BBC HomeExplore the BBC

IAU
31ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dyn wedi ei wisgo fel Llychlynwr Y Llychlynwyr
Cynhelir gŵyl flynyddol ym Môn i ddathlu gorffennol Llychlynaidd yr ynys. Dyma Ann Benwell i fwrw golwg dros ddylanwad y Llychlynwyr ar yr ynys - ai dylanwad da neu ddrwg oedd yr 'ysbeilwyr' o'r gogledd?
"Mae nifer wedi cwestiynu hanes y Celtiaid yn ddiweddar. Roedd rhai yn credu eu bod wedi cael eu herlid o Fôn gan oresgynwyr eraill dros y canrifoedd. Ond rydw i'n meddwl mai'r un grŵp o bobl oeddent, dim ond bod eu credoau a'u ffordd o fyw wedi newid yn raddol dros y canrifoedd. Dwi'n siŵr fod yr un bobl wastad wedi byw ar yr ynys, yn ffermio ac yn hela, gyda dylanwad mewnfudwyr a masnachwyr yn helpu i newid pethau yn ara' deg.

"Un o'r grwpiau hynny a laniodd ar yr ynys oedd y Llychlynwyr, er nad yw'n glir faint o ddylanwad gawsan nhw ar y bobl leol. Fe fu Mark Redknap o Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn arwain cloddiad yn Llanbedrgoch a dysgodd lawer am bresenoldeb y Llychlynwyr yn yr ardal - eu bod wedi ymosod a bod rhai wedi setlo. Ond mae'n anodd dweud am ba mor hir y gwnaethon nhw aros.

"Yn ôl yr hanes, credir i'r Llychlynwyr lanio ac ysbeilio ym Mhenmon, ond mae olion y traddodiad Norwyaidd ar y croesau ym Mhenmon felly mae'n rhaid bod y Llychlynwyr wedi cael rhywfaint o ddylanwad da.

"Yn ôl y gred, adeiladodd Olaf, hynafiad i Gruffydd ap Cynan gastell ar yr ynys ond nid oes neb yn sicr ym mhle.

"Ond y dylanwad mwyaf yw enw 'Saesneg' yr ynys, gan mai enw Llychlynaidd yw Anglesey. Tarddiad yr enw yw 'Ongl's ey' - Mae 'Ongl' yn enw Llychlynaidd ac 'ey' yn golygu ynys - felly ynys Ongl. Ond pwy oedd Ongl, a pham yr oedd mor bwysig iddo gael ynys mor fawr â Môn wedi ei henwi ar ei ôl? Rwy'n deall ynysoedd bach fel y Skerries a Presholm (Ynys Seiriol) yn cael enwau Llychlynaidd ond mae rhoi eich enw i ynys fel Môn yn gamp. "

  • Gŵyl Llychlynwyr Amlwch



  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Theatr


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy