BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
25ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y wir wisg Gymreig
Mae Huw Roberts o Langefni am i'r byd wybod bod na lawer mwy i'r hen wisg Gymreig draddodiadol na'r ddelwedd gaiff ei gwerthu i'r twristiaid.

Dawnswraig o barti Ffidl Ffadl yn gwisgo gwisg draddodiadol o'r gogledd orllewin

"Un o'r rhesymau i mi ymddiddori yn yr hen wisgoedd Cymreig ydy am fy mod yn gweithio gyda pharti dawns Ffidl Ffadl a Dawnswyr Bro Cefni, criw o blant ysgol gynradd. Rai blynyddoedd yn ôl, mi aethon ni draw i Ynys Manaw i ŵyl ddawns. Roedd gwisgoedd y dawnswyr o Norwy yn fendigedig, roedd bob dim mor gywir ac roeddwn am i'n dawnswyr ni edrych mor dda.

"Felly mi ddechreuais drwy hel hen wisgoedd o Sir Aberteifi gan mai o fa'na y daw'r ddelwedd boblogaidd o'r wisg Gymreig ond fel daeth mwy o wybodaeth i law mi fues i'n canolbwyntio ar wisgoedd y gogledd - Sir Fôn a Sir Gaernarfon.

"Mae gan Amgueddfa Gwynedd ym Mangor gasgliad da o ddillad oedd yn help mawr i mi.

"Wrth ail-greu dillad o tua chanol y 19eg ganrif, y peth mwyaf deniadol oedd y bratiau, wedi eu gwneud allan o frethyn fetal, sef cymysgfa o sidan, gwlân a chotwm. Bratiau dydd Sul oedd y rhain.

"Gwisg draddodiadol arall o'r gogledd oedd y betgon, sy'n dod o'r Saesneg am bed gown. Roedd y wisg yma yn boblogaidd dros Ewrop - byddai'r bobl dlawd yn eu gwisgo bob dydd a'r rhai cyfoethog yn eu gwisgo cyn gwisgo i fyny yn yr holl ddillad crand, anghyfforddus. Mae 'na enghraifft dda o fetgwn yn Amgueddfa Gwynedd. Mae'n dod o Nant Ffrancon ac yn ddigon syml - dilledyn sydd ddigon tebyg i gimono, gyda llewys hir a llinyn o amgylch y wast i'w gadw at ei gilydd.

Dawnswraig o barti Ffidl Ffadl yn gwisgo gwisg traddodiadol o'r gogledd orllewin

"Ffynhonnell dda arall ar gyfer ymchwilio i wisgoedd y gorffennol yw hen brintiau. Mae gen i gasgliad o waith Huw Jones Biwmares a Robert Gruffydd o Gaernarfon sy'n help mawr i mi.

"Ar ôl gwneud yr holl ymchwil, dwi'n mynd ati i ail-greu'r hen batrymau a mynd a nhw i Raymond Jones yn Nhre Fach i gael eu gwehyddu.

"Dwi hefyd yn casglu hetiau. Roedd siapiau'r hetiau Cymreig yn gwahaniaethu dros y wlad - roeddent yn fwy sgwâr yn y gogledd ond yn fwy pigog yn y gorllewin.

"Does neb yn siŵr iawn pryd y daeth y ffasiwn i wisgo'r het 'pot llaeth'. Mae rhai yn dweud iddo ddod yn boblogaidd yn y 1840au ond dwi wedi gweld tystiolaeth o ugeiniau cynnar y ganrif.

"Mae'n debyg mai'r teip wedi ei wneud allan o'r hatter's plush oedd yn cael ei wisgo yma. Byddent yn creu'r buckram, sef defnydd stiff wedi ei wneud allan o liain ac efallai cerdyn, a'r hatter's plush drosto - sef cymysgedd o sidan a chotwm. Byddai yn edrych yn ddigon tebyg i'r hetiau mae'r dynion yn eu gwisgo yn Ascott y dyddiau yma.

"Cafodd un o'r hetiau s'gen i ei wneud gan David Edwards, boi o Sir Aberteifi a symudodd i Amlwch pan ddaeth yn dre brysur oherwydd y cloddio ym Mynydd Paris.

"Rydym am gael arddangosfa o'r holl ddillad traddodiadol yma Oriel Môn o ddiwedd mis Ebrill am dri mis. Mi fyddwn yn canolbwyntio ar wisgoedd Môn a Gwynedd o fy nghasgliad i ag eraill, a dillad o Amgueddfa Gwynedd hefyd. Rydw i am 'sgwennu llyfryn ar y pwnc a hefyd am rannu gwybodaeth ar sut i fynd ati i ail-greu patrymau a brethyn o'r ardal yma.

"Yng Nghymru, mae pawb wedi dod i arfer efo'r ddelwedd dwristaidd o'r wisg Gymreig sydd braidd yn cheap and nasty. Ella y bydd yn cymryd blynyddoedd i gael gwared o'r meddylfryd anghywir yma ond gobeithio y bydd yr arddangosfa yma yn dangos yr etifeddiaeth nad ydy pobl yr ardal yn ymwybodol ohono."

Gwrandewch ar Huw Roberts yn sgwrsio am y wisg Gymreig gyda Dei Tomos ar BBC Radio Cymru.

  • Rhaglen Dei Nos Sul


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Theatr


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy