BBC HomeExplore the BBC

IAU
31ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Bryn Celli Ddu Yr Oes Efydd
A wyddoch chi fod mynwent o'r Oes Efydd yng Ngaerwen? Dyma Alun Gruffydd o Oriel Môn i fwrw golwg ar arferion ein cyndadau.
"Ym Mryn Celli Ddu, Llanddaniel, mae 'na enghraifft o un o siambrau claddu mwyaf cyffroes ac enwocaf Prydain. Dim ond tua 15 o siambrau claddu o'r fath sydd yn dal i fod, er y credir fod dwywaith cymaint â hynny wedi bodoli.

"Rhyw fath o gell neu ystafell yw'r siambrau o dan dwmpath o bridd, wedi eu dal i fyny gan sustem o gerrig. Mi allwch chi ymweld â'r siambr ym Mryn Gelli Ddu - rhaid cerdded i lawr coridor bach tuag at agoriad yn y pen draw lle bydden nhw wedi gosod y cyrff.

"Does dim un steil pendant i'r siambrau claddu ym Môn. Rydan ni mewn ffordd yn rhyw fwngral o ynys achos 'does dim un steil yn perthyn i Fôn. Ar yr ochr yma o Gymru mae'r steiliau adeiladu wedi cael eu dwyn o'r Iwerddon, yr Alban, Llydaw a hyd yn oed Sbaen. Mae diffyg un steil pendant yng ngorllewin Cymru yn dangos fod 'na berthynas rhwng yr holl bobloedd oedd yn byw ddwy ochr i Fôr Iwerddon.

"Mae Capel Eithin ger Gaerwen hefyd yn safle sydd wedi cael ei chloddio fwy nag unwaith. Mae yna olion mynwentydd Oes Efydd yn ogystal â deunydd ychydig mwy diweddar wedi ei ddarganfod yno.

Yrnau o'r Oes Efydd yn Oriel Môn

"Y peth mwyaf cyffroes yw'r wrnau - potiau o gyfnod yr Oes Efydd oedd yn nodweddiadol iawn o systemau claddu'r cyfnod yma. Yn fras, y cyfnod o 2,500 cyn Crist i 1,000 Cyn Crist yw'r Oes Efydd. Mae'r rhai sydd ganddon ni yn Oriel Môn o bedwar neu bump o safleoedd ar yr ynys fel Capel Eithin, Pentraeth a Phenmon.

"Byddai poblogaeth yr Oes Efydd wedi deillio o ffermwyr Oes y Cerrig a'r cyfnod Neolithig.

"Ar ôl yr Oes Cerrig darganfuwyd metel a daeth newid i batrwm bywyd ym mhob ffordd. Arferai pawb fyw yn gymunedol a chyfartal, ond pan ddaethant o hyd i'r metel sgleiniog, daeth hierarchaeth i'r gymuned. Yn lle claddu pobl gyda'i gilydd yn yr hen siambrau, gwelwyd beddi ar gyfer unigolion, i ddangos bod rhai yn bwysicach nac eraill."



Lleol i Mi
Radio Cymru
Theatr


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy