ceir yma ddrama ar ddwy lefel, y llwyfan panto a’r ystafell wisgo. Yn yr ystafell wisgo gwelwn ddrama bywyd Robat Deiniol. Mae’r cyd-chwarae rhwng y ddau leoliad yn gweithio’n berffaith i gyfleu emosiynau a bywydau’r prif gymeriadau. Mae ein sylw ni’r gynulleidfa yn cael ei symud o’r naill i’r llall ac mae llawer o hiwmor ac eironi yn deillio o’r berthynas hon. Does dim dwywaith nad yw hon yn ddrama emosiynol.

Mae rhai’n ystyried y ddrama fel rhyw fath o hunangofiant gan Gwenlyn Parry ac mai ef ei hun mewn gwirionedd yw Robat Deiniol. Amlygir yr elfennau hyn orau yn araith Robat Deiniol yn ‘Dressing Room One’.

Pantomeim bywyd a geir yma ac ar ddiwedd y ddrama mae’r ddwy ddrama wedi asio’n un a Sera’n cerdded ar hyd y llwyfan nid fel Dick Wittington y tro hwn ond yn ei dillad ei hun ac yn gadael go iawn.

 

BBC
© MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddramâu
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Llên

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy