BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

SUL
20fed Ebrill 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys Môn

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Arwydd Maes Cybi ar wal Enwau llefydd
Be sydd mewn enw? Dyma ambell esboniad i'r enwau llefydd difyr ar hyd a lled Ynys Môn. Os gwyddoch chi am fwy o esboniadau anfonwch nhw aton ni.

Caergybi: ers y dyddiau cynnar bu sawl enw ar Gaergybi - cyfuniad o Caer a'r enw sant, Cybi. Llan neu Llam y Gwyddel oedd y lle yn y cyfnodau cynharaf. Bu hefyd yn Eglwys y Beddi, Cor Cybi a Haliheved. Tua'r bedwaredd ganrif ar ddeg y gwelwyd Caergybi gyntaf ond yn yr ail ganrif ar bymtheg gwelwyd hefyd y ffurf Gorffwysfa Gybi.

Corn Hir: enw tŷ yn wreiddiol ond yn awr yn enw ar rhan o Langefni. Mae'r ystyr yn amlwg.

Glasinwen: y dŵr rhwng Môn ac Ynys Cybi. Glas yn yr ystyr o wyrdd fel ag yn glas-wellt yw hwn ac yn cyfeirio at liw y dŵr o bosibl.

Kingsland: ardal o Gaergybi y newidwyd ei henw o Penllechnest i gydfynd ag ymweliad George y pedwerydd yn 1821 ar ei ffordd i Iwerddon lle rhoddodd yr un enw i Dun Laoghaire.

Llannerch-y-medd: neu yn ôl rhai, gan gynnwys Morrisiaid Môn, Llannerch-y-meddwin! Mae'n ymddangos fod medd yn cael ei gynhyrchu yma ar un adeg pan oedd Môn yn goediog a llannerch yn nodwedd i dynnu sylw ati.

moelfre Moelfre: cyfuniad o moel a bryn. Bryn llwm.

Niwbwrch: Newborough oedd yr enw a roddwyd ar y lle gan Edward I pan symudodd drigolion Llanfaes yno. Rhosyr oedd yr enw ar yr ardal cyn hynny gyda 'myr' yn hen luosog o môr.

Porthaethwy: Yr hen goel yw i'r trigolion cyntaf gyrraedd Môn mewn dwy don. Â'r don gyntaf wedi ymsefydlu cyrhaeddodd yr ail griw o bobl ac ar ochr Afon i'r Fenai dyma nhw'n holi yn lle yn union y croesodd y criw cyntaf a derbyn yr ateb: "Dyna'r fan lle'r aethont hwy." Byth ers hynny adnabuwyd y lle fel Porth-lle'r-aethont-hwy a gywasgodd yn Porthaethwy. Wrth gwrs, celwydd noeth yw hynny, ac yn ôl rhai sy'n gwybod yn well hen enw llwythol ydi Daethwy. Ceir esboniad pellach yma

Pentreberw: mae'n ymddangos fod y planhigyn berw'r dŵr yn ffynnu yn yr ardal. Enw arall ar y lle yw Holland Arms oddi wrth dŷ tafarn o'r enw hwnnw a enwyd at ôl teulu Holland Plas Berw gerllaw.

Porth Dafarch: er nad oes eglurhad pendant i'r enw hwn mae ysgolheigion yn eithaf sicr nad cywasgiad o Porth Dau Farch ydyw fel y mynn rhai. Y ffurf ar un adeg oedd Porth Davagh ac awgrymwyd mai enw person yw'r ail elfen er nad yw Tafarch yn enw cyffredin iawn.

Porth Swtan: er bod rhai yn mynnu i'r fan hon gael ei henwi ar ôl y milwr Rhufeinig Suetonius Paulinus y dywedir iddo arwain ymosodiad yn erbyn y Derwyddon go brin fod hynny'n gywir ac nad yw swtan yn ddim amgen nag enw pysgodyn sy'n cael ei adnabod fel whiting yn Saesneg!

Rhosneigr: Yr oedd Yneigr yn un o wyrion Cunedda Wledig a dywedir iddo ymladd ochr yn ochr â Chadwallon Lawhir ym Mrwydr Cerrig y Gwyddyl yn y bumed ganrif pryd y cafodd y Gwyddelod eu hel o'r ynys.

Rhostrehwfa: yr enw sy'n gwenud ichi feddwl am lanhau'r tŷ! Cyfuniad yw o Rhos, wrth gwrs, ac enw fferm, Tre Hwfa - Hwfa yn enw ar berson.

Rhos y Gad: enw ar ddarn o dir comin ger Llanfairpwllgwyngyll ac er mor hwylus fyddai cysylltu'r lle a brwydrau oherwydd yr elfen 'cad' yn yr enw mae'n ymddangos mai Rhos y Gath oedd y ffurf wreiddiol gan gyfeirio at gathod gwyllt oedd yn gyffredin ym Môn rai canrifoedd yn ôl.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy